Covid yn 'storm berffaith' i ysgolion Sul, ond gobaith o hyd

ysgol Sul Pencaenewydd ger PwllheliFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgol Sul Pencaenewydd ger Pwllheli yn un o'r rhai llwyddiannus wedi'r cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd

Roedd y pandemig yn "storm berffaith" sydd wedi lladd sawl ysgol Sul ar hyd a lled y wlad, medd cyfarwyddwr Cyngor Ysgolion Sul Cymru.

Dywed Aled Davies bod ysgolion Sul wedi gorfod cau am gyfnodau hir iawn, a bod "rhyw ddisgwyl dychwelyd i fel oedd pethau cynt, ond ddigwyddodd hynny ddim wrth i arferion teuluol newid".

Bu'n siarad ar rifyn arbennig o Bwrw Golwg ar Radio Cymru, ar ddiwrnod sydd wedi'i nodi'n Sul myfyrio ar Covid-19.

"Ry'n ni'n dal i frwydro o ran gwaith plant a phobl ifanc," meddai'r Parchedig Davies.

"Ond dwi'n gweld eglwysi bellach ag awydd o'r newydd i ymestyn allan."

PencaenewyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Plant Ysgol Sul Pencaenewydd yn mwynhau gweithgareddau Gŵyl Dewi

Ychwanegodd: "Mi oedd Covid yn storm berffaith. Roedd y system eisoes yn gwegian a dim gwaed newydd.

"Un peth welson ni'n glir ar ddiwedd y cyfnod clo oedd bod yna genhedlaeth gyfan o athrawon ysgol Sul - rhai yn eu 70au neu 80au - ddim wedi cynnal ysgol Sul am flwyddyn neu ddwy ac yna wedi rhoi'r gorau iddi.

"Dydi gwaith plant yn gyffredinol ddim wedi dod yn agos i lle oedd e, a bellach mae eglwysi yn gorfod meddwl yn greadigol am fentrau newydd.

"Ond mae'n braf dweud bod cenhedlaeth newydd yn ymateb bellach i ddiffyg gwaith plant a phobl ifanc, ac mae 'na feddwl mwy creadigol rŵan i greu cynlluniau newydd - falle ddim yn cwrdd bob wythnos, falle'n fisol neu'n dymhorol, ond mae'n braf gweld bod yna gynllunio ar gyfer y dyfodol."

Beti Wyn JamesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r cyfnod clo wedi newid y ffordd ry'n ni'n gweinyddu'r eglwys," medd y Parchedig Beti Wyn James

Ond mae Covid wedi newid pethau er gwell hefyd, medd y Parchedig Beti Wyn James o Gaerfyrddin, sy'n parhau i baratoi gwasanaethau digidol bob wythnos ers y cyfnod clo.

"Does dim byd tebyg i gwrdd wyneb yn wyneb, wrth gwrs, a braf yw cael bod gyda'n gilydd eto, ond fe wnaeth y cyfnod clo i fi sylweddoli fel gweinidog bod angen oedfaon digidol hefyd," meddai.

"Mae rhai capeli yn ffrydio'n fyw ond mae'n well gen i ryddhau oedfaon ar wahân ar YouTube. I fi mae oedfa ddigidol yn steil wahanol o gynnal oedfa.

"Yn y cyfnod clo roedd hyd at 2,000 yn gwylio'r oedfa bob dydd Sul, ac mae dal rhwng 250 a 300 yn edrych ar yr oedfa ddigidol er bod y gynulleidfa wedi dychwelyd.

"Hefyd ers y cyfnod clo mae ambell gyfarfod diaconiaid ar Zoom yn ystod y gaeaf, mae ambell gymdeithas yn cwrdd ar y we ac mae ambell gwrdd gweddi ar Zoom.

"Mae'r cyfnod clo wedi newid y ffordd ry'n ni'n gweinyddu'r eglwys. Mae hynny wedi bod yn wych gyda llawer wedi dysgu sgiliau digidol."

Huw GriffithFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r oedfaon yma yn fendith i mi," meddai Huw Griffith

Dywed Huw Griffith, sy'n byw ag anabledd, bod oedfaon digidol wedi creu byd newydd iddo.

Mae bellach yn byw yn Wolverhampton ond drwy gyfrwng Zoom mae modd iddo ymuno â chynulleidfa ei hen gapel yn Hen Golwyn, ac mae hefyd yn mwynhau oedfaon Capel Cymraeg Canol Llundain ar YouTube.

"Dyw'r awyrgylch ddim yr un fath ond mae'r oedfaon yma yn fendith i mi," meddai.

"Dyna ddylai ddigwydd - defnyddio Zoom ac yn y blaen."

Teledu Cristnogol CymruFfynhonnell y llun, Teledu Cristnogol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer iawn mwy o adnoddau digidol ar gael ers y cyfnod clo

Dywed Aled Davies hefyd bod "y weinidogaeth ddigidol wedi agor drysau newydd".

"Wrth i ni sefydlu sianel deledu Gristnogol fel rhan o wefan cristnogaeth.cymru, buan iawn y sylweddolon ni bod deunydd yn cael ei gynhyrchu gan sawl un ar draws Cymru.

"Mae'r cynnwys sydd ar gael yn anhygoel, lle cynt nid oedd llawer - o oedfaon i fyfyrdodau, caneuon, a gwersi ysgol Sul.

"Mae 20,000 bellach o ffilmiau Cristnogol Cymraeg ar gael ar y wefan.

"Ac wrth gwrs wrth i ni ffrydio'n fyw yn ddi-dor ers bron i bum mlynedd, does dim angen poeni bellach os oes gormod o eira neu dim gwres yn y capel - bydd yr oedfa yn dal i ddigwydd.

"Mae fy ngweinidogaeth i wedi newid yn llwyr. Mi oeddwn i'n arfer bod yn weinidog ar bedwar capel o fewn dwy filltir i'w gilydd.

"Bellach ni'n cynnal un oedfa a phawb yn ymuno - un ai ar Zoom neu yn dod i'r un capel. Mae wedi bod yn help mawr i ddweud y gwir."

Tabernacl Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd drysau Capel y Tabernacl yn Aberteifi am y tro olaf ym mis Hydref 2022

Wrth i nifer cynyddol o gapeli gau ers Covid dywedodd Gethin Rhys, swyddog polisi Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, fod y pandemig wedi "cyflymu rhywbeth oedd yn mynd i ddigwydd beth bynnag, ond bod cau ambell eglwys wedi bod yn syndod".

"Yn sicr mae newid arferion o ran addoli - mynd yn ddigidol - wedi tanseilio arferion rhai cynulleidfaoedd o weithredu, ac mae eglwysi eraill wedi cael problemau ariannol wrth iddyn nhw fethu â llogi adeiladau.

"Ond roedd y cyfnod clo yn ddechrau newydd hefyd wrth i angladdau a gwasanaethau gael eu ffrydio - er hynny anghofiwn ni fyth o golledion y pandemig."

Mae trafodaeth bellach ar effaith Covid ar eglwysi ar Bwrw Golwg ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Sul, ac yna ar BBC Sounds.