Dynes 61 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Bont Llwchwr

Roedd y cerbyd fu'n rhan o'r gwrthdrawiad yn teithio ar hyd Pont Llwchwr tuag at Orseinon
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 61 oed o Aberdâr wedi marw mewn gwrthdrawiad yn sir Abertawe nos Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 22:58 yn dilyn adroddiadau yn ymwneud â char Ford Puma oedd yn teithio ar Bont Llwchwr tuag at Orseinon.
Mae teulu'r ddynes fu farw wedi cael gwybod ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu gyda nhw.