Codi arian i geisio troi tafarn Llanfrothen yn un gymunedol

Mae tafarn y Brondanw Arms yn cael ei hadnabod fel 'Y Ring' yn lleol
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ardal Llanfrothen yn ceisio codi hyd at £200,000 o fewn wythnos i brynu les un o dafarndai mwyaf adnabyddus Gwynedd.
Yn rhan ganolog o’r gymuned ers y 17eg ganrif, mae les tafarn y Brondanw Arms, sy’n cael ei adnabod fel 'Y Ring' yn lleol, nawr ar werth.
Caeodd y drysau nos Sul diwethaf, ac mae pobl leol yn gobeithio prynu’r les a throi’r dafarn yn un gymunedol.
Fe ddaeth aelodau’r gymuned ynghyd nos Lun mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod eu hymgyrch, a ffurfio corff o'r enw Menter y Ring.

Daeth pobl at ei gilydd i drafod dyfodol y dafarn nos Lun
Yn ôl Gwennan Mair, sy’n aelod o bwyllgor y fenter ynghyd â 15 o bobl eraill, dyma "gyfle arbennig" i’r gymuned.
Ond mae hefyd yn "fater o frys", meddai.
“Da ni’n chwilio yn y gymuned glos yn Llanfrothen a’r ardal i’n helpu ni achub y Ring," meddai ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.
"Mae’n gyfle arbennig gan fod les y Ring wedi dod ar werth, ac fel cymuned fe wnaethon ni gyfarfod dydd Llun a phenderfynu mentro troi’r Ring yn dafarn gymunedol.
"Newydd glywed ydan ni fod y dafarn wedi dod ar werth, ac felly 'da ni ddim efo llawer o amser o gwbl.
"’Da ni’n galw ar y gymuned am gefnogaeth achos ei bod o’n fater o frys.”
'Cymaint o atgofion'
Dywedodd Gwennan bod y pwyllgor yn chwilio am "fenthyciadau dros dro" er mwyn sicrhau'r les, gyda bwriad wedyn i feddwl am "ffyrdd newydd o hel arian" i’w throi yn dafarn gymunedol.
Y gobaith yw y bydd modd gwerthu cyfranddaliadau yn y fenter, fel sydd wedi digwydd gyda thafarndai cymunedol eraill ledled Cymru.
Y llynedd, fe wnaeth y dafarn ailagor wedi pryderon dros ei dyfodol.
Fe wnaeth un o gyn-denantiaid y dafarn gytuno i ailgydio yn yr awenau am chwe mis wrth i'r chwilio parhau am denant hirdymor.
Ond flwyddyn yn ddiweddarach mae bragdy Robinsons nawr yn gwerthu’r les.
Mae’r cwmni wedi cael cais am ymateb.

Mae pobl leol yn anelu i godi hyd at £200,000 er mwyn prynu les y dafarn
Dywedodd Gwennan bod y dafarn yn lleoliad pwysig iawn i’r gymuned, gyda "chymaint o atgofion".
"Ma’r Ring wedi tynnu pobl i mewn dros y blynyddoedd o gymaint o wahanol lefydd a chefndiroedd.
"Mae o’n galon i’r gymuned, ac yn le sy’n dod â phobl at ei gilydd, yn cefnogi pobl, lle mae pobl yn gallu teimlo’n saff a chael cyfarfod pobl newydd.
"Mae o'n bendant yn le andros, andros o bwysig i’r gymuned yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2022