Edrych ymlaen at Pride Cymru gyda H o Steps
- Cyhoeddwyd
Y penwythnos hwn fe fydd Pride Cymru yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd.
Mae’r dathliad LHDTC+ yng Nghymru yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed gyda’r digwyddiad wedi newid dyddiad a lleoliad, a’r orymdaith yn dilyn llwybr newydd.
Nos Fawrth, buodd Ian ‘H’ Watkins o’r grŵp pop Steps yn siarad gyda Caryl am fis Pride a’r holl bethau y bydd o’n ei wneud i ddathlu.
“Dw i’n cyflwyno ar y llwyfan yn Pride Cymru dydd Sul. A’r main act yw fy ffrind Claire o Steps!”
Gofynnodd Caryl iddo a fydd o’n ymuno â Claire ar y llwyfan am ddeuawd fach, ac atebodd yn gellweirus gyda “Gawn ni weld...!”
Mae’r canwr sy’n wreiddiol o’r Rhondda yn weithgar iawn, nid yn unig yn genedlaethol a gyda Pride Cymru ond hefyd yn lleol – ef oedd un o sefydlwyr Pride y Bontfaen.
Y frwydr yn parhau
Sefydlodd H Pride y Bontfaen flwyddyn diwethaf ar ôl i regfeydd sarhaus am Pride gael eu peintio ar ddrysgau Neuadd y Dref. Eto, eleni mae mainc Pride yn y dref wedi cael ei difrodi.
Mewn neges ar ei gyfrif Instagram yn dangos y difrod, dywedodd:
“Ychydig ddiwrnodau’n ôl roedd hon yn fainc brydferth, liwgar o liwiau’r enfys yn dathlu cynwysoldeb ac amrywiaeth a charedigrwydd. Dyma pam rydan ni’n cynnal Pride.
"Dw i’n teimlo’n siomedig iawn am hyn. Dw i’n gwybod mai dim ond mainc yw hi, ond mae’n symbol ac yn ddatganiad o gariad a chynwysoldeb. Mae’n rhywbeth dw i wedi gweithio mor galed amdano.
"Mae’n tref ni’n brydferth a dw i’n caru’r Bontfaen. Does gen i ddim syniad pam y byddai rhywun yn gwneud hyn. Mae casineb yn dal i fodoli ac mae’n gwneud i mi sylweddoli bod y frwydr yn parhau.”
Ond, mae’r canwr yn parhau i fod yn optimistaidd. Mae’n dweud bod Maer y Bontfaen, Malcolm Wilson wedi bod yn gefnogol iawn i Pride. Cynhaliwyd Bore Coffi gyda’r Maer yn gynharach ym mis Mehefin, eglurodd: “Mae Malcolm yn ddyn hyfryd, jyst ffantastig.” Yn wir, roedd wedi dod i ddigwyddiadau Pride y gorffennol mewn sannau a chrys enfys Pride!
Wrth edrych ymlaen at wythnos Pride yn ei dref dywedodd H, sy’n dysgu Cymraeg, am y cyffro sy’n nodweddiadol ohono, “[Mae] lot o events. Gala y Bontfaen, a parêd blwyddyn yma. Mae’r parêd ar Fehefin 24 trwy’r stryd ac ar ôl y parêd mae disgo.”
Bydd digwyddiadau bychain yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos hefyd gan gynnwys noson Gŵyl Ffilmiau’r Iris Prize a sesiwn LGBTQ+A sef sesiwn mewn gofod diogel i bobl ddod i ofyn cwestiynau am unrhyw beth LHDTC+.
Mwy o ddigwyddiadau Pride
Chwarae’r Chwedlau, The Queer Emporium, Caerdydd – 15 Mehefin
Noson gomedi wreiddiol yw Chwarae’r Chwedlau sy’n cyfuno drag, comedi, cerddoriaeth a chwedlau Cymru! Bydd perfformwyr fel Catrin Feelings, Sara Huws, Laurie Watts a mwy yn cyflwyno eu dehongliadau nhw o chwedlau a mytholeg Cymru yn eu dull hwyliog, syfrdanol a cwiar eu hunain dan arweiniad cyflwynydd Radio Cymru a Radio Cymru 2, Mirain Iwerydd.
Blanc ydi Blanc, Llyfrgell Caernarfon – 22 Mehefin
Bydd y clwb llyfrau LHDTC+, Llyfrau Lliwgar, yn cynnal sesiwn hwyliog yn Llyfrgell Caernarfon rhwng 11:00 a 12:00 fore dydd Iau yr 22 o Fehefin. Gêm o lenwi’r bylchau yw Blanc ydi Blanc ac mae’r criw am annog pawb i fod mor greadigol â hoffen nhw fod! Mae’r sesiwn yn addo digonedd o chwerthin a hwyl, ac mae’r cwbl am ddim.
Pride Gogledd Cymru, Caernarfon – 24 Mehefin
Bydd dau gig yn cael eu cynnal, un yn Neuadd y Farchnad ac un yn Yr Hen Lys gydag artistiaid fel Tara Bandito, Achlysurol, Lily Beau a Ffatri Jam yn perfformio. Yn ogsytal fe fydd parêd, stondinau a gweithdai yn y dref.