Ysgol Gymraeg Y Fenni yn ehangu ac yn symud ym mis Medi
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgol Gymraeg y Fenni yn ehangu ac yn paratoi i symud i safle newydd newydd ym Medi 2025.
Dywed Cyngor Sir Fynwy y bydd symud i gyn-safle Ysgol Gynradd Deri View yn dangos "eu hymrwymiad i ddyfodol yr iaith Gymraeg yn Y Fenni a Sir Fynwy ac yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".
Ym mis Medi bydd nifer y disgyblion yn yr ysgol yn cynyddu i 420 a bydd 60 yn y dosbarth meithrin.
Fe agorodd yr ysgol yn 1994. Mae lle i 317 yn yr adeilad presennol ond mae cyfran helaeth o'r gofod yn cynnwys ystafelloedd dosbarth dros dro sy'n cael eu rhentu gan Gyngor Sir Fynwy.
'Wrth ein bodd'
Mae ysgol Deri View eisoes wedi ffurfio ysgol newydd 3-19 oed gydag ysgol King Henry ac maen nhw'n gobeithio symud i adeilad newydd pwrpasol ym mis Ebrill 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Sir Fynwy: "Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi'r cyfnod newydd hwn i Ysgol Gymraeg Y Fenni.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y rhai sy'n gwneud cais i fod yn Ysgol Gymraeg Y Fenni sy'n dangos y diddordeb cynyddol yn y Fenni mewn addysg cyfrwng Cymraeg."
"O fis Medi 2025, bydd Ysgol Gymraeg y Fenni yn cynyddu ei darpariaeth, ac edrychwn ymlaen at y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023