Cyfnod clo wedi 'achub bywyd' menyw ifanc sy'n byw ag OCD

Alys-MaiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alys-Mai yn rhannu ei phrofiadau o fyw ag OCD

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc sy'n byw â'r cyflwr OCD (obsessive compulsive disorder) yn dweud bod y cyfnod clo wedi achub ei bywyd.

Mae Alys-Mai o Sir Gaerfyrddin wedi byw ag OCD ers ei bod yn 17 oed, ond dywedodd ei bod wedi byw â symptomau am dair blynedd cyn hynny.

Dywedodd fod y cyflwr wedi arwain at gyfnodau tywyll iawn, ond fod y cyfnod clo wedi "achub bywyd fi, achos oedd popeth o dan reolaeth, o'n i jyst yn stafell fi, o'n i ddim yn gweld neb tu fas".

Yn ôl elusen OCD Action, mae'r cyflwr yn effeithio ar tua 1-2% o boblogaeth y Deyrnas Unedig.

'Rhywbeth ddim cweit yn iawn'

Pan oedd Alys-Mai o Rydaman yn 14 oed, sylwodd fod "rhywbeth y tu fewn i fi ddim cweit yn iawn".

"Fi'n credu oedd rhyw fath o imbalance ynddo fi 'na'th switcho yn fy ymennydd a na'th 'neud gor-bryder fi i fynd i lefel arall," meddai wrth Cymru Fyw.

"Oedd hwn yn seiliedig ar compulsions a digwyddiadau a gweithgareddau i 'neud i fi deimlo'n well.

"Yr unig ffordd o'n i'n gallu setlo'r gor-bryder yma oedd y compulsions 'ma."

Dywedodd iddi glywed lleisiau yn ei phen oedd yn dweud "touch this or this is going to happen, hwn oedd yr unig beth oedd yn mynd 'mlaen yn fy ymennydd am flynyddoedd".

"Os o'n i ddim yn cwblhau'r compulsion yna oedd 'y niwrnod i wedi ei strwa."

Alys-MaiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Alys-Mai: Pwysig normaleiddio'r sgwrs am OCD am ei fod mor anodd i'w egluro

Mae Alys-Mai yn cydnabod y bydd y cyflwr yn debygol o fod yn rhan o'i bywyd am byth, ond dywedodd ei bod bellach yn deall sut i ddelio ag ef.

Pwysleisiodd pa mor bwysig yw normaleiddio'r sgwrs am y cyflwr am ei fod "mor anodd" i'w esbonio.

"Fi'n gwybod fod lot o bobl yn meddwl fod OCD yn beth quirky, o ran glanhau, ond mae 'na hefyd yr elfen o compulsions.

"Ma' OCD yn beth rili mawr ac mae'n rili anodd taclo fe eich hunan achos fod gymaint o elfennau."

'Sgwennu am gyflwr sy'n cael ei gamddeall'

Un arall sydd wedi byw ag OCD yw Martha Ifan o Gaerfyrddin.

Mae hi wedi mynd ati i sgwennu'r ddrama '12' er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

"O'n i'n meddwl fod e'n bwysig iawn sgwennu am OCD oherwydd o'n i'n meddwl ei fod e'n bwnc sy'n cael ei gynrychioli'n anghywir yn aml," meddai.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "gyflwr sy'n cael ei gamddeall gan lawer o bobl felly o'n i eisiau sgwennu portread eithaf gonest o'r cyflwr".

Ysgrifennodd y ddrama i gychwyn ar gyfer cystadleuaeth medal ddrama Eisteddfod yr Urdd gan ddatblygu'r darn hwnnw i fod yn ddrama awr o hyd.

Martha IfanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd drama Martha Ifan yn cael ei pherfformio yn Llundain fis Mawrth

"Da'th y syniad am godi ymwybyddiaeth o OCD a chreu darlun gonest o'r cyflwr... ac unwaith ges i'r syniad o'n i'n methu stopio sgwennu," meddai Martha.

"Un o'r prif fwriadau oedd 'da fi oedd chwalu tabŵ ac i hwyluso'r sgwrs am iechyd meddwl.

"Mae'n brofiad hyfryd fod rhywbeth da wedi dod o gyflwr sy'n anodd iawn i fyw ag ef a'r peth mwyaf pwysig i fi yw dechrau sgwrs a lledaenu darlun lot mwy eang o'r cyflwr.

"Y prif nod yw bod pobl yn gadael y theatr wedi dysgu rhywbeth a bod 'na sgwrs yn digwydd am y cyflwr a bod pobl yn dod i ddeall sut all y cyflwr effeithio ar unigolion."

Beth yw OCD?

  • Mae OCD yn cael ei ddisgrifio fel cyflwr iechyd meddwl lle mae unigolyn yn profi meddyliau obsesiynol ac ymddygiad gorfodaethol (compulsive);

  • Gall effeithio dynion, menywod a phlant fel ei gilydd;

  • Gall unigolion gychwyn profi symptomau mor ifanc â chwe blwydd oed, ond mae'n aml yn datblygu yn ystod y glasoed a blynyddoedd cynnar oedolyn;

  • Gall OCD achosi llawer o straen ac amharu llawer ar fywyd unigolyn, ond mae modd ei reoli wrth gymryd triniaeth.

Ffynhonnell: Gwefan GIG