'Rhaid byw bywyd gwyrdd er mwyn cadw ein cartref'

Fe gostiodd y cartref £150,000 - £50,000 yn fwy na'r gyllideb wreiddiol
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Sir Benfro wedi disgrifio sut y mae'n rhaid iddyn nhw fyw bywyd eco-gyfeillgar fel amod o'r hawl i godi cartref gwyrdd am £150,000 mewn coedwig.
Fe gododd Abigail a Marcus Beck eu cartref dan y cynllun Un Blaned, sy'n unigryw i Gymru - polisi cynllunio allanol sy'n monitro eu bywydau bob dydd, gan ystyried ffactorau fel hyd taith cynwhysion y bwyd ar eu platiau.
"Mae'n archwilio bob rhan o'n bywyd o sut ydyn ni am brynu dillad yn y dyfodol i ba bwydydd ry'n ni'n eu tyfu a'u bwyta," meddai Marcus.
Dywedodd Abigail, cyn-ohebydd gyda BBC Cymru, y bydden nhw'n cael eu monitro am y bum mlynedd gyntaf yn y tŷ.
Yn ôl ei gŵr os nad ydyn nhw'n byw yn ôl y gofynion, fe fyddan nhw'n cael eu "taflu mas" a bydd y tŷ yn cael ei dynnu i lawr.
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
Mae telerau'r cynllun Un Blaned yn caniatáu codi adeiladau sero carbon ar dir na fyddai fel arall yn bosib.
Mae caniatâd cynllunio'n cael ei roi i ddatblygwyr sy'n gallu profi ei bod hi'n bosib sicrhau incwm sylfaenol o'r tir a diwallu eu holl anghenion ynni a dŵr, gan roi tystiolaeth yn cynnwys adroddiadau blynyddol a chyfrifon ariannol.

Mae Abigail a Marcus Beck yn falch o'u cartref, er sawl problem yn ystod y broses o'i godi
"Mae'n rhaid i chi allu cael ffordd o fyw sy'n gyfoes ond does dim rhaid i hynny fod yn un sy'n defnyddio llawer o garbon," dywedodd Abigail.
Ger eu cartref mae yna ardd gymunedol a fydd yn cyflenwi 35% o fwyd y teulu.
Mae'r broses o godi'r tŷ wedi ei dangos yn y gyfres Channel 4, Grand Designs.
Fe gafodd ei ddylunio gan Marcus, sydd â chwmni dylunio, gyda chyllideb o £100,000 a dim cynllun ffurfiol.
Fe ddefnyddiodd y cwpl goed o'r goedwig oedd mewn perygl oherwydd clefyd, neu'n ar fin bygwth strwythr y tŷ.

Fe ddechreuodd y gwaith adeiladu yn 2023, dan ddod i ben yn ystod yr haf eleni
Fe ddechreuodd y gwaith yn 2023, gan godi dau strwythur symudol y mae modd i'w symud ar wahân.
Gwydr ail-law sydd yn y ffenestri ac mae hen bapurau newydd wedi eu gosod tu ôl i fordiau ffeibr-pren caled er mwyn insiwleiddio'r eiddo.
Fe gododd ambell broblem wrth godi'r tŷ - er enghraifft, fe ddiferodd ddŵr trwy darpolin gan anffurfio'r bordiau pren.
Bu'n rhaid i'r cwpl hefyd fenthyg arian gan berthnasau ar ôl gwario'u holl gynilion, ac fe gododd cost y datblygiad i £150,000.

Mae'r cynllun datlbygu Un Blaned yn unigryw i Gymru, gan ganiatáu codi adeiladau mewn mannau ble na fyddai'n bosib fel arfer i gael caniatâd cynllunio
Marcus ei hun wnaeth cryn dipyn o'r gwaith adeiladu.
"Yr her fawr oedd dewis y deunyddiau cywir, sy'n costio mwy yn aml," dywedodd wrth raglen Radio Wales Drive.
Golyga hynny, medd y cwpl, bod y gost dan y polisi draean yn uwch, ond eu bod bellach yn elwa o "system ynni solar gwych a thunelli o ynni".
Daeth y gwaith i ben ym mis Gorffennaf, a dyw'r cwpl ddim wedi difaru dilyn y trywydd yma.
Maen nhw'n awyddus i herio rhagdybiaethau ynghylch byw bywyd gwyrdd.
"Rwy'n cofio teimlo bod yn benderfynol i brofi eich bod yn anghywir... bod hyn yn rhywbeth gallwch chi fod yn falch ohono," dywedodd Abigail.
"Gall Sir Benfro fod yn falch o ddweud eu bod wedi hwyluso hyn, gall Cymru fod yn falch ohono. Maen nhw wedi galluogi'r math yma o greadigrwydd i ffynnu, ac mae'n ffordd gynaliadwy."
Rhai'n beirniadu'r cynllun Un Blaned
Hyd at fis Ionawr eleni, roedd 53 o geisiadau datblygu Un Blaned wedi cael eu cymeradwyo (gwefan uniaith Saesneg), dolen allanol.
Mae'r cynllun wedi ennyn beirniadaeth, ac amheuaeth y byddai'n anodd i'w fonitro.
Mae pryderon hefyd fod cartrefi eco yn cael caniatâd, tra bod ffermwyr ddim yn cael codi bythynnod ar eu tir ar gyfer eu plant.
Dywed Llywodraeth Cymru y dylai cynghorau ddyfarnu ceisiadau "mewn ffordd synhwyrol a chyson".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.