Cynlluniau i greu Caerdydd yn garbon niwtral erbyn 2030
- Cyhoeddwyd
Gall Caerdydd "osod esiampl" drwy fod yn brifddinas carbon niwtral o fewn degawd, medd arweinydd cyngor y ddinas.
Mae'r Cynghorydd Huw Thomas yn cyfadde' fod y targed, sy'n cael ei amlinellu mewn strategaeth newydd, yn "her sylweddol".
Does dim disgwyl i Gymru a'r DU gyrraedd nod tebyg i dorri allyriadau cyn 2050.
Ond mae Mr Thomas wedi annog trigolion y ddinas a busnesau i "wthio'u hunain ymhellach".
Mae rhybuddion y gallai newid hinsawdd gael "effaith sylweddol" ar y brifddinas arfordirol wrth i lefelau'r môr godi.
Mae strategaeth y cyngor yn cynnwys mwy o gynlluniau trydan a gwresogi gwyrdd, mwy o blannu coed a ffermydd dinesig i gyflenwi bwyd.
Bydd yna ymgynghoriad am bum mis i roi cyfle i'r cyhoedd roi ei syniadau.
Mae holl gynghorau Cymru yn gweithio tuag at darged Llywodraeth Cymru o sicrhau sector gyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.
Mae hynny'n golygu lleihau allyriadau'n ddramatig yn yr ardaloedd y mae ganddyn nhw reolaeth drostyn nhw.
Ond mae arweinwyr Caerdydd yn dweud eu bod am fynd ymhellach, gan annog busnesau a'r cyhoedd i weithio gyda nhw i sicrhau bod y ddinas gyfan yn peidio cyfrannu at gynhesu byd-eang erbyn yr un flwyddyn.
Bydd hynny'n her sylweddol - o gofio nad oes disgwyl i Gymru a'r DU gyrraedd yr un nod cyn 2050.
Ers 2005 mae allyriadau carbon uniongyrchol cyngor Caerdydd wedi gostwng 45% tra bod allyriadau'r ddinas o dai wedi gostwng 38% ac yn y sector diwydiannol a masnachol 55%.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Yn ddiamau, mae'r her yn sylweddol.
"Mae'r cyngor wedi gwneud cynnydd cyson dros y pum mlynedd ddiwethaf ac mae gyda ni syniad clir o beth sy'n bosib ei gyflawni.
"Mae hwn yn gosod yr her, mewn gwirionedd, i bobl Caerdydd, i fusnesau a chyrff sector cyhoeddus eraill y ddinas i weithio gyda ni fel y gallen ni wthio'n hunain ymhellach a gwneud yr hyn y gwyddwn y dylid wedi hen ddigwydd.
"Ry'n ni'n gwybod fod ein hinsawdd yn newid, ry'n ni'n gwybod bod ein ffordd o fyw yn anghynaladwy felly nawr yw'r amser am newid."
Huw Thomas lansiodd y strategaeth 'Caerdydd Un Blaned', a fydd yn cael ei chyflwyno i'w gabinet i'w chymeradwyo yr wythnos hon, ar safle fferm solar 9MW newydd y cyngor.
Wedi'i hadeiladu ar hen safle tirlenwi Lamby Way - sy'n cyfateb o ran maint i 20 o gaeau Stadiwm y Principality - mae ganddi'r gallu i gynhyrchu digon o drydan gwyrdd i bweru tua 2,900 o gartrefi am y 35 mlynedd nesaf.
Mae'n un o nifer o fesurau sy'n rhan o'r strategaeth, sydd hefyd yn cynnwys defnyddio "gwres gwastraff" o losgydd ym Mae Caerdydd i dwymo adeiladau ledled y ddinas.
Mae hefyd yn fwriad gorchuddio 25% yn fwy o'r ddinas gan ganopi coed ac ailddatblygu camlesi hanesyddol yng nghanol y ddinas fel rhan o gynllun rheoli dŵr cynaliadwy i osgoi llifogydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'r ystadegau'n dangos bod Caerdydd yn ddinas tair planed ar hyn o bryd.
"Pe bai pawb yn y byd yn defnyddio adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu carbon deuocsid i'r graddau rydyn ni'n ei wneud yng Nghaerdydd, byddem angen adnoddau tair planed i'n galluogi ni i gario mlaen fel ry'n ni.
"Yn gwbl amlwg mae'n rhaid i ni ildio rhywbeth. Rwyf am i bobl ymuno â ni ar y daith hon wrth i ni anelu at adeiladu dyfodol gwell a gwyrddach.
"Mae'r ddogfen hon yn nodi'r gwaith gwych rydym wedi'i wneud hyd yma wrth yrru'r ddinas tuag at ddyfodol carbon niwtral, ond mae llawer i'w wneud eto," ychwanegodd.
Beth arall sydd yn y strategaeth?
Dywed y cyngor y bydd yn darparu 1,500 o gartrefi cynaliadwy ledled y ddinas, ac ystâd dai beilot ddi-garbon ar safle hen ysgol Eastern High.
Mae addewid hirdymor am wasanaeth tramiau yn y ddinas a chyfleusterau parcio a theithio newydd wrth gyffyrdd 32 a 33 o'r M4.
Bydd y cyngor yn bwrw ati hefyd i gyflwyno tâl tagfeydd yn y ddinas ac ailfodelu ffyrdd i ffafrio bysiau, beicwyr a cherddwyr.
Bydd waliau gwyrdd, i amsugno CO2, yn cael eu plannu y tu allan i ysgolion.
Cynigir "ymdrech plannu coed sylweddol", gyda'r potensial o sefydlu fferm goed i'w cyflenwi.
Bydd uned dyfu hydroponeg yn cael ei agor ym Mharc Bute gan ddefnyddio cynhwysydd llongau sy'n gallu tyfu'r hyn sy'n cyfateb i 3.5 erw o fwyd.
Bydd tir sy'n eiddo i'r cyngor ar gael i grwpiau cymunedol dyfu bwyd gyda'r posibilrwydd o lunio 'parc bwyd' i ddod â grwpiau at ei gilydd mewn un lleoliad.
Bydd marchnad Caerdydd yn cael ei hailwampio'n "farchnad fwyd gynaliadwy a lleol".
Bydd gwaharddiad ar ddefnyddio plastigion un tro yn adeiladau'r cyngor a chynlluniau hefyd i newid y bagiau gwyrdd plastig a ddarperir i bobl ar gyfer ailgylchu am sachau y gellir eu hailddefnyddio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018