Mis Balchder 2024: Pam fod Balchder dal yn bwysig
- Cyhoeddwyd
Mae Pride Cymru yn troi'n 25 oed eleni ac yn ystod penwythnos hwn bydd strydoedd y brifddinas yn llawn fflagiau cynnydd a phobl yn gorymdeithio i ddathlu eu hunaniaeth, ac i amddiffyn eu hawliau.
Dechreuodd Balchder (Pride) fel coffâd blwyddyn o derfysg Stonewall yn 1969, a oedd ei hun yn arddangosiad yn erbyn creulondeb yr heddlu a gynhaliwyd ar fynychwyr LHDTCRhA+ y Stonewall Inn.
Ers hynny, mae digwyddiadau Balchder wedi digwydd ar draws y byd, ac mae Mehefin bellach yn cael ei adnabod fel Mis Balchder.
Ond a oes angen dathlu Balchder o hyd? Ers i Pride Cymru ddechrau 25 mlynedd yn ôl, rydym wedi gweld adran 28 yn cael ei diddymu, cyflwyno’r ddeddf Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw), ac efallai mwy o gynrychiolaeth gyhoeddus o sut beth yw bod yn LHDTCRhA+ nag erioed o’r blaen.
Ac eto, mae troseddau casineb LHDTCRhA+ yn dal i fod yn gyffredin yn y DU, mae pobl LHDTCRhA+ a’u hawliau yn dal i fod yn destun trafod mawr ar draws y cyfryngau a gwleidyddiaeth, ac mae pobl LHDTCRhA+ yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl gwael na’r rhai sydd ddim yn adnabod fel LHDTCRhA+.
Yma mae tri aelod o’r gymuned LHDTCRhA+ yn dweud beth mae Balchder yn ei olygu iddyn nhw, a pham ei fod yn dal yn bwysig.
Mae Lewis, sy'n cael ei adnabod fel Bendigaydfran, yn mynychu Pride Cymru pob flwyddyn.
“Y tro cyntaf es i, roeddwn i yn y brifysgol a doeddwn i ddim 'di dod allan eto. Dwi’n cofio mynd a meddwl ‘waw, ma’ hyn mor cŵl’, ac roedd hi mor neis jest i weld pawb yn dathlu.
"Wnaeth e ysbrydoli fi lot yn fewnol. Wnaeth e wneud i fi deimlo fel oedd e’n iawn i fod ynof i fy hun. Mae’n swnio fel cliché, ond sai’n credu mai pobl sydd ddim yn profi hon yn deall - mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth jest i gael y gwelededd 'na. Rhywbeth mor fach â gweld dau ddyn yn dal dwylo, yn agored yn y stryd. Mae’r teimlad yna o ‘o, dwi’n gallu gwneud hwnna’.
“Mae’n dda i weld hefyd bod Pride Cymru wedi tyfu a thyfu ers hynny, a dwi mor falch ein bod ni’n dathlu yn y castell nawr, achos mae’r castell yn symbol o’r ddinas a chael Pride Cymru yna - mae’n pwysleisio pwysigrwydd y digwyddiad.
"Mae Balchder wastad 'di bod yn symbol o ddiogelu ein hawliau, ond hefyd mae’n ddathliad o'n cymuned a pha mor bell rydyn ni wedi dod. Mae’n siawns i adlewyrchu ar y bobl sydd wedi dod cyn, a oedd yn brwydro dros ein hawliau.
"Mae’n amlwg, dwi’n credu, ein bod ni dal angen Balchder; yn enwedig yn ddiweddar. Tra bod pobl mas na sy’n meddwl mai’r byd yn well hebddyn nhw, jest achos eu hunaniaeth, ni angen Balchder. Tra bod pobl yn meddwl dydyn nhw ddim yn ddigon achos sut maen nhw fel person, achos maen nhw’n caru rhywun o’r un rhywedd, neu eu hunaniaeth rhywedd, mae angen Balchder."
Mae Frankie yn helpu trefnu’r ‘Big Queer Picnic’, a sefydlwyd yn 2011 fel dewis amgen i Pride Cymru.
“Rydym yn anghytuno gyda’r syniad dylen ni dalu i fynychu digwyddiad Balchder. Dechreuodd y picnic fel grwp ohonom mewn y parc gyda gitar acwstig, ond wrth i’r digwyddiad dyfu, rydym nawr, bellach wedi tyfu i fod yn gynulliad gyda system sain, llwyfan, a channoedd o bobl yn ymuno.
“I mi yn bersonol, mae Balchder wastad wedi bod yn hanfodol. Fel person traws, dydw i ddim wedi profi cyfnod lle mae cymdeithas wedi bod yn ddiogel neu'n dda - mae amseroedd wedi bod yn well neu'n waeth nag eraill, ond nid yw Balchder erioed yn golygu parti mawr i mi.
Llais i'r di-lais
Mae bob amser yn fwy na hynny. Rydym am roi llwyfan i bobl cwiar ymylol sydd ddim fel arfer yn cael llais mewn digwyddiadau Balchder prif ffrwd.
“Mae Big Queer Picnic mor hygyrch â phosibl ac rydym yn denu pobl o bob cefndir. Mae'n agored iawn - gallwch ganu, rhoi araith, dawnsio. Y pwrpas yw cael pobl yn cymysgu yn yr haul (gobeithio bod y tywydd yn dal i fyny!), yn rhannu bwyd ac yn ymlacio. Yn y blynyddoedd a fu, rydym wedi cael cynigion priodas, a seremoni enwi ar gyfer person ifanc traws.
“Fodd bynnag, y prif beth yw rhoi llais i'r di-lais o hyd.”
Mae’r Big Queer Picnic yn cymryd lle ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin yng Ngherddi Sophia.
Fe wnaeth Machynlleth ddathlu ei Balchder cyntaf erioed eleni. Un wnaeth helpu gyda'r trefnu oedd Sophia.
“Dechreuodd Balchder Machynlleth drwy grŵp cymunedol cwiar a oedd yn bodoli eisoes, a dyfodd o 'Qrunch' - Queer Brunch. Dros amser ymunodd mwy a mwy o bobl â'r rhwydwaith hwn, ac erbyn hyn mae'n grŵp anffurfiol o tua 80 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt wedi ymuno ar lafar gwlad.
“Roeddem yn meddwl pa ddigwyddiadau Balchder yr oeddem am eu mynychu eleni, ac yna meddwl pam lai trefnu un ein hunain?
Cymerodd tua phedwar i bum mis o genhedlu’r syniad i’r digwyddiad ei hun, ac roedd yn rhyfeddol faint o bobl cwiar yn y cwm bach hwn oedd eisiau dathlu Balchder - ond hefyd, rhyfedd sut nad oedd yn bodoli eisoes! Po fwyaf y buom yn siarad amdano, y mwyaf y clywsom gan gymuned Mach eu bod yn synnu nad oedd hyn yn digwydd eisoes.
“Gwirfoddolodd pawb a gymerodd ran eu hamser, a daethom at ein gilydd i wneud iddo ddigwydd. Fe wnaethom sefydlu codwr arian a chael rhoddion o bob man - cyn belled ag UDA, hyd yn oed. Rhagorwyd ar ein targed o £500 mewn tridiau.”
Dywed Sienna roedd syndod at faint wnaeth y gymuned helpu.
“Os na allent estyn i'w pocedi eu hunain, byddent yn cynnig gwasanaethau mewn nwyddau. Rhoddwyd lleoliadau i ni, rhoddodd busnesau lleol wobrau raffl, bu cynllun Noson Allan yn gymorth i ni roi cychwyn ar y digwyddiad. Cawsom hefyd arian o gronfa Balchder Llawr Gwlad.
“Roedd yn un o'r sefyllfaoedd yna lle byddech chi'n tynnu ar edefyn a byddai'r siwmper gyfan yn dadfeilio - roedd y gefnogaeth yn gwbl werthfawr ac yn eithaf anghredadwy.”
"Roedd yr egni o amgylch y digwyddiad mor llawen, fe ragorodd yn llwyr ar ddisgwyliadau. Wnaeth cannoedd o bobl yn cymryd rhan, ac rydyn ni nawr yn cynllunio am 2025.
Bywiog, agored a chroesawgar
“Mae Balchder yn bwysig oherwydd mae’r gynrychiolaeth yna’n hanfodol. Dyna oedd y grym y tu ôl i'n digwyddiad - y gwelededd hollbwysig hwnnw. A'r dref i gyd a'i gosododd. Wrth i'r gair ledaenu, cymerodd busnesau lleol ran. Roedd y siop sglods lleol yn arddangos baner Balchder!
“Yn bersonol, roeddwn wedi fy nghymhelliant gymaint oherwydd rwy'n gwybod sut brofiad yw eisiau'r gymuned honno. Cefais fy magu mewn pentref bychan ym Mhowys, a threuliais lawer o fy ieuenctid heb weld unrhywbeth cwiar o'm cwmpas.
"Gadawais yn y diwedd a mynd dramor, gan feddwl y byddwn yn gadael y meddylfryd cefn gwlad hwnnw ar fy ôl. Doeddwn i ddim yn gyfforddus yno. Ar y gorau roedd yna brinder, ac ar y gwaethaf roeddwn i'n teimlo nad oedd croeso mawr i mi.
“Fodd bynnag, oherwydd ychydig o ffawd symudais yn ôl i Gymru yn ystod Covid, a chefais fy synnu gan y cynghreiriad a ddangoswyd gan y dref. Cefais wahoddiad i ymuno â’r grŵp cymunedol cwiar, ac yn awr rwy’n eiriol drosto pryd bynnag y byddaf yn cyfarfod â phobl newydd yn y Cwm. Mae'n cynnwys pobl o bob oed, pobl sydd wedi tyfu i fyny yma, pobl o bell ond sy'n mwynhau chwarae rhan ynddo.
“Mae Machynlleth yn fywiog, agored a chroesawgar iawn. Dyna oedd angen i mi feddwl y gallaf fyw a goroesi yma.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2023