A fydd canolfannau bancio yn achub y stryd fawr?
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn Nhreorci yn poeni am ddyfodol eu stryd fawr am nad oes digon o arian ar gael mewn peiriannau 'twll yn y wal'.
Fe gaeodd cangen olaf y banc Barclays yn y dref fis Ebrill ac mae'r peiriannau pres sy'n weddill yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw.
Daw hyn wrth i ymchwiliad gan y Pwyllgor Materion Cymreig ddarganfod bod mwy nag 20 o ganghennau banc wedi cau yng Nghymru eleni.
Mae Barclays wedi dweud eu bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi cwsmeriaid, yn dilyn cau cangen Treorci.
'Rydym ni wedi gorfod troi cwsmeriaid i ffwrdd'
Ar Stryd Bute yn y dref, mae Sara Bailey yn rhedeg siop goffi Hot Gossip.
Dywedodd bod ei busnes ac eraill wedi dioddef ers i fanc Barclays gau ei ddrysau fis diwethaf.
“Pan aeth Barclays, fe aeth â’r arian parod oedd ganddo. Dywedodd staff y banc wrtha’ i mai hwn oedd y peiriant arian prysuraf yn ne Cymru!
“Mae gennym ni ddau beiriant arian arall yn y dref, ac roedd yn cyrraedd pwynt lle’r oedd gormod o alw arnyn nhw.
“Rydym yn fusnes arian parod yn unig yma, felly rydym wedi gorfod troi cwsmeriaid i ffwrdd. Mae rhai busnesau eraill yma wedi gorfod gwneud yr un peth.”
Ar y stryd fawr, ychydig ddrysau i lawr o Hot Gossip, mae Nicola Lund yn helpu ei thad i redeg siop gardiau.
“Mae’r broblem gyda’r arian parod yn cael llawer o effaith yma,” meddai.
"Mae'r swyddfa bost dipyn o ffordd i mewn i’r dref hefyd, felly os oes rhaid i bobl hŷn gerdded i lawr yno i gael arian parod, a dydyn nhw ddim eisiau cerdded yn ôl, dydw i ddim yn eu beio.’
"Mae 'na siop ffôn symudol drws nesaf i ni, sydd wedi dweud wrthon ni fod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng ers i’r banc gau.
"Rwy’n poeni am ddyfodol y busnes oherwydd hyn."
Nid Treorci yw'r unig le sy'n wynebu problem o'r fath.
Mae Aberpennar, sydd hanner awr o Dreorci, yn wynebu sefyllfa debyg.
Does gan y dref ddim banc ers i fanc Lloyds gau yn 2017.
Er hynny, mae disgwyl i ganolfan fancio agor yno'r flwyddyn nesaf.
Bydd y ganolfan yn cael ei rhedeg gan weithwyr Swyddfa'r Post, gyda chwsmeriaid unrhyw fanc yn gallu codi arian parod, a gwneud taliadau.
Bydd y gwasanaeth yn ymuno â saith arall ledled Cymru ac mae dau ohonyn nhw eisoes wedi agor - yn Y Trallwng a Phrestatyn.
Mae disgwyl i ganolfannau agor yn Abergele, Abertyleri, Treforys, Porthcawl a Rhisga yn y dyfodol.
Canolfan fancio newydd
Yn Nhreorci, mae safle dros dro wedi ei hagor, yn eironig, ar safle hen fanc Barclays ar Stryd Bute.
Bydd yr hwb, fel y gweddill yng Nghymru, ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng naw y bore a phump y nos.
“Rwy’n gobeithio y bydd yn helpu i leddfu rhywfaint o’r pwysau sydd ar y peiriannau arian parod” meddai Sara.
“Ond fydd y gwasanaeth ddim ar gael gyda’r nos nac ar benwythnosau, felly bydd yn effeithio ar yr economi gyda’r nos sydd gennym yma hefyd."
Mae ymchwil gan y sefydliad defnyddwyr Which? yn awgrymu erbyn diwedd 2025, y bydd Cymru wedi colli dwy ran o dair o’r canghennau banc a oedd ar agor yn 2015, gan adael dim ond 188 ar ôl yn y wlad.
Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi dechrau ymchwiliad i’r sefyllfa o ran cau banciau yng Nghymru, yn ogystal â mynediad at wasanaethau.
Maen nhw wedi darganfod bod nifer y canghennau banc a chymdeithasau adeiladu yng Nghymru wedi gostwng o 695 yn 2012, i ddim ond 435 yn 2022, ac y bydd 22 o ganghennau banc y stryd fawr yn cau yn 2024.
“Rydym wedi gweld tuedd gynyddol dros amser o fanciau yn gorfod adolygu costau rhedeg eu canghennau,” meddai Adrian Buckle, Pennaeth Ymchwil UK Finance.
“Os ewch yn ôl 15 mlynedd, roedd chwech o bob 10 taliad a wnaethom yn cael eu gwneud gan ddefnyddio arian parod – ond, ers llynedd, mae hyn wedi gostwng i tua 14% o’r taliadau”.
Dywedodd Adrian, er nad yw’n disgwyl i ganghennau banc ddod yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol, y gallai’r ffordd y mae banciau’n gweithredu ar y stryd fawr newid, wrth ganolfannau bancio agor.
“Rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y byddwn yn gweld y diwydiant cyfan yn manteisio arno, a bydd hynny’n rhywbeth a fydd yn dda i ddefnyddwyr”.
Tueddiadau cwsmeriad wedi newid yn sylweddol
Mewn datganiad, mae Barclays wedi dweud bod tueddiadau cwsmeriaid wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi’i adlewyrchu yng nghangen Treorci, gyda’r mwyafrif bellach yn dewis bancio ar-lein.
Ychwanegodd eu bod wedi darparu fan symudol ddeuddydd yr wythnos, ers i'r gangen gau.
Mae Cash Access UK wedi cadarnhau ei fod yn y broses o gael safle yn y dref i ddarparu cartref parhaol i’r ganolfan fancio.
Dywedodd y cwmni i ganolfan fancio gael ei hargymhell ar gyfer Treorci'r llynedd gan gwmni LINK.
Fe wnaethon nhw ychwanegu y bydd yr ganolfan dros dro yn parhau i fod ar gael, hyd nes bod y ganolfan barhaol newydd yn agor.