Y tân mawr ar Fynydd Bodafon ym Môn o dan reolaeth

Ar un adeg nos Wener roedd y tân maint 1,500 metr sgwâr
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn ceisio rheoli tân mawr ar Fynydd Bodafon ym Môn dros nos a fore Sadwrn.
Amser cinio ddydd Sadwrn dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân nad oedd neb wedi cael anaf na'r un eiddo wedi cael difrod.
Ychwanegodd bod y prif fflamau bellach o dan reolaeth ac mai'r gwaith erbyn hyn oedd diffodd y gweddillion oedd yn parhau i losgi.
Ar un adeg nos Wener roedd y tân maint 1,500 metr sgwâr.

Mewn datganiad cynharach fe ddywedodd y gwasanaeth "bod nifer o bobl wedi troi fyny yn yr ardal nos Wener a bod cerbydau'n rhwystro'r llwybrau i'r gwasanaethau brys".

Nos Wener fe ychwanegodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân bod ffyrdd ger yr ardal ar gau ac y byddai y criwiau tân yn bresennol am yr oriau nesaf.
Dywedodd llefarydd eu bod wedi cael llawer o alwadau am y digwyddiad, ac roedd yna anogaeth i'r cyhoedd beidio â ffonio 999 i roi gwybod am y digwyddiad gan eu bod eisoes yn bresennol ac yn ymwybodol o'r tân.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.