Galw 'anhygoel' wrth i ganolfan mewn capel greu swyddi newydd

Ieuan Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ieuan Wyn Jones fod y "galw yn aruthrol am hybiau cymunedol fel hyn"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r galw am gyfleusterau mewn capel ar Ynys Môn wedi bod y tu hwnt i bob disgwyl, yn ôl cadeirydd y fenter.

Agorodd Capel Moreia yn Llangefni fel canolfan gymunedol lai na chwe mis yn ôl.

Mae cannoedd o filoedd o bunnau wedi eu gwario ar drawsnewid rhan o'r adeilad yn chwe stafell - gan gynnwys swyddfeydd a chegin broffesiynol.

Oherwydd y galw, mae'r ganolfan yn hysbysebu dwy swydd gan gynnwys rheolwr. Mae'r dyddiad cau ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Capel Moreia ei adeiladu ddiwedd y 19eg ganrif

"Doedden ni ddim yn disgwyl y byddai'r lle yn llenwi mor gyflym," meddai Cadeirydd Canolfan Glanhwfa Llangefni, Ieuan Wyn Jones.

"Mewn cwta chwe mis 'da ni yn sylfaenol yn llawn hefo pob math o wasanaethau.

"Roedden ni wedi meddwl y byddai hynny'n cymryd chwe mis i flwyddyn sydd yn dangos bod y galw yn aruthrol am hybiau cymunedol fel hyn."

'Galw wedi tyfu'

"Mae gynnon ni pob math o bethau'n digwydd," ychwanegodd Ieuan Wyn Jones wrth siarad ar raglen Post Prynhawn Radio Cymru.

"Mannau cynnes lle mae pobl wedi ei chael hi'n anodd talu biliau trydan.

"Ond hefyd mae pobl unig yn dod yma i gael sgwrs.

"'Da ni'n g'neud pryd ysgafn ar ddydd Mercher a rhyw fath o glwb cinio hefo pryd cynnes ar ddydd Iau.

"Dyna oedd y gwasanaethau craidd ond fel mae pobl wedi dod i wybod am y ganolfan mae'r galw wedi tyfu.

"Erbyn hyn mae 'na gorau yn cyfarfod yma, dosbarthiadau yoga, dosbarthiadau coginio a chyfarfodydd i bobl sydd hefo dementia."

Disgrifiad o’r llun,

Un o’r ystafelloedd cyfarfod newydd yn y ganolfan

Y prysurdeb yma sydd wedi arwain at hysbysebu dwy swydd.

"'Da ni mor brysur mae angen rheolwr yma i redeg y fenter o ddydd i ddydd ond hefyd i ddatblygu syniadau i'r dyfodol - a ma' ganddo ni ddigon o rheiny," ychwanegodd Mr Jones, cyn-ddirprwy Brif Weinidog Cymru.

Mae gwasanaethau crefyddol hefyd yn dal i gael eu cynnal yn y capel ei hun - sydd â lle i gynulleidfa o 500.

'Pobl yn dod yma i gymdeithasu'

Cafodd yr adeilad presennol ei adeiladu ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ôl Mr Jones, mae o wedi ei synnu fod cynifer o bobl yn awchu am sgwrs a chymdeithasu.

"Yndi - mae'r baned yn ardderchog, yndi mae'r bwyd yn ardderchog, ond mae pobl yn dod yma i gymdeithasu yn fwy na dim.

"Mae rhai pobl yn teimlo eu bod nhw ar eu pen eu hunain ac isho dod yma am sgwrs."

Pynciau cysylltiedig