Noel Thomas: Stori cyn-bostfeistr o Fôn yn cyrraedd y llwyfan

Noel Thomas yn cyfarfod cast y ddrama yn Theatr Fach LlangefniFfynhonnell y llun, Catrin Jones Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas (canol) a'i fab Edwin (olaf ar y dde) yn cyfarfod rhai o gast cynhyrchiad 'STAMP'

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-bostfeistr, Noel Thomas, yn dweud ei bod hi'n "fraint" bod cwmni drama lleol yn paratoi i lwyfannu drama am ei fywyd.

Bydd STAMP yn cael ei llwyfannu gan griw Theatr Fach Llangefni fis Gorffennaf ac yna yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddechrau Awst.

"Mae o'n rhyfadd iawn gweld eich hun yn cael eich portreadu mewn ffordd, mae'n rhaid i mi ddweud, i mi fel un o sir Fôn, mae o'n fendigedig," meddai.

Cafodd Mr Thomas ei garcharu ar gam yn 2006 fel rhan o helynt cyfrifiaduron Horizon Swyddfa'r Post.

Disgrifiad,

'Braint cael fy mhortreadu' ac actio yn y ddrama STAMP

Wrth wylio'r cast yn ymarfer rhai golygfeydd, dywedodd Noel Thomas : "Mae o'n fraint mawr iawn i mi i ddeud y gwir, yn enwedig cael Theatr Fach yn neud o...

"Mae hyn yn dilyn y Steddfod a'r urddo a [derbyn gradd er anrhydedd] yn y coleg ym Mangor - fedrwch chi'm cael dim gwell."

Mae'r ddrama yn addasiad o hunangofiannau Noel Thomas, a oedd yn datgelu nifer o ddigwyddiadau personol iawn.

"Rhaid i mi ddweud, 'nes i ddatgelu lot o betha nad oeddwn i wedi datgelu o'r blaen.

"Mae'n rhyfadd, fel da chi'n medru siarad efo estron, ond ddim yn medru siarad efo'ch teulu.

"Mi 'nes i ddatgelu lot fawr i ddweud y gwir, pethau oedd yn mynd ymlaen pan oeddwn i yn y carchar.

"Yn enwedig yr wyth diwrnod cyntaf yn Walton, mi oedd hynny yn uffern ar y ddaear i ddweud y gwir."

Noel Thomas yn Theatr Fach Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd euogfarn Mr Thomas ei diddymu'n swyddogol yn 2021 ac mae bellach wedi derbyn iawndal yn llawn gan Swyddfa'r Post.

Daeth dramodydd lleol, Catrin Jones Hughes draw i weld Noel, i ofyn am ganiatâd i lwyfannu'r ddrama. Rhywbeth yn ôl Noel, oedd yn "wych".

Ychwanegodd : "O'n i'n nabod Catrin ers pan oedd hi'n hogan ifanc iawn i ddeud y gwir... Oni'n falch iawn bod hi'n neud y ddrama.

"Mae o'n dangos cefnogaeth 'da chi'n gael gan y sir i gyd i ddeud y gwir... 'dw i'n meddwl trwy mod i wedi bod yn bostman i fyny a lawr yr ynys yma, mae hynny hefyd wedi helpu, ac mae pobl wedi cefnogi ac wedi cefnogi yn ofnadwy.

"'Dw i'n gwerthfawrogi eu gwaith nhw'n arw iawn, mae nhw'n neud y ddrama am ddim - gwirfoddolwyr ydyn nhw i gyd, a 'dw i'n falch iawn fod Theatr Fach Llangefni yn cymryd rhan yn hyn."

Profiad 'heriol' ac 'emosiynol'

Catrin Jones Hughes o'r Gaerwen sydd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo'r ddrama newydd STAMP.

Dywedodd fod y profiad o'i hysgrifennu wedi bod "yn heriol" ond "yn gyfle rhy dda i golli".

"'Dw i wastad yn licio dramâu sydd efo neges gymdeithasol gry', 'dw i'n licio dramâu sydd yn delio efo pobl yn cael bai ar gam," meddai.

"Roedd hon yn stori 'naeth afael yndda i, yn bennaf gan fod Noel a'i deulu yn gymdogion i mi.

"Mi ges i groeso cynnes iawn iawn, syth bin - mi ges i sêl bendith ac mi oeddan nhw wrth eu boddau, ac wrth gwrs... o'n i'n falch iawn bod pawb yn falch bod y stori yma yn gweld golau dydd mewn ffordd wahanol eto.

"Nid pawb sy'n mynd i ddarllen llyfr."

Mae gan y cynhyrchiad gast mawr hefyd, a nifer o'r actorion yn dyblu cymeriadau.

Catrin Jones Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Jones Hughes sydd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo'r ddrama STAMP

"Yr her mwyaf oedd cael gymaint o gymeriadau mewn, mae gen i gast o unarddeg aelod ar y llwyfan drwy'r amser ac mae gen i ddeuddegfed person yn ymddangos weithiau," ychwanegodd Catrin Jones Hughes.

"Mae 'na ddoniolwch, 'dw i ddim isio i bobl feddwl bod nhw'n dod i weld drama sydd â dim ond neges greulon mae Noel wedi wynebu, mae 'na ddoniolwch hefyd, ac mae 'na gerddoriaeth."

Ar ôl dechrau hysbyesbu, fe werthodd y tocynnau yn gyflym iawn. Rhywbeth sy'n "dangos poblogrwydd Mr Noel Thomas" yn ôl Ms Jones Hughes.

"Mae o'n gyfrifoldeb aruthrol, ond gan mod i wedi bod drwy'r sgript air am air efo Noel, 'dw i'n gwybod ei fod o'n hapus efo'r cynnwys.

"Mi oedd hi'n brofiad emosiynol mynd drwyddo gyda fo, ond 'dw i'n meddwl fod y cast i gyd yn gwybod fod gennym ni gyfrifoldeb efo'r stori yma, a 'da ni am fynd amdani, a thrio gwneud Noel a'r teulu yn falch iawn ohona ni."

Llun o'r ymarferion
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ddrama yn cael ei llwyfannu yn Llangefni cyn mynd ar daith i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Gan fod y ddrama yn canolbwyntio ar fywyd Noel o'i gyfnod yn blentyn ym Malltraeth ar Ynys Môn, i'w gyfnod yn gweithio yn Swyddfa'r Post mae dau actor yn portreadu cymeriad Noel.

Richard Edwards ydi un o'r rheiny ac mae'n dweud ei bod wedi bod yn anodd ar y dechrau penderfynu a oedd am dderbyn y rôl.

Dywedodd: "Pan ges i gynnig... fuodd bron iawn i mi wrthod, o'n i'n meddwl sa hi'n job rhy fawr i mi... ond o'n i'n teimlo ar ôl meddwl am y peth, fod o'n gyfla rhy dda i wrthod i ddeud y gwir."

Richard Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Edwards ei fod wedi ystyried gwrthod y cynnig i actio i ddechrau

"'Nes i gytuno iddo, a 'dw i'n hynod o falch, mae cael portreadu cymeriad Noel, yn yr adegau tywyll iawn o'i fywyd o, mae o'n fraint ofnadwy," ychwanegodd.

"Mae cael gwneud o ar lwyfan o flaen cynulleidfa fel hyn yn rwbath arosith efo fi am hir iawn 'dw i'n meddwl.

"Mae 'na ddarnau ysgafn ynddi, ond mae 'na ddarnau reit drwm a reit ddwys hefyd. 'Da ni gyd yn gwybod am brofiad Noel pan oedd o yn y carchar a'r helynt efo Swyddfa'r Post."

Cafodd Mr Edwards y cyfle i gyfarfod Noel cyn dechrau'r ymarferion ar gyfer y ddrama.

"Fues i heibio Noel yn ei dŷ o, ges i groeso ofnadwy ganddo fo a'r teulu... 'dw i mond yn gobeithio fydda i wedi rhoi'r neges drosodd fel 'sa Noel yn ei ddisgwyl.

"'Dw i'n gobeithio 'na i gyfiawnder a bod Noel yn fodlon, dyna sy'n bwysig."

Mae Ifan sy'n 15 oed hefyd yn actio rhan Noel Thomas pan oedd yn iau.

Dywedodd: "'Dw i'n meddwl fod chwarae rhan Noel yn ifanc yn fraint, mae o'n ddyn caredig ofnadwy, ac mae ei stori yn haeddu cael ei rhannu mewn ffordd positif.

"'Dw i'n rhan o griw ieuenctid Theatr Fach ers 2018 rŵan, 'da ni'n hoffi cefnogi, mae'n gymunedol ofnadwy a phawb yn nabod ei gilydd yma."

Noel ac Ifan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ifan (dde) y cyfle i gyfarfod Noel Thomas yn un o'r ymarferion.

Bydd Ifan hefyd yn cael y cyfle i rannu'r llwyfan gyda'i dad, Rhys, sydd hefyd yn actio yn y ddrama - rhywbeth mae wedi ei ddisgrifio fel "cyfle gwych".

"Mae'n helpu fi efo fy llinellau. 'Nes i gyfarfod Noel am y tro cyntaf heddiw, ac mae dad yn helpu fi sut i ddeud llinellau fel 'sa fo [Noel] yn eu deud nhw.

"'Dw i am fod yn nerfus, ond edrych ymlaen ydw i fwyaf... 'dw i'n gobeithio fod teulu Noel yn gweld faint o waith sydd wedi mynd mewn i hwn.

"'Da ni gyd wedi trio'n gorau i ddangos ei stori yn y ffordd gorau posib."

Mae cyfle i glywed dau gyfweliad Noel Thomas gyda Beti George yn gynharach eleni ar BBC Sounds. Y cyfweliad cyntaf yma a dyma'r llall.