Tân difrifol wedi dinistrio gwesty ar Benrhyn Gŵyr

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Westy'r Worm's Head yn Rhosili toc cyn 01:00
- Cyhoeddwyd
Mae tân difrifol wedi dinistrio gwesty nodedig ar Benrhyn Gŵyr.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod chwe chriw tân wedi'u hanfon i'r digwyddiad yng Ngwesty'r Worm's Head yn Rhosili toc cyn 01:00 fore Llun.
Cafodd platfform ysgol awyr ei ddefnyddio hefyd i fynd i'r afael â'r tân a ddechreuodd yn y bloc llety ac a ymledodd i'r to cyfan.
Cafodd ei ddiffodd tua 05.30.
Ni chafodd neb ei anafu.

Mae gan Westy'r Worm's Head 17 ystafell wely, ac mae golygfeydd ysgubol o Fae Rhosili oddi yno
Ar ôl diffodd y tân, parhaodd diffoddwyr tân i wlychu'r mannau poeth, gyda'r criwiau olaf yn gadael am 09.30.
Roedd Heddlu De Cymru wedi cael eu galw i'r digwyddiad hefyd ac nid yw achos y tân wedi'i ddarganfod eto.
Mae ardal 25 metr o do'r gwesty wedi cwympo, gan adael trawstiau du a simnai agored i'w gweld.
Mewn datganiad ar eu cyfrif cyfrwng cymdeithasol, dywedodd rheolwyr y gwesty nad ydyn nhw'n siŵr "beth i'w ddweud na sut i brosesu'r olygfa hon yn dilyn tân dinistriol".
"Y cyfan y gallwn ei gadarnhau yw bod pawb wedi llwyddo i ddod allan yn ddiogel.
"Dydw i ddim yn siŵr sut y byddwn ni'n dod yn ôl o hyn o gwbl, heb sôn am y dyfodol agos, ond byddwn ni'n ymdrechu i ddod yn ôl yn gryfach.
"Mae'n arbennig o dorcalonnus ac yn ddinistriol i mi a'r teulu weld 25 mlynedd o waith caled yn cael ei ddinistrio mewn llai na 30 munud."

Mae'r tân wedi dinistrio ardal 25 metr o do'r gwesty
Mae gan y gwesty 17 ystafell wely a golygfeydd ysgubol o Fae Rhosili.
Dywedodd Sian Nichol, sy'n ymweld â Rhosili yn rheolaidd, na allai gredu bod cymaint o ddifrod yn dilyn y tân.
"Roedden ni'n arfer dod bob haf. Mae'n hollol syfrdanol ei weld fel hyn.
"Mae'n erchyll. Rydw i mor falch, ac ni allaf gredu bod pawb yn ddiogel, diolch byth.
"Rydw i jyst yn teimlo mor flin dros y busnes."
Mae Beverly a Gareth Parfitt o Weston-super-Mare, oedd yn ymweld â ffrindiau yn Rhosili, yn dweud eu bod "wedi bod yn dod yma ers ychydig flynyddoedd, wedi treulio llawer o flynyddoedd newydd gwych yma, felly i'w weld fel hyn, roeddwn i'n teimlo'n eithaf emosiynol pan wnaethon ni droi'r gornel," meddai Beverly.
Ychwanegodd Gareth: "Y syniad oedd gen i heddiw oedd eistedd y tu allan yno gyda phryd braf a diod gyda'n gilydd.
"Roeddwn i wedi fy siomi yn fawr hefyd, ac mae'n dal i fygu."