Cyhuddo dyn 28 oed o lofruddio babi pum mis oed

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 28 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio babi pum mis oed yn Abertawe y llynedd.

Dywed Heddlu'r De fod Thomas Morgan o ardal Gorseinon wedi ei gyhuddo o'r llofruddiaeth a ddigwyddodd ar 30 Mawrth 2024 yng Nghlydach.

Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener, lle cafodd ei gadw yn y ddalfa.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.