Meddygon yn gwrthod gweithio am fod miloedd yn ddyledus iddynt
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon wedi rhybuddio am lefelau staffio "peryglus", a phrinder cyflenwadau mewn grŵp o feddygfeydd teulu sy'n gysylltiedig â chwmni preifat.
Mae rhai meddygon locwm wedi gwrthod gweithio mewn meddygfeydd sy'n gysylltiedig ag eHarley Street, gan ddweud bod cyfanswm o tua £250,000 yn ddyledus iddyn nhw.
Dywedodd un meddyg wrth BBC Cymru ei fod wedi gweld problemau hylendid pryderus, ac mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi dweud eu bod yn "ymwybodol o bryderon yn ymwneud â phartneriaeth meddygfeydd teulu".
Dywedodd eHarley Street eu bod yn gwadu'r honiadau yn llwyr.
'Yr unig feddyg ar y safle'
"Ddoe fi oedd yr unig feddyg teulu ar y safle, ar gyfer practis o 11,000 o gleifion," meddai Dr Mark Wells, arweinydd clinigol ym Meddygfa Brynmawr, sy'n rhan o grŵp eHarley Street.
Dywedodd y dylai'r feddygfa gael yr hyn sy'n cyfateb i bum meddyg teulu.
Ychwanegodd fod meddygon locwm - sy'n llenwi rotas meddygon dros dro - yn gwrthod gweithio i'r cwmni "oherwydd eu bod yn gwybod nad ydyn nhw'n cael eu talu".
Disgrifiodd lefelau staffio fel rhai "peryglus" a dywedodd bod y feddygfa wedi cau'n gynnar yn y gorffennol am nad oedd clinigwyr ar y safle.
"Roedd gen i 50 o gysylltiadau gyda chleifion ddoe," meddai.
"Pe bai unrhyw alwadau brys, fe fyddai'n amhosib i mi eu trin."
Mae meddygfa Brynmawr yn cael ei reoli gan ddau feddyg teulu - y ddau sydd hefyd yn rhedeg cwmni rheoli meddygfeydd eHarley Street.
O ddydd i ddydd, mae staff yn y practis yn delio â staff y cwmni.
'Dim sicrwydd o gael eich talu'
"Does dim sicrwydd o gael eich talu," meddai Dr Samantha Jenkins, sydd â dros £10,000 yn ddyledus iddi.
Dywedodd bod meddygon bellach yn gwrthod gweithio yno.
"Mae gennym ni deuluoedd a chartrefi a morgeisi," meddai.
"Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o bobl wedi bod yn ei chael hi'n anodd gwneud taliadau morgais."
Dywedodd Dr Jenkins ei bod yn poeni am ddiogelwch cleifion, ac nad oedd "ocsigen ar gael am gwpl o wythnosau" ym Meddygfa Blaenafon yn Nhorfaen.
"Mae hynny o bosib yn drychinebus os ydych chi mewn sefyllfa o argyfwng," meddai.
Mae BBC Cymru yn deall bod o leiaf 37 o glinigwyr yn cael eu heffeithio.
Dywedodd Dr Ian Jones, a weithiodd i'r feddygfa ym Mrynmawr, fod mwy na £2,000 yn ddyledus iddo.
Mae dau feddyg arall - Dr Hussein a Dr Khan, oedd am i ni ddefnyddio eu cyfenwau yn unig - yn dweud bod £20,000 yr un yn ddyledus iddyn nhw.
Roedden nhw wedi gwneud gwaith locwm yng Nghanolfan Feddygol Llyswyry yng Nghasnewydd - meddygfa arall sy'n gysylltiedig ag eHarley Street.
Y meddygfeydd sy'n gysylltiedig ag eHarley Street
Meddygfa Brynmawr, Brynmawr
Meddygfa Blaenafon, Blaenafon
Canolfan Feddygol Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl
Meddygfa Bryntirion, Bargoed
Canolfan Iechyd Tredegar, Tredegar
Meddygfa Aber-big, Aber-big
Meddygfa Gelligaer, Hengoed
Meddygfa Ffordd y Gorfforaeth, Caerdydd
Canolfan Feddygol Llyswyry, Casnewydd
Mae'r meddygfeydd yn cael eu cytundebu i feddygon teulu unigol, ond mae gan bob un gysylltiadau ag eHarley Street.
Mae'r dudalen "Ein Meddygfeydd" ar wefan y cwmni yn rhestru naw meddygfa yng Nghymru, a 15 yn Lloegr.
Mae wyth o'r meddygfeydd Cymreig wedi'u lleoli yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gydag un yng Nghaerdydd.
'Diffyg cyfathrebu yn ofnadwy'
Mae BBC Cymru wedi gweld gohebiaeth gan gwmni cyflenwadau meddygol a ddywedodd eu bod wedi atal holl gyfrifon eHarley Street oherwydd bod biliau heb eu talu.
"Mae'r diffyg cyfathrebu yn ofnadwy," meddai Simon Juniper, sy'n gweithio i gwmni sy'n cyflenwi meddygon locwm i feddygfeydd.
Dywedodd fod ei fusnes wedi penderfynu peidio darparu meddygon i feddygfeydd sy'n gysylltiedig ag eHarley Street bellach, am fod £25,000 yn ddyledus iddynt.
Dywedodd y meddygon teulu sydd dan gytundeb i redeg y meddygfeydd eu bod wedi wynebu "heriau" ariannol, a bod rhai taliadau locwm wedi eu "gohirio", ond y bydden nhw'n cael eu setlo.
Dywedodd Amy McCrystal, rheolwr ym Meddygfa Brynmawr, fod rhai staff yn dal i aros am eu slip cyflog fis Hydref, nad oedd bil gwastraff wedi'i dalu, a bod pryderon am bresgripsiynau hefyd.
"Mae pobl yn mynd i’r fferyllfa ac yn gofyn am gyflenwad brys o feddyginiaeth oherwydd dydyn nhw ddim wedi gallu cael eu presgripsiynau mewn pryd gennym ni," meddai.
Dywedodd fod staff y feddygfa wedi codi pryderon gyda'r bwrdd iechyd, a'u bod hefyd wedi ymweld â phencadlys eHarley Street yn Sir Gaerlŷr.
'Tuedd niweidiol'
Cododd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Heledd Fychan, bryderon am eHarley Street yn ystod dadl ddiweddar yn y Senedd.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, ry'n ni wedi gweld tueddiad o gwmnïau mawr... yn dechrau camu i mewn i'r farchnad gwasanaethau meddygon teulu, gan brynu a rhedeg nifer o feddygfeydd," meddai.
"Mae eHarley Street yn enghraifft glir o hyn.
"Mae hyn yn parhau gyda'r duedd niweidiol o elw yn cael ei dynnu o'r system iechyd i bocedi preifat, ac mae hefyd yn gwneud y ddarpariaeth yn fregus."
Mae BBC Cymru wedi dysgu bod meddygon teulu lleol wedi gwneud cais am gytundeb Meddygfa Brynmawr, ond bod hyn wedi'i wrthod gan y bwrdd iechyd.
Biniau'n 'llawn iawn, iawn'
Dywedodd Dr Sadequr Rahman o Gaerdydd, sydd wedi bod yn feddyg ers 25 mlynedd, nad oedd erioed wedi gweld sefyllfa debyg.
Mae £1,850 yn ddyledus iddo, meddai, wedi iddo weithio ym meddygfeydd Blaenafon, Bryntyrion, Llyswyry, Tredegar ac Aber-big.
"Roedd yn rhaid i ni fynd â’r bin allan a lapio'r bag plastig a'i roi yn yr ardal gwaredu gwastraff - oedd yn llawn iawn, iawn," meddai Dr Rahman.
"Os nad yw gwastraff clinigol yn cael ei waredu, mae hynny'n broblem hylendid."
Mewn datganiad dywedodd cyfreithwyr sy’n cynrychioli eHarley Street nad oes gan y cwmni "unrhyw gytundebau ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yng Nghymru".
Ond dywedodd fod gan dri phartner "sawl cytundeb" ar gyfer meddygfeydd "allai fod yn destun y cwynion a amlinellwyd".
Dywedodd fod meddygaeth deuluol "dan straen ariannol sylweddol" a bod "y meddygfeydd sy’n cael eu rhedeg gan y partneriaid wedi wynebu heriau tebyg".
“Er bod rhai taliadau locwm wedi cael eu gohirio yn anffodus, mae'r mwyafrif helaeth wedi'u setlo, ac mae'r partneriaid yn hyderus na fydd unrhyw daliadau sy'n weddill yn parhau i fynd heb eu talu.”
Ychwanegodd fod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan "wedi cynnal cyfarfodydd sicrwydd brys ac ymweliadau â’r meddygfeydd", a'u bod wedi dod i'r casgliad eu bod yn gweithredu o fewn eu cytundebau "heb unrhyw bryderon ynghylch diogelwch cleifion, iechyd a diogelwch, lefelau staffio nac adnoddau".
"Mae'r partneriaid yn credu'n gryf bod llawer o'r honiadau yn deillio o ddau weithiwr anfodlon, heb sail wrthrychol na chadarnhad."
'Ymwybodol o bryderon'
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan nad oes ganddo unrhyw gytundebau meddygfeydd teulu gydag eHarley Street, a bod bob cytundeb "gyda meddygon teulu unigol".
"Rydym yn ymwybodol o bryderon yn gysylltiedig â phartneriaeth meddygfeydd teulu o fewn rhanbarth y bwrdd iechyd ac yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'r partneriaid i sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â'u rhwymedigaethau cytundebol.
"Rydym yn cydnabod y galw mawr am wasanaethau gofal sylfaenol ledled y wlad, ac mae hyn hefyd i'w weld yma.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaethau meddygon teulu a'u cefnogi i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy a dibynadwy."