Ymgyrch anabledd yn 'gam yn ôl' ac yn denu sylw 'anaddas'
- Cyhoeddwyd
“Fel o'n i’n slofi lawr, doth 'na rhywun y tu ôl i mi a dechre gwthio’r gadair olwyn ac wedyn dechre gofyn ‘lle ti ishe mynd?’ ‘Do'n i ddim ishe mynd i nunlle, o'n i’n iawn.
“O'dd o’n gymaint o sioc, do'n i ddim wedi disgwyl bod rhywun y tu ôl i mi yn y lle cyntaf.”
Dyma brofiad Catrin Atkins, 44 o Gaerffili, tra yn y dref ar ei phen ei hun yn ddiweddar.
Yn ôl Anabledd Cymru mae cynnydd yn nifer y cysylltiadau diangen a digroeso fel hyn.
'Roedd o mor intrusive'
Roedd Catrin, sy’n rhedeg busnes meddalwedd ac yn hyfforddwr bywyd, wedi aros yn ei chadair olwyn i edrych ar fwydlen bwyty.
Dechreuodd aelod o’r cyhoedd wthio’i chadair, ac er ei bod yn amau mai’r bwriad oedd ei helpu, cafodd Catrin fraw.
“Roedd o mor intrusive ac yn dychryn rhywun felly,” meddai.
Dywedodd Catrin fod ‘na wahaniaeth mawr rhwng pobl yn cynnig cymorth a dieithriaid yn gofyn cwestiynau personol neu feddygol.
“Ar hyd f’oes dwi wedi cael cwestiynau, yn tyfu fyny fel plentyn yn yr 80au – o'n i’n arfer gyda chwestiynau.”
Fis Medi fe lansiodd Llywodraeth y DU ymgyrch Ask, Don’t Assume, gyda’r bwriad o geisio mynd i’r afael â rhagfarnau neu sylwadau diangen yn ymwneud ag anabledd.
Mae’r ymgyrch wedi’i beirniadu ar gyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn honni ei bod yn annog cwestiynau anaddas gan y cyhoedd.
Mae Elin Williams o Anabledd Cymru yn dweud bod y mudiad wedi clywed gan nifer o’u haelodau dros yr wythnosau diwethaf.
“Ma' pobl yn poeni bo' nhw’n mynd i dderbyn llawer mwy o gwestiynau am y ffordd maen nhw’n mynd ynghylch eu bywyd a chwestiynau personol hefyd dydy pobl ddim isio eu hateb, a dylse nhw ddim goro eu hateb nhw,” meddai.
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2023
'Ddim yn datrys problemau'
Mae Ciaran Fitzgerald, 28 oed o Bort Talbot, yn gweithio fel dramodydd a sgriptiwr.
Mae o’r farn bod yr ymgyrch Ask, Don’t Assume yn annoeth.
“Mae’n trio datrys rhai o’r problemau ma' pobl anabl yn wynebu ond dyw e ddim yn datrys rheiny o gwbl,” meddai.
Mae gan Ciaran barlys yr ymennydd ond mae'n teimlo bod rhai pobl yn siarad gyda fe gan dybio bod ganddo anabledd dysgu.
“O'n i’n gweithio yng Nghaerdydd yn gwneud gwaith theatr y llynedd. O'n i’n cerdded drwy Ganolfan y Mileniwm [a] 'nath aelod o’r staff ddod lan ata'i a siarad ‘da fi mewn tôn babïaidd: ‘Ti’n iawn? Ti angen help?’. Ac o'n i just yn mynd o amgylch fy musnes i ac yn trio mynd i’r gwaith.
“Dwi’n trio peidio gadael iddo fe effeithio fi gormod, ond chi yn meddwl pam bo' hwnna wedi digwydd - beth allai 'neud yn wahanol?”
Hoffai Ciaran weld Comisiynydd Pobl Anabl yn cael ei sefydlu yng Nghymru, un sydd wedi cael profiad o’r heriau mae’r gymuned yn eu hwynebu’n ddyddiol.
Dywedodd hefyd bod angen mwy o ymwybyddiaeth o hawliau pobl anabl o fewn y system addysg.
Honiadau cynnydd yn 'ddi-sail'
Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod honiadau am y cynnydd mewn cysylltiadau diangen yn “ddi-sail” ac nad oes “unrhyw dystiolaeth benodol” gan Anabledd Cymru.
“Trwy gydol y broses o ddatblygu’r ymgyrch, y negeseuon a’r delweddau, bu pobl anabl a sefydliadau sy’n eu cynrychioli yn rhan o’r gwaith – gan ddarparu mewnbwn a chefnogaeth werthfaw,r” meddai llefarydd.
“Mae’r ymgyrch yn beilot sy’n canolbwyntio’n bennaf ar yr ardaloedd lle rydyn ni fwyaf tebygol o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl anabl, ac mae’n llawer rhy gynnar i fesur effaith yr ymgyrch yn genedlaethol.”