Penodi Nia Griffith yn weinidog yn Swyddfa Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae AS Llanelli, y Fonesig Nia Griffith, wedi ei phenodi'n weinidog yn Swyddfa Cymru.
Dyma rôl gyntaf Ms Griffiths - a gafodd ei hethol yn gyntaf yn 2005 - yn y llywodraeth.
Mae'n olynu Fay Jones, a gollodd ei sedd dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol yr wythnos ddiwethaf.
Y Fonesig Nia Griffith oedd ysgrifennydd yr wrthblaid ar gyfer Cymru o dan Syr Keir Starmer ac Ed Miliband, ac roedd yn ysgrifennydd amddiffyn yr wrthblaid o dan Jeremy Corbyn.
Mae AS Pontypridd, Alex Davies-Jones hefyd wedi ei phenodi'n weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, tra bod cyn-AS Delyn David Hanson wedi'i wneud yn weinidog yn y Swyddfa Gartref.
Mae Mr Hanson, a fydd yn eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, eisoes wedi gweithredu fel gweinidog yng nghyfnodau Tony Blair a Gordon Brown fel prif weinidogion.
Mae pedwar Aelod Seneddol Cymreig yn rhan o'r tîm fydd yn gyfrifol am ddisgyblaeth o fewn y blaid, ac yn sicrhau fod aelodau yn cefnogi cynigion y llywodraeth yn Nhŷ’r Cyffredin.
AS Alun a Glannau Dyfrdwy Mark Tami yw'r dirprwy brif chwip, mae AS Pen-y-bont Chris Elmore wedi ei benodi yn chwip, mae AS Merthyr Tudful ac Aberdâr Gerald Jones wedi ei benodi yn chwip cynorthwyol, ac felly hefyd AS Gogledd Caerdydd Anna McMorrin.