Cyfyngu bargeinion bwyd yng Nghymru 'i daclo gordewdra'

Disgrifiad,

Cymysg oedd y farn am y cynllun ym Mhontardawe

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyfyngiadau ar fargeinion ar fwydydd braster uchel, melys neu hallt dan gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â gordewdra a diabetes.

Y cynllun yw gwahardd gostyngiadau pris dros dro, cynigion amlbryniant fel cael tri phecyn am bris dau, a phrydau bargen (meal deals) sy'n cynnwys lefelau uchel o siwgr a halen.

Ond mae pryderon am amseru’r cyhoeddiad, gyda phrisiau bwyd yn parhau i gynyddu.

Bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym ar draws Cymru yn 2025.

'Temtasiwn yn anodd'

Mae nifer o siopau’n gwneud cynigion arbennig i ginio sy’n cynnwys brechdan, diod ac un eitem arall am bris penodol.

Bydd cyfyngiadau ar rai cyfuniadau sy’n cynnwys mwy na’r argymhelliad dyddiol o fraster, siwgr neu halen.

Bydd y ddeddf newydd hefyd yn atal gwerthwyr rhag gostwng prisiau dros dro, a chynigion arbennig dau-am-bris-un ar y bwydydd lleiaf iachus.

Fe fyddan nhw hefyd yn ceisio atal prynu munud-olaf ar y bwydydd hyn, trwy ofyn i siopau beidio â hyrwyddo rhai eitemau mewn llefydd amlwg ac wrth y til.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd bellach yn cynnig rhyw fath o brydau bargen - fel arfer brechdan, diod ac un eitem arall am bris penodol

Fydd cynlluniau tebyg i Loegr ddim yn cael eu cyflwyno am y tro.

Yn ôl y Prif Weinidog Rishi Sunak, byddai’n annheg i gyfyngu ar ddewisiadau tra bod prisiau bwyd yn parhau’n uchel.

'Bwyta’n iach, mae’n anodd

Roedd croeso cymysg i’r newidiadau ar strydoedd Pontardawe.

“Mae’n dibynnu ar y rhesymau tu ôl y syniadau newydd,” meddai Lizzy Felton.

“Mae e yn anodd i fwyta’n iach nawr. Mae llawer o fwyd wedi prosesu ym mhobman.

“Bwyta’n iach, mae’n anodd. Dwi ddim yn gweld [y polisi] fel rhywbeth drwg i ni.

“Rwy’n ffeindio fe’n haws cerdded heibio pethau fel’na, ond dyw plant ddim, ac wedyn pan maen nhw’n eu rhoi nhw yn y fasged neu’n gofyn mae’n anodd i ddweud 'na'. Felly i blant mae’n anodd i ddim prynu pethau fel ’na.”

I Samantha Meo, sydd wedi bod yn dilyn rhaglen colli pwysau, mae’r bargeinion wrth y til yn broblem fawr.

“Mae e wedi bod am flynydde nawr,” meddai.

“Maen nhw wedi trial symud nhw achos mae temtasiwn ‘na i cwnnu nhw lan, ac mae plant i gyd yn cwnnu nhw lan a just rhoi nhw ar y til.

"Chi just wedi prynu nhw. So chi gallu mynd 'nôl, ti'n gorfod rhoi nhw yn y bag.”

Gordewdra ar gynnydd

Yn ôl cyfarwyddwr archfarchnadoedd Filco, Matthew Hunt, mae amseru’r cyhoeddiad yn “chwerthinllyd”.

“Mae werth nodi bod Rishi Sunak wedi bod yn trafod llacio’r ddeddfwriaeth yma gan ddweud y byddai hynny yn ei hun yn achosi chwyddiant," meddai.

"Nid dyma’r amser ar gyfer hyn, yn enwedig gyda chwyddiant bwyd mor uchel fel mae hi."

Ychwanegodd bod angen osgoi "creu dryswch" drwy gael dwy lywodraeth gyda dau bolisi gwahanol.

“Gwnewch e’n hawdd a gwnewch e’n unffurf, fel bod y defnyddiwr a’r gwerthwr yn gallu cael y cyfle gorau i ddeall y peth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Matthew Hunt y byddai gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr yn creu "dryswch"

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cefnogaeth gref gan y cyhoedd i helpu pobl i wneud dewisiadau bwyd fwy iach.

Yn ôl data Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 60% o bobl yng Nghymru dros bwysau, ac mae oddeutu un ym mhob pedwar plentyn yn ordew erbyn eu bod yn bum mlwydd oed.

Mae nifer y bobl gyda diabetes math 2 hefyd ar ei uchaf erioed yng Nghymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle y bydd y ddeddfwriaeth yn helpu atal gordewdra yng Nghymru.

“Ein nod yw ail-gydbwyso’n hawyrgylch bwyd tuag at gynnyrch mwy iach, fel mai’r dewis iach yw’r dewis hawdd," meddai.

Disgrifiad,

"Fel oedolion, mae i fyny i ni i benderfynu", meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Dywedodd Dr Ilona Johnson o Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oes un ateb i’r broblem.

“Rydym yn gwybod o’r dystiolaeth bod polisïau sy’n taclo’r amgylchedd bwyd yn effeithiol, a bod fframwaith gyfreithiol gref yn gam pwysig tuag at symud y balans at ddewisiadau iachach a phobl iachach," meddai.

Dweud bod angen ystyried yn ofalus cyn cyfyngu ar eitemau mewn cynigion arbennig mae Consortiwm Manwerthu Cymru.

Maen nhw hefyd yn mynnu eu bod wedi ymrwymo i helpu prynwyr Cymru i wneud dewisiadau iach.

“Mae cynigion arbennig yn caniatáu i werthwyr a brandiau gystadlu i ddenu cwsmeriaid, gan wella cystadleuaeth a chadw prisiau’n isel," meddai llefarydd.

“Gyda chwyddiant bwyd ar yn agos at ei uchaf ers 18 mlynedd, byddai’n anghyfrifol i godi costau fel hyn gyda dim tystiolaeth y bydd yn gwella iechyd cyhoeddus yn sylweddol.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall prydau bargen gynnwys diodydd iach - ond mae'r opsiwn yno hefyd i ddewis rhai sydd â llawer o siwgr

Tra’n cydnabod bod gordewdra’n broblem fawr, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod angen sicrwydd cadarn gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn cynyddu’r cost siopa wythnosol cyfartalog.

“Er mwyn taclo gordewdra, mae angen ymdriniaeth gan y llywodraeth gyfan, wrth addysgu plant am fwyd, dysgu ymarfer corff a buddsoddi mewn clybiau chwaraeon," meddai James Evans AS, llefarydd y blaid ar iechyd meddwl.

“Mae Ceidwadwyr Cymreig yn credu mai rôl y llywodraeth yw i addysgu, cynghori ac annog arferion bwyta gwell.

"Mae’n siom bod cam-lywodraethiant Llafur yn golygu bod angen mesurau eithafol i ostwng gordewdra yng Nghymru."

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn cefnogi mesurau sy’n ei gwneud hi’n haws i fyw’n iach.

“Mewn argyfwng costau byw, pan fo gormod o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd i roi bwyd ar y bwrdd o gwbl, ddylai hyn ddim fod am atal gostyngiadau ar fwyd," meddai llefarydd.

"Mae gallu rhoi rhyw fath o fwyd ar y bwrdd yn well na dim bwyd ar y bwrdd o gwbl.”