Cystadleuaeth bêl-droed rhyngwladol newydd er cof am Gary Speed

Fe fydd Cwpan Gary Speed yn digwydd rhwng 26 a 31 Awst
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi lansio cystadleuaeth ryngwladol newydd er cof am cyn-gapten a chyn-reolwr Cymru, Gary Speed.
Bu farw Gary Speed - oedd yn rheolwr ar dîm dynion Cymru ar y pryd - ar 27 Tachwedd 2011 yn 42 oed.
Bu'n chwaraewr i nifer o glybiau yn Uwch Gynghrair Lloegr gan gynnwys Leeds, Newcastle ac Everton, ac enillodd 85 o gapiau i Gymru a bu'n gapten ar ei wlad.
Bydd Cwpan Gary Speed yn gystadleuaeth i dimau bechgyn dan-16 o wahanol rannau o'r byd.
Japan, Gogledd Iwerddon a Gibraltar fydd yn ymuno â Chymru eleni - gyda'r gemau'n cael eu cynnal yn Rhuthun, Bwcle a Bae Colwyn.
Dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed CBDC, Dr David Adams fod y gystadleuaeth yn ffordd o "anrhydeddu Gary a'i effaith ddofn ar bêl-droed Cymru".
"Gobeithiwn y bydd y twrnamaint yn llwyfan da i'n talent ifanc gystadlu a datblygu ar y llwyfan rhyngwladol, gan gofio ymrwymiad Gary i newid dyfodol y gêm yng Nghymru," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.