Cyngor Llyfrau i 'gefnogi llai o lyfrau Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae’n "anochel" y bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn "cefnogi llai o lyfrau Cymraeg" oherwydd heriau ariannol, yn ôl eu prif weithredwr.
Yn ogystal, fe rybuddiodd Helgard Krause er bod cylchgronau Cymraeg wedi eu "harbed" rhag toriad yn y flwyddyn ariannol hon yn sgil grant un-tro £100,000 gan Lywodraeth Cymru, "bydd yn rhaid canfod arbediad o 10.5% ar gyfer Ebrill 2025".
Ac ar raglen Dros Frecwast ddydd Iau, rhybuddiodd fydd llyfrau Cymraeg "ddim yn bodoli" heb gyllid penodol i'w hariannu.
Mae un o gwmnïau cyhoeddi amlycaf Cymru, Gwasg Carreg Gwalch, yn dweud eu bod eisoes wedi gorfod gwneud "llawer o doriadau" a bydd yn "anodd iawn gwneud mwy".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru i ymateb i’r heriau y mae’r diwydiant yn eu hwynebu".
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
Un o swyddogaethau craidd y Cyngor Llyfrau yw ariannu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Yn 2023-24, cefnogwyd 183 o lyfrau Cymraeg a 19 o gylchgronau print a digidol i oedolion a phlant drwy gyllid gan y cyngor.
Dros y deng mlynedd diwethaf mae niferoedd staff y cyngor wedi gostwng o 50 i 36.
Dywedodd Helgard Krause mewn llythyr at Bwyllgor Diwylliant y Senedd: "Yn ychwanegol at yr effaith anochel y mae hyn yn ei gael ar y cymorth yr ydym yn gallu ei ddarparu i’r diwydiant llyfrau yng Nghymru, roedd y swyddi a gollwyd yn y Cyngor Llyfrau yn swyddi Cymraeg eu hiaith, yn cael eu talu’n deg ac wedi eu lleoli yng nghefn gwlad Cymru."
Mae prif swyddfa'r cyngor yn Aberystwyth a'i ganolfan ddosbarthu ar Barc Menter Glanyrafon ar gyrion y dref.
Dywedodd Helgard Krause fod y Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar am "nifer o brosiectau ysbrydoledig y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cefnogi yn y blynyddoedd diwethaf".
Yn eu plith, meddai, mae Ysgolion Caru Darllen, Iechyd Da, Rhyngom, Darllen yn Well a'r Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd.
Ond "mae angen sicrwydd cyllid ar y llinell sylfaen er mwyn cynllunio a buddsoddi mewn prosiectau, sgiliau a thalent newydd".
"Nid yw cyllid prosiect blynyddol un-tro gydag amseroedd gweithredu cyflym, yn mynd i’r afael â’r heriau hyn mewn unrhyw ffordd ystyrlon ac, yn y cyd-destun penodol hwn, gellir ei ddisgrifio fel plaster yn unig.
"Gellid dadlau ei fod yn gwaethygu’r sefyllfa drwy agor y drws i’r dalent newydd y mae mawr eu hangen, ac eto, nid oes gennym yr adnoddau yn eu lle i roi cymorth parhaus iddynt yn ogystal â pharhau i gefnogi’r busnesau sy’n darparu’r cynnyrch craidd.
"Mae’n anochel y bydd hyn yn arwain at benderfyniadau anodd a siomedigaethau wrth i gystadleuaeth gynyddu am yr arian cyfyngedig sydd ar gael.
"Mae’n anochel y byddwn yn cefnogi llai o lyfrau Cymraeg, a thra bod y cylchgronau Cymraeg wedi eu harbed rhag toriad yn y flwyddyn ariannol hon, diolch i £100,000 grant un-tro gan Lywodraeth Cymru, bydd yn rhaid canfod arbediad o 10.5% ar gyfer Ebrill 2025."
'Dwi'n poeni am y flwyddyn nesaf'
Ychwanegodd Ms Krause ar raglen Dros Frecwast: "Os na fyddwn ni yn ariannu llyfrau Cymraeg, fyddan nhw ddim yn bodoli.
"Mae 99%, siŵr o fod, o lyfrau sy'n bodoli yn y Gymraeg yn cael eu hariannu drwyddon ni.
"Does 'na ddim lle arall i neud fyny am hynny. Dydyn ni methu bod yn fwy creadigol wrth geisio ffeindio ffynonellau eraill, achos mae'n farchnad arbennig o fach, ond yn hanfodol bwysig i'r iaith wrth gwrs.
"Dwi'n poeni am y flwyddyn nesaf. O bob cyfeiriad, 'dach chi'n clywed 'does 'na ddim arian' a ma' hyn yn dod wedi degawd o standstill budget ac mae hyn yn gwneud pethau'n anodd."
Dywedodd yr awdures Angharad Tomos ar Dros Frecwast ei bod "yn drist ac yn gresynu", dan ddadlau mai "penderfyniad gwleidyddol ydi faint ydach chi'n ei wario ar y celfyddydau".
Tra bod Cymru a'r DU yn torri'n ôl wrth barhau "â pholisi llymder", mae'r Ffindir, meddai, "wedi cynyddu eu gwariant nhw ar y celfyddydau 70% dros 10 mlynedd", ac "mae'n wallgof" bod gwariant Prydain yn y maes yn cyfateb i fuddsoddiad dinas Berlin yn unig ar y sector yn Yr Almaen.
"Mae'r Alban wedi codi gwariant ar lyfrau 2% - pam na fedar Cymru wneud hynny?" dywedodd.
"Os 'da chi'n torri'n ôl ar lyfra' i blant rŵan fydd 'na lai o bobl yn darllen yn y dyfodol, ac mae hynny'n peryglu llyfrgelloedd."
Ychwanegodd bod "buddsoddi ar frys" mewn llyfrau yn allweddol bwysig wedi i safon darllen plant ostwng yn sgil y pandemig.
'Anodd iawn gwneud mwy o doriadau'
Dywedodd perchennog Gwasg Carreg Gwalch, y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, eu bod "eisoes wedi gweld gostyngiad o 20% yn nifer y teitlau sy'n cael eu noddi gan y Cyngor Llyfrau ers Ebrill eleni a 25% o ostyngiad yn y cyfraniadau cyhoeddi".
"Daeth hyn ar ôl tair blynedd o chwyddiant gorffwyll ym mhrisiau papur, trydan, ynni a nwyddau a gwasanaethau cynhyrchu eraill.
"Bu'n rhaid i ni wneud llawer o doriadau. Ni fydd gennym stondin yn yr Eisteddfod eleni ac mae'r gweithlu yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos ers Ebrill.
"Bydd yn anodd iawn gwneud mwy o doriadau."
Rhybuddiodd Myrddin ap Dafydd hefyd bod "llyfrau Cymraeg a llythrennedd Cymraeg ymysg plant yn wynebu problemau difrifol, gyda nifer o siopau llyfrau annibynnol wedi cau ar y stryd fawr a safon darllen plant 10 oed gymaint â thair blynedd ar ei hôl hi.
"Wrth wynebu'r ffeithiau hyn, yn sgil canlyniadau profion PISA fis Rhagfyr diwethaf, addawodd gweinidog addysg Cymru y bydd 'digon o adnoddau' ar gael i wella safon llythrennedd.
"Hollol anghyson felly ydi gorfodi toriadau pellach, cwtogi ar gyhoeddi a diswyddo staff profiadol ym maes llyfrau a llythrennedd yn y Cyngor Llyfrau ac yn y gweisg."
'Pwysau sylweddol' ar gyllidebau
Ymatebodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi cynlluniau yn y Senedd fis diwethaf "i wella addysgu llythrennedd ar draws y cwricwlwm cyfan a bydd yn cyhoeddi ei blaenoriaethau ar gyfer gwella safonau addysgol yn yr hydref.
"Rydym yn parhau i ariannu'r Cyngor Llyfrau ar gyfer rhaglenni llythrennedd penodol sy'n cynnwys datblygu a chyhoeddi llyfrau cyfrwng Cymraeg."
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n cydnabod pa mor bwysig yw’r sector cyhoeddi i'n heconomi, a'r cyfraniad hanfodol mae’n ei wneud i'n bywyd ieithyddol a diwylliannol cyfoethog.
“Mae pwysau sylweddol ar ein holl gyllidebau, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu'r gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt, fel gwasanaethau iechyd a gofal ac ysgolion.
“Rydyn ni’n parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru i ymateb i’r heriau y mae’r diwydiant yn eu hwynebu ac i adnabod y ffyrdd gorau i barhau i gefnogi’r diwydiannau creadigol a dyfodol hirdymor cyhoeddi yng Nghymru.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023