Galw am fwy o gynrychiolaeth mewn llyfrau Cymraeg i blant
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am gyhoeddi rhagor o lyfrau Cymraeg i blant sy’n cynnwys mwy o amrywiaeth i adlewyrchu ein cymdeithas.
Mae Natalie Jones wedi cyhoeddi llyfr i blant yn ddiweddar - 20 o bobl liwgar Cymru - gyda'r nod o sicrhau "bod plant yng Nghymru yn cael y synnwyr ‘na o hunaniaeth a Chymreictod, dim ots beth yw lliw croen nhw".
Mae'r llyfr yn cynnwys pwt am 20 o bobl adnabyddus Cymru.
Yn ôl Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’n rhaid cael "buddsoddiad ac amser i ddatblygu'r byd llyfrau er mwyn cynrychioli lleisiau mwy amrywiol”.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru eisoes wedi dosbarthu pecynnau o lyfrau yn cynnwys amrywiaeth i bob ysgol yng Nghymru yn 2023.
'Pwysig cael synnwyr o hunaniaeth'
Roedd cyhoeddi nofel i blant “wastad wedi bod yn freuddwyd” i Natalie, sy'n gweithio fel swyddog addysg, cynrychiolaeth a'r Gymraeg i S4C.
Dywedodd ei bod yn "bwysig iawn i fi i wneud yn siŵr fod plant yng Nghymru yn cael y synnwyr yna o hunaniaeth a Chymreictod, dim ots beth yw eu lliw croen".
Wrth edrych 'nôl ar ei phlentyndod, dywedodd nad yw'n cofio gweld cynrychiolaeth o fewn llyfrau Cymraeg, ac roedd yn awyddus i newid hynny gyda'i chyhoeddiad hi.
"Dwi ddim yn cofio gweld llawer o straeon o gwbl, yn enwedig rhai positif, am bobl ddu a brown, ac yn enwedig yn yr iaith Gymraeg," meddai.
Er ei bod yn falch o'r llyfr a'r effaith y mae eisoes yn ei gael, dywedodd fod "dal bwlch" yn bodoli "i blant i weld eu hunain a phlant o bob lliw" mewn llyfrau Cymraeg.
Mae hi o'r farn mai un o'r prif resymau dros y diffyg cynrychiolaeth mewn llyfrau Cymraeg yw'r ffaith fod awduron yn aml yn defnyddio anifeiliaid yn hytrach na phobl go iawn.
"Os ydan ni isio i blant weld eu hunain ac i gael negeseuon moesegol, mae'n rhaid iddyn nhw weld pobl i ddeall hynna," meddai.
'Eisiau rhoi hyder i bobl ifanc'
Dywed Natalie ei bod yn teimlo'n gryf bod angen i blant allu uniaethu â’r cymeriadau yn y llyfrau.
"Dwi'n gobeithio y bydd plant yn gweld y llyfr, gweld eu hunain, a bob plentyn yng Nghymru yn gallu gweld sut allan nhw gyfrannu i'w cymuned nhw.
"Dwi eisiau rhoi hyder i bobl ifanc, pwy bynnag ydyn nhw."
Ychwanegodd ei bod yn "bwysig fod lleisiau pobl ddu a brown yn cael ei glywed, fod y cynnwys yn authentic hefyd".
Mae'n gobeithio y bydd mwy o lyfrau o'r fath yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.
Yn ôl Dr Siwan Rosser, dirprwy yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac arbenigwraig ym maes llenyddiaeth plant, "mae'r rhod wedi troi yn ystod y blynyddoedd diwethaf" o ran cynnwys amrywiaeth mewn llyfrau i blant.
"Mae'n destun balchder fod 'na ddewis ar droed a bod 'na gynlluniau pwrpasol wedi eu rhoi mewn lle ac yn dechrau dwyn ffrwyth," meddai.
Aeth ymlaen i sôn am bwysigrwydd llyfrau ar gyfer datblygiad plant.
Dywedodd mai sicrhau cynrychiolaeth i blant yw'r "unig ffordd allwn ni daclo casineb, hiliaeth - y cysyniadau sy'n datblygu'n anffodus yn ystod plentyndod".
"Oes mae 'na ddatblygiadau pwysig ar droed ac mae’n wych ac yn bwysig iawn i weld y llyfrau yma, ond mae 'na ragor o waith i'w wneud ac mae’n rhaid cael buddsoddiad ac amser i ddatblygu'r byd llyfrau er mwyn cynrychioli lleisiau mwy amrywiol.”
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024
Dywed Cyngor Llyfrau Cymru bod cynyddu amrywiaeth mewn llyfrau yn "flaenoriaeth" iddyn nhw.
Maen nhw eisoes wedi dosbarthu pecyn o 50 llyfr i ysgolion Cymru yn 2023 oedd yn cynnwys llyfrau ar sail "cynrychiolaeth eang ac amrywiaeth", a dywedon nhw eu bod yn "cydweithio â chyhoeddwyr er mwyn cynhyrchu mwy o lyfrau sy'n cynnig cynrychiolaeth".