Galw am ddiogelu pont hanesyddol Llanrwst
- Cyhoeddwyd
Ers bron i 400 mlynedd mae Pont Fawr Llanrwst wedi bod yn un o brif groesfannau’r Afon Conwy.
Wedi ei lleoli yng nghanol y dref ac yn sefyll ers 1636, mae'n ffurfio rhan o'r brif ffordd rhwng Trefriw, Dolgarrog a'r dref farchnad hanesyddol.
Ond er yn un o nodweddion amlyca'r dref ac yn gofeb restredig Gradd I, oherwydd ei chulni mae'n dioddef difrod cyson.
Ar ôl gorfod ei chau ar sawl achlysur i'w thrwsio, er mwyn ei diogelu i'r dyfodol mae galwadau i ystyried newidiadau.
Gan fod ond lle i un car groesi ar y tro, mae rhai yn dweud y byddai system goleuadau traffig tair ffordd yn osgoi'r angen i geir orfod bagio'n ôl i'r briffordd.
Ond tra'n cydnabod nad oes ateb hawdd, mewn ymgais i ganfod ateb hirdymor mae Cyngor Conwy wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru gyllido astudiaeth i ystyried dyfodol y bont.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Cymru Fyw nad oes arian ar gael i gynnal astudiaeth ddichonoldeb yn y flwyddyn ariannol hon.
Er hyn ychwanegodd llefarydd byddai swyddogion yn "parhau i weithio gyda’r awdurdod lleol i ddatblygu datrysiad".
'Mae hi'n bont brysur'
Dywedodd un o gynghorwyr sir ardal Llanrwst a Llanddoged, Nia Clwyd Owen, bod 'na feddwl mawr o'r bont yn lleol.
Ond gan fod Pont Fawr mor gul mae hefyd yn gallu achosi problemau yn y dref, gyda rhai yn ei galw yn 'bont rhegi' oherwydd y rhwystredigaeth i fodurwyr sydd yn methu pasio ei gilydd.
"Mae'r bont yn rhan o olygfa eiconig Tu Hwnt i'r Bont ac mae'r lluniau ohoni yn cael eu rhannu ar draws y byd dydy?" meddai wrth Cymru Fyw.
"Ond yn fwy pwysig na hynny mae'r bont yn gyswllt rhwng y dwyrain a'r gorllewin o Afon Conwy a mae 'na lot fawr o bobl yn dibynnu arni i groesi i fynd i'r ysgol, i'r gwaith a mynediad i wahanol wasanaethau ac ati.
"Mae 'na dipyn o draffig yn ei chroesi hi ac ar adegau prysur o'r dydd... dyna un o'r problemau hefo hi ydi pobl yn dod i gwrdd â'i gilydd ar ben y bont a wedyn mae rhywun yn gorfod bagio'n ôl.
"Yn amlwg mae rhai wedyn yn gorfod bagio i'r A470, mae honno'n ffordd brysur ac yn achosi lot o dagfeydd a phroblemau.
"Mae'n dipyn o jôc yn Llanrwst 'ma mai'r rheol lleol ydy pwy bynnag sy'n cyrraedd pen y bont cyntaf sydd hefo'r right of way a fod y llall yn gorfod bagio'n ôl, ond yn fwy difrifol na hynny mae hi yn achos problemau."
Ychwanegodd mai'r peth pwysicaf yw diogelu'r bont i'r dyfodol: "Yn y flwyddyn ddiwethaf 'da ni cael tri achos o gerbydau mawr yn dod arni o'r A470 a chreu niwed iddi.
"Wrth gwrs wedyn mae'r bont yn gorfod cau am ddiwrnod neu ddau, sy'n achosi lot fawr o broblemau, mae'n bell i fynd i Betws-y-Coed neu Dal-y-Cafn i groesi'r afon.
"Yn ddelfrydol fasa goleuadau traffig yn wych, ond mae'r A470 yn ffordd brysur a 'da ni ddim yn gwybod sut fyddai hynny'n digwydd.
"Ond yn y tymor byr dwi'n meddwl, creu rhywbeth arni sydd am stopio'r cerbydau mawr rhag ei niweidio, mae'n bwysig iawn fod ni yn ei gwarchod hi."
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019
'Dwy broblem sylweddol'
Yn ôl dirprwy faer y dref mae pwysau cynyddol ar Gyngor Conwy ac asiantaethau eraill i ddiogelu'r bont yn fwy effeithiol.
Dywedodd Mostyn Jones, sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgor Cynllunio a Ffyrdd y cyngor tref: "Mae 'na ddwy broblem sylweddol, un ydy'r cynnal a chadw a gwarchod y bont hanesyddol, a'r ail ydy diogelu'r bont rhag y difrod sy'n cael ei achosi gan gerbydau.
"Mae'n un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru, dwi'n cofio bod ar drip yn Seland Newydd yn cerdded drwy dref yn yr ynys ddeheuol a gweld siop yn hyrwyddo gwyliau, a'r prif lun oedd Tu Hwnt i'r Bont a Phont Fawr.
"Felly maen nhw yn adeiladau o bwysicrwydd sylweddol i Gymru a dylai Cyngor Sir Conwy a Cadw wneud mwy i'w gwarchod nhw."
Dywedodd fod y cyngor tref wedi bod mewn "cyswllt cyson" gydag asiantaethau oherwydd y difrod.
"Mewn un lle allwch weld y golau dydd rhwng y cerrig... yn sicr cafodd y bont ddim ei hadeiladu fel'na yn yr 17eg ganrif,” meddai wrth Cymru Fyw.
"Mae 'na gerrig sydd fod i warchod y parapet o gerbydau, ond ar yr ochr ddwyreiniol mae rhai o'r rheina wedi'u difrodi.
"'Da ni wedi codi hynny hefo'r awdudod leol ond maen nhw'n dod yn ôl a dweud fod nhw wedi torri ers 2009 ac does ddim angen eu trwsio ar hyn o bryd, mae'r run fath hefo'r linking stones ar y top.
"'Da ni ddim yn gweld y bont yn cael ei warchod yn effeithiol gan Gyngor Sir Conwy, ond hefyd gan Cadw... yr oll maen nhw i'w weld yn gwneud ydi dweud mai cyfrifoldeb y sir ydy o, felly be' ydy pwrpas Cadw?"
Mae Cadw wedi cael cais am eu hymateb.
Ychwanegodd ei gefnogaeth i alwadau gan yr Aelod o'r Senedd lleol, Janet Finch-Saunders, sydd wedi bod yn gwthio am ddatrysiad hir dymor.
"Y syniad ydy wrach i gael goleuadau tair ffordd... pan 'da chi'n edrych ar Facebook mae rhywun wastad yn gofyn am bont newydd a chau hon ond i gerddwyr.
"Mae honno'n un syniad ond gobeithio be' ddaw o'r astudiaeth, os ydy Llywodraeth Cymru yn cytuno ei ariannu, ydy atebion gan bobl broffesiynol o be' sy'n bosib.
"Ond o ran pont newydd, fasa'r gost yn sylweddol ac mae pres yn brin iawn."
Asesu'r opsiynau
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy: "Yn dilyn y cyfarfod anfonwyd cais at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i asesu’r opsiynau, ac rydym yn aros am eu hymateb."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru tra fod Cadw yn rheoleiddio gwaith ar henebion cofrestredig, nid yw'n gyfrifol am reoli Pont Fawr.
Ychwanegon nhw: “Oherwydd blaenoriaethau cystadleuol ar draws y rhwydwaith nid oes cyllid ar gael ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb yn y flwyddyn ariannol hon.
“Cyfarfu swyddogion Cadw yn ddiweddar â Chyngor Sir Conwy i drafod pryderon parhaus am streiciau cerbydau a chyflwr y bont ac i adolygu pa fesurau y gellid eu rhoi ar waith i leihau digwyddiadau traffig, diogelu’r bont rhag difrod a gwella ansawdd y gwaith atgyweirio.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r awdurdod lleol i ddatblygu datrysiad.”