Cyhuddo pedwar wedi tân 'bwriadol' mewn adeilad hanesyddol ym Môn

Disgrifiad,

Fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i Neuadd y Sir, Llangefni, ym mis Rhagfyr 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar "unigolyn ifanc" wedi cael eu cyhuddo o losgi bwriadol yn dilyn tân mawr wnaeth ddifrodi adeilad hanesyddol ar Ynys Môn.

Fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i Neuadd y Sir, Llangefni, ym mis Rhagfyr 2023.

Roedd siambrau hen gyngor bwrdeistref yr ynys a'r cyngor presennol yn arfer bod yn yr adeilad, sy'n dyddio o'r 19eg ganrif.

Tan yn ddiweddar roedd Cyngor Tref Llangefni yn cyfarfod yno hefyd.

Bydd y pedwar diffynnydd, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, yn ymddangos yn Llys Ieuenctid Caernarfon fis Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig