'Hen bryd' symud ymlaen â chynllun isotopau canser yn sgil prinder

Yr Athro Simon MiddleburghFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
  • Cyhoeddwyd

Mae un arbenigwr wedi galw am symud ymlaen â chynllun meddygaeth niwclear yng ngogledd Cymru, er mwyn creu radio isotopau meddygol i drin a rhoi diagnosis canser.

Ar hyn o bryd mae prinder radio isotopau sylweddol, ac yn ôl yr Athro Simon Middleburgh o Brifysgol Bangor, gallai'r prinder yma olygu y bydd "pobl yn marw".

Y nod gan Lywodraeth Cymru ydy sefydlu cynllun £400m i gynhyrchu radioisotopau meddygol yn y gogledd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n "parhau i gefnogi’r prosiect ac yn gweithio gyda’r holl bartneriaid i ddatblygu cynlluniau".

Wrth ymateb i'r prinder cyflenwadau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn deall y gallai hyn achosi pryder i gleifion".

Ychwanegon nhw eu bod yn gweithio'n agos gyda chwmni fferyllol i ddatrys y mater, ond gwrthododd y llefarydd ymateb i'r cynllun yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Trawsfynydd ydy'r safle sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu canolfan feddygaeth niwclear newydd

Trawsfynydd yng Ngwynedd ydy'r lleoliad sy'n cael ei ystyried ar gyfer y prosiect dan sylw - ARTHUR (Advanced Radioisotope Technology for Health Utility Reactor).

Gyda chyflenwadau yn dod o wledydd yn Ewrop ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio creu canolfan ragoriaeth yng Ngwynedd gyda'i adweithydd niwclear ei hun.

Yn ôl un arbenigwr, mae prinder radio isotopau sylweddol, sy'n golygu na fydd rhai cleifion canser yn cael diagnosis nac yn cael eu trin.

Mae'r Athro Simon Middleburgh o Brifysgol Bangor wedi erfyn ar Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau yn Nhrawsfynydd.

“Rydyn ni’n mewnforio isotopau ar hyn o bryd, gall y pethau hyn wneud diagnosis o ganserau yn gynnar... ac mae’n caniatáu i bobl gael y driniaeth gywir pan fyddan angen hynny."

"Y broblem, ar hyn o bryd, ydi fod y safleoedd sy'n cynhyrchu'r rhain - maen nhw'n cau i lawr, maen nhw'n hen ac yn dod yn aneffeithlon.

"Yr hyn sydd angen i ni ei wneud... ydy sicrhau fod modd i ni greu cadwyn gyflenwi ein hunain."

Yn ôl yr Athro Simon Middleburgh, mae adweithydd yn yr Iseldiroedd wedi ei ddiffodd sy'n golygu nad yw'r DU yn derbyn math penodol o isotop i allu rhoi diagnosis.

“Mae pobl am farw, dydyn nhw ddim am gael y diagnosis yn gynnar - bydd canser yn lledu a bydd pobl yn marw ac mi fydd cannoedd os nad miloedd yn marw oherwydd y prinder isotop yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hanfodol sicrhau diogelwch ein cyflenwad, meddai Liz Saville Roberts AS

Mae Liz Saville Roberts AS sy'n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan yn gefnogol iawn o gael canolfan o'r fath yn Nhrawsfynydd.

Dywedodd: "Dwi wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth San Steffan, cyn yr etholiad cyffredinol ac ar ôl i adnabod pa adran oedd yn gyfrifol - iechyd neu'r adran yn ymwneud ag ynni. Dwi wedi cael ateb o'r diwedd mai ynni sy'n gyfrifol... mae'n rhaid i ni, yn amlwg, weithredu ar hyn.

"Mae cymaint o driniaethau a diagnosis yn ddibynnol ar isotopau meddygol, 'da ni angen sicrhau fod gennym ddiogelwch o ran cyflenwad a bod digon ohonyn nhw ar gael.

"'Da ni angen gwneud yn siŵr os oes 'na gynllun da, fel ag y mae gan Lywodraeth Cymru i'w leoli yn Nhrawsfynydd, bod yna symud ymlaen ar hynny."

'Hen bryd' symud ymlaen

Wrth ymateb i sylwadau'r Athro Middleburgh, yn nodi y gallai pobl golli eu bywydau heb y cyflenwadau hyn, dywedodd Ms Saville Roberts fod hynny'n "ofnadwy".

Ychwanegodd: "'Da ni'n gwybod ers nifer o flynyddoedd bellach bod ni angen camu i fewn a sicrhau bod gennym gyflenwad ym Mhrydain.

"Mae gennym ni safle i wneud hynny yn Nhrawsfynydd, mae gennym ni gynllun wedi'i gostio, mae gennym ni Brifysgol Bangor sy'n barod i symud ymlaen gyda hyn. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ddod at ei gilydd a sichrau hynny i ni."

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gefnogi’r prosiect a'u bod yn gweithio gyda’r holl bartneriaid i ddatblygu cynlluniau, gan ychwanegu y byddan nhw'n rhoi diweddariad ar y cynllun maes o law.

Yn ôl Llywodraeth y DU, maen nhw'n cydnabod y gallai'r prinder radio isotopau achosi pryder i gleifion, a'u bod yn gweithio gyda chwmni fferyllol i ddatrys y mater.