Herwgipio yn Gaza: 'Un o nosweithiau gwaetha' mywyd i'
- Cyhoeddwyd
Roedd Rhys Williams yn gweithio fel dyn camera pan gafodd ei gipio gan ddynion arfog ar Lain Gaza yn 2009, gan ddisgrifio'r profiad fel "un o nosweithie gwaetha' mywyd i".
Roedd 'Operation Cast Lead' newydd ddod i ben ac roedd dros 1,400 o Balesteiniaid ac 13 o Israeliaid wedi eu lladd.
Roedd Rhys Williams wedi teithio yno gyda'r gohebydd Eifion Glyn i ffilmio ar gyfer rhaglen Y Byd ar Bedwar ar S4C.
Nhw oedd un o'r criwiau gorllewinol cyntaf i gael mynediad i ohebu yno ac roedd newyddiadurwr lleol, Amjed Tantish, gyda nhw hefyd pan gawson nhw eu cipio gan ddynion arfog.
Ar raglen Fy Stori Fawr Radio Cymru, mae Rhys yn egluro eu bod nhw wedi penderfynu mynd i ysbyty yn Gaza er mwyn siarad gyda phobl oedd wedi eu hanafu.
Dim ond newydd gyrraedd Gaza oedden nhw. Ar ôl gadael eu bagiau yn y tŷ lle'r oedden nhw'n aros, aeth y tri ohonyn nhw at feddau lle'r oedd teuluoedd yn galaru am y bobl oedd wedi marw.
Y noson honno aethon nhw i'r ysbyty, lle cawson nhw eu cipio.
Wrth siaarad ar y rhaglen dywedodd Rhys: "Ar ôl dipyn, dyma 'na gang o ddynion yn ein hamgylchynu ni efo gynnau ar y ward yn yr ysbyty a ddim yn dallt gair, wrth reswm, ond o'dd 'na gecru.
"Mi gawson ni ein hebrwng o'r ward gan wyth neu 10 o ddynion i fewn i ryw stafell. Odd hi'n dipyn o ffrwgwd erbyn hynny. O'n i ddim yn dallt be' o'dd yn digwydd."
Mae Rhys yn cofio bod y dynion "wedi mynd ag Eifion i rwle arall - dwi ddim yn gwybod lle - efo rhyw bedwar dyn".
"Nathon nhw gadw fi ac Amjed Tantesh yn yr ysbyty ac a'th y cecru mlaen am orie."
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2023
'Cyhuddo ni o fod yn Iddewig'
Doedd Rhys ddim yn deall i ddechau pam eu bod nhw'n cael eu cadw'n gaeth ond fe gafodd wybod yn ddiweddarach.
"O'dd 'na bobl ar y ward wedi ein cyhuddo ni o fod yn Iddewig," meddai.
"Oeddan nhw 'di clywed ni'n siarad Cymraeg efo'n gilydd a 'di camddallt yr iaith i fod yn Hebraeg, sef mae'n siŵr y peth gwaetha' alla rhywun wedi cyhuddo ni ar ôl y gyflafan."
Gan eu bod nhw'n paratoi rhaglen i ITV Cymru, roedd ganddyn nhw rif ffôn i ofyn am gymorth gan ITV.
Mae Rhys yn egluro sut y llwyddodd o i anfon neges destun gyda'r geiriau "Help. In the hospital. Arrested".
Roedd o a'r newyddiadurwr lleol, Amjed Tantish, yn sownd yn yr ysbyty am oriau.
"O'dd o'n teimlo fel oes ond o'dd on dair awr dda yn yr ystafell.
"Pedwar wal, gwely yn y gornel efo llwyth o ynnau AK-47 a fy nghamera i yn eu canol nhw... Amjed wrth fy ochr i'n crefu am ein bywydau ni."
Mae'n cofio wedyn sut y gwnaeth y dynion danio sigaréts cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau.
"Ar ôl hir a hwyr, dyma pethau'n newid ac athon ni allan a pwy oedd yn dod ata i oedd Eifion efo tri neu bedwar o ddynion yn gwenu a pawb yn ysgwyd llaw ac ymddiheuro mawr bo nhw di 'neud camgymeriad mawr a bo nhw'n coelio pwy oeddan ni rŵan."
Dydi Rhys ddim yn gwybod pam eu bod nhw wedi eu rhyddhau ond, er gwaetha'r hyn ddigwyddodd, fe aethon nhw ati i ffilmio rhaglen ar gyfer Y Byd ar Bedwar.
"Mater o raid oedd gweithio ar ôl hynna. Trwy lwc gathon ni ddim trafferth o gwbl wedyn yn Gaza."
'Balch fy mod i wedi byw i ddeud y stori'
Ag yntau wedi gweithio fel dyn camera mewn nifer o wledydd tramor, mae'n dweud ei fod "wedi mwynhau ei hun ac wedi cael gyrfa amrywiol iawn".
"O'n i'n hunanol iawn yn mynd i lle o'n i isho mynd ond dyna be' nes i, ac allai ddim newid o.
"Dwi'n cofio blynyddoedd nôl o'n i'n mynd i Afghanistan a dwi'n cofio'r ferch hyna' yn sefyll ar dop grisia' a deud 'paid â mynd dad' ond o'n i wedi pacio'r car felly es i felly - dwi heb neud y penderfyniadau gorau dros y blynyddoedd dwi'n siwr."
Ei daith i Gaza ydi un o'r rhai fydd o'n ei chofio fwyaf.
"O'dd o'n un o nosweithiau gwaetha' mywyd i a dwi'n gobeithio gai fyth brofiad fel 'na eto.
"Mi nath Amjed Tantish achub fy mywyd i'n sicr - fyswn i ddim yma rŵan heblaw amdano fo.
"O'n i wastad 'di bod isho mynd yna i ddangos y stori. Roedd e'n le heriol i ffilmio ac mae'n dal i fod.
"Dwi'n falch mod i wedi bod yna a mod i wedi byw i ddeud y stori heddiw."
Mae rhaglen Fy Stori Fawr i'w chlywed am 16:00 ar Radio Cymru ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds