Cerdyn post 121 oed yn arwain at uno teulu
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi cwrdd am y tro cyntaf ar ôl i gerdyn post gael ei anfon 121 mlynedd yn hwyr.
Nid oedd yr aelodau o'r teulu yn gwybod am fodolaeth ei gilydd cyn y digwyddiad.
Fe gyrhaeddodd y cerdyn Gymdeithas Adeiladu Abertawe yr wythnos ddiwethaf, er iddo gael ei anfon i’r cyfeiriad yn wreiddiol ym 1903.
Mae'r cerdyn wedi'i ysgrifennu gan ddyn o'r enw Ewart, a "L".
Mae'n dweud fod hi'n "ddrwg" ganddo na all gael "pâr" o eitem.
Mae'n ychwanegu: "Mae'n ddrwg gen i, ond gobeithio eich bod chi'n mwynhau'ch hun gartref."
Mae Ewart yn parhau gan ddweud fod ganddo tua 10 swllt "mewn arian poced, heb gyfri'r tocyn trên, felly dwi'n gwneud yn iawn".
Ers hynny mae BBC Cymru wedi darganfod bod Ewart a "L", sef Lydia, yn frawd a chwaer.
Roeddent yn ddau o chwech o blant a oedd yn byw yn 11 Craddock Street ym 1903, gyda'u rhieni, John F Davies, a Maria Davies.
Roedd Mr Davies yn berchen ar siop siwt ar lawr gwaelod y tŷ.
Enw llawn Ewart oedd John Ewart Davies, ac enw llawn Lydia oedd Lydia Marie Davies.
Dywedodd Henry Darby, o Gymdeithas Adeiladu Abertawe, ei fod am geisio canfod aelodau o’u teulu er mwyn eu "haduno" â’r cerdyn post, ac wythnos yn ddiweddarach, dyna ddigwyddodd.
Mae Nick Davies, o Sussex, yn ŵyr i Ewart.
“Rydyn ni wedi darganfod y byddai Ewart wedi bod yn 13 oed ar y pryd - bachgen ysgol oedd yn treulio gwyliau’r haf yn nhŷ ei dad-cu yn Abergwaun,” meddai.
“Mae’n ymddangos bod ei chwaer hynaf, Lydia, wedi casglu cardiau post, a dyma’r cerdyn post oedd wedi’i anfon yn ôl adref i Abertawe.
“Mae’n dweud 'mae’n ddrwg gennyf, ni allwn gael y pâr i chi', felly rwy’n meddwl ei fod yn cyfeirio at bâr o gardiau post.”
Cysylltodd Nick â BBC Cymru ar ôl gweld y stori gan ddweud fod yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn “rhyfeddol.”
“Dwi wedi darganfod aelodau o'r teulu nad oeddwn yn gwybod am eu bodolaeth.
“Mae fel aduniad teuluol, ond yr unig gysylltiad sydd gennych yw aelod o’r teulu sy’n dyddio ’nôl dros 100 mlynedd.”
Mae’r chwiorydd Helen Roberts a Margaret Spooner o Abertawe yn or-nithoedd (great nieces) i Lydia.
Eu tad oedd David Stanley Davies, brawd Lydia ac Ewart.
Fe wnaethon nhw gwrdd â Nick am y tro cyntaf ddydd Mercher yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe.
Dywedodd Helen ei bod wedi bod yn creu ei choeden deulu ers chwe blynedd, ac nid oedd wedi sylweddoli fod ganddi berthnasau eraill.
“Mae’n emosiynol oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod bod yr aelodau hyn o’r teulu yn bodoli.
“Mae ganddyn nhw wybodaeth a ffotograffau o genedlaethau blaenorol, ac mae’n rhoi’r cyfan at ei gilydd," meddai.
Sut ddaeth y cerdyn post yn ôl?
Mae Margaret yn credu bod ganddi'r atebion ynghylch sut y daeth y cerdyn post yn ôl i 11 Craddock Street 121 mlynedd yn ddiweddarach.
“Y llynedd fe wnaethon ni glirio’r tŷ, ac roedd llawer o Feiblau yn cynnwys lluniau teulu ynddyn nhw,” meddai.
“Wnaethon ni gwerthu’r Beiblau, a ni’n credu efallai fod y cerdyn post wedi disgyn allan o’r Beibl, ac fe wnaeth rhywun dod o hyd iddo a phenderfynu ei roi yn ôl yn y system bost."
Faith Reynolds o Ddyfnaint, yw gor-wyres Lydia.
Fe wnaeth Faith hefyd gyfarfod Nick, Margaret a Helen am y tro cyntaf yn y gwasanaeth archifau, a dywedodd nad oedd “erioed wedi meddwl fod ganddi “berthnasau ychwanegol”.
“Cysylltodd rhywun â ni ynglŷn â’r stori, ac fe ddywedon nhw eu bod nhw’n meddwl bod y cerdyn post yn perthyn i’n teulu ni, a ro' ni methu credu'r peth”, meddai.
“Mae’n gyffrous iawn cwrdd â’r perthnasau newydd, a dwi methu aros i weld beth arall y gallwn ei ddarganfod am ein teulu.”
'Hanes o'n cwmpas ym mhobman'
Ar ôl darganfod yr holl berthnasau oedd yn gysylltiedig â’r cerdyn post, penderfynwyd y dylid cadw’r cerdyn yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yng nghanolfan ddinesig Abertawe.
Dywedodd Henry Darby, swyddog marchnata a chyfathrebu Cymdeithas Adeiladu Abertawe: “Do'n ni byth yn disgwyl i gymaint o berthnasau a chenedlaethau cysylltu."
Ychwanegodd eu bod wedi penderfynu cartrefu'r cerdyn post yna er mwyn "iddo gael ei fwynhau fel yr hyn sy’n cael ei adnabod fel cerdyn post enwocaf Abertawe”.
Dywedodd Andrew Dulley o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg: “Mae’n hyfryd ei gael yma.
“Mewn sawl ffordd, mae’n eithaf anhygoel - efallai'r dyddiau hyn allai fod yn neges destun.
“Ond i mi, mae’n tanlinellu’r ffaith nad yw hanes yn rhywbeth sy’n eistedd yn y bocs ac yn aros yno. Mae hanes o’n cwmpas ym mhobman ac rydyn ni i gyd yn rhan ohono.”