Y Cymro ar flaen bws Covid Wuhan: 'Bydden i'n 'neud e eto'

- Cyhoeddwyd
Pum mlynedd ers i'w wyneb fod ar draws y newyddion, mae pobl yn dal i anfon y llun at Andy Simonds - ei wyneb pryderus, dwylo'n dynn ar yr olwyn, a meddyg mewn siwt hazmat y tu ôl iddo.
"Dwi wedi gweld pobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn holi, 'sut mae e, yw e'n fyw?' 'Yw e wedi marw?' 'Beth ddigwyddodd i'r gyrrwr druan?'," meddai nawr gan wenu.
Ei swydd y diwrnod hwnnw? Cludo teithwyr oedd newydd lanio ym Mhrydain o Wuhan, China i leoliad meddygol diogel - ar adeg pan oedd pryderon am coronafeirws yn lledu'n gyflym.
Ac er mai gweithio i gwmni yn Lloegr oedd o ar y pryd, fe wnaeth yr het fwced ar flaen y bws ddenu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol i'r ffaith bod Cymro ynghanol y stori.
Roedd hanes ei daith hyd yn oed yn cynnwys galwad ffôn o gyngor gan Chris Whitty, a gorfod ffoi o ganolfan siopa, ond mae'n mynnu y byddai'n "gwneud yr holl beth eto".
"Achos bydden i eisiau i rywun wneud hynny drosta i, a mynd â fi adref mewn sefyllfa fel yna," meddai.
Galwad Chris Whitty
Ar 28 Ionawr 2020 cafodd Andy Simonds ei alw i swyddfa ei reolwr yn Horseman Coaches, cwmni o Reading ble'r oedd yn gweithio.
Roedd pryderon coronafeirws eisoes yn lledu drwy China, gydag hediad arbennig wedi ei drefnu i gludo Prydeinwyr adref o Wuhan - canolbwynt yr haint.
Cafodd Andy wybod fod y cwmni wedi cytuno i gludo'r teithwyr hynny o RAF Brize Norton, ble bydden nhw'n glanio, i leoliad cwarantin yng Nghilgwri, Glannau Mersi.
Er iddo ef a'i gydweithwyr led-gytuno - diolch yn rhannol i fonws o £100 gafodd ei gynnig - roedd ganddyn nhw dal "bryderon" am feirws doedd dim llawer o wybodaeth yn ei gylch bryd hynny.

Bws Andy yn cyrraedd Ysbyty Arrowe Park, ble roedd y teithwyr o Wuhan am gael eu cadw mewn cwarantin
"Felly'r noson honno, es i adref a ffonio 111," meddai Andy, sydd bellach yn 62 oed.
"Fe ddywedon nhw y byddai rhywun yn cysylltu yn ôl."
Pan ddychwelwyd yr alwad, doedd neb llai na Phrif Swyddog Meddygol Lloegr, Syr Chris Whitty, ar ben arall y ffôn.
"Ar y pryd doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd e, ac fe wnaeth e ateb y cwestiynau a'r amheuon oedd gen i a fy nghydweithwyr, a thawelu'n meddyliau ni," meddai Andy.
"Y diwrnod wedyn es i mewn a dweud wrth y gyrwyr eraill, ac roedden ni i gyd yn hapus i'w wneud e."
'Troi fy stumog i'
Ar 31 Ionawr - ddiwrnod wedi'r achos cyntaf o Covid yn y DU - fe gyrhaeddodd Andy a'i gydweithwyr i RAF Brize Norton mewn "hwyliau da", yn y dealltwriaeth fod y risg yn isel.
Ond wrth iddyn nhw aros am y teithwyr o Wuhan, dechreuodd mwy o staff meddygol, swyddogion heddlu, personél milwrol a "siwts" llywodraeth gyrraedd, a daeth mawredd y sefyllfa'n glir.
"Pan ddaeth y swyddogion i mewn, nes i sylweddoli beth oedd y realiti, yn enwedig pan wnaethon nhw ein briffio ni, nes i sylweddoli difrifoldeb y peth," meddai Andy.
"Naeth e droi fy stumog i - roedd e fel, 'reit, mae hyn yn digwydd go iawn'."
Wrth adael o Sir Rhydychen, cafodd confoi y bysus eu dal mewn storm wrth i'r cyfryngau a'u camerâu ddal lluniau ohonynt.
Fe wnaeth y lluniau godi pryderon ar-lein, gyda rhai ar y cyfryngau cymdeithasol yn cwestiynu pam nad oedd y gyrwyr yn gwisgo mygydau i'w gwarchod, tra bod y meddygon oedd yn eistedd y tu ôl iddyn nhw mewn gwisg amddiffynnol llawn.

Cafodd y bysus eu hebrwng mewn confoi gan feicwyr heddlu yr holl ffordd o Sir Rhydychen i Lannau Mersi
Ond roedd realiti'r sefyllfa yn reit saff, meddai Andy.
"Roedd e'n eistedd tu ôl i fi fel Darth Vader, y ffordd roedd e'n anadlu drwy'r wisg," meddai.
"Roedd e'n ddoniol. Fe gawson ni sgwrs.
"Yno oedd e i ymateb petai argyfwng yng nghefn y bws - jyst bod yn barod rhag ofn."
Roedd y teithwyr yn eistedd yng nghefn y bws, ac roedd ffenest Andy ar agor - ymhell cyn i hynny ddod yn gyfarwyddyd cyffredin ar gyfer Covid.
"Roedd 'na lot o gwestiynau - pam nad oes ganddo fe fasg? - ond doedden ni ddim yn teimlo risg," ychwanegodd Andy.
"Ac hyd heddiw, diolch byth, dwi erioed wedi cael Covid."
Hanes yr het fwced
Doedd hi ddim yn hir nes i Andy weld y llun o'i hun ar flaen y bws - ond unwaith eto, meddai, camargraff oedd yr olwg 'bryderus' ar ei wyneb.
"Pan nes i weld y llun i ddechrau nes i feddwl yn syth, 'pam ti'n edrych mor druenus?'," meddai.
"Ond ro'n i jyst yn canolbwyntio ar y ffordd. Roedd y cyfryngau a'r paparazzi naill ochr, a'r goleuadau yma i gyd yn fflachio.
"'Be' sy'n mynd ymlaen fan hyn?' oedd beth oedd yn mynd drwy fy meddwl i, achos doedden ni ddim yn sylwi beth fyddai effaith hyn."

Cafodd y llun hwn o Andy Simonds ei ddefnyddio ar draws y cyfryngau, gyda'i olwg 'bryderus', y meddyg yn eistedd y tu ôl iddo, a'i het fwced yn amlwg yn y ffenest
Mae'n cyfaddef bod yr het fwced, ar y llaw arall, wedi ei osod yn fwriadol.
Fel rhywun gafodd ei eni yn Reading i deulu Cymreig, mae Andy Simonds yn ddilynwr brwd o dîm pêl-droed Cymru ac roedd yn awyddus i arddangos symbol o hynny ar ei daith.
"Ro'n i'n gwybod y byddai'r teulu pêl-droed Cymreig yn ei adnabod e'n syth," meddai.
"Mae'r het yn mynd dros y byd gyda fi.
"Y jôc oedd mai dim ond het fwced oedd ei angen ar y Cymro oedd yn gyrru'r bws Covid - roedd angen siwt hazmat llawn ar y Sais tu ôl.
"Ond yn amlwg dan yr amgylchiadau, a difrifoldeb y peth, doedd neb yn siŵr ar y pryd beth oedd yn mynd i ddigwydd."
'Doedden ni ddim eisiau ffrae'
Ar ôl cyrraedd Ysbyty Arrowe Park y noson honno, cafodd Andy a'r gyrwyr eraill westy am y noson, a hwythau dal heb sylweddoli cymaint o sylw roedd y daith wedi ei denu.
"Dim ond y diwrnod wedyn nes i ddechrau gweld pethau ar y newyddion amser brecwast, a chymaint o effaith roedd e wedi ei gael ar draws y wlad," meddai Andy.
Gan eu bod nhw dal yn eu dillad o'r diwrnod cynt, fe aeth y gyrwyr i ganolfan siopa gyfagos i brynu rhagor.
Ond fe gawson nhw eu hadnabod, a gorfod ffoi trwy ddrws cefn y siop.
"Doedden ni ddim yn teimlo dan fygythiad, ond roedd e'n sicr yn anghyfforddus," meddai Andy.
"Doedden ni ddim eisiau ffrae. Dim ond gwneud ein gwaith oedden ni.
"Fe aethon ni yn ôl i'r gwesty dan orchymyn i beidio gadael, oherwydd y risg o greu rhagor o gynnwrf."

Roedd Andy, sydd wedi dilyn tîm pêl-droed Cymru oddi cartref ers y 1990au, yn awyddus i roi lle amlwg i'w het fwced - un o'r rhai gwreiddiol i gael eu creu, meddai
Deuddydd yn ddiweddarach fe wnaethon nhw yrru yn ôl i Sir Rhydychen, gyda'r bysus - oedd wedi eu glanhau'n drylwyr - yn teithio'n unigol fesul 20 munud er mwyn peidio denu sylw.
Cafodd y gyrwyr wybod nad oedd angen iddyn nhw ddychwelyd i'r gwaith am bythefnos - ond chawson nhw ddim cyfarwyddwyd i hunan-ynysu.
Gan ei fod yn hyfforddwr pêl-droed adnabyddus yn yr ardal, penderfynodd Andy y byddai'n well ganddo fynd ar wyliau byr i'r Aifft yn hytrach na dangos ei wyneb yn lleol.
"Roedd llawer o bobl yn fy 'nabod i yn Reading, felly doeddwn i ddim eisiau unrhyw drafferth yn y gymuned os oeddwn i'n mynd allan," esboniodd.
Bu bron iddo gael ei ddal mewn digwyddiad coronafeirws arall, ar ôl teithio wedyn i'r Eidal i wylio gêm bêl-droed ychydig cyn i ran o'r wlad honno fynd i mewn i gyfnod clo ar ddechrau mis Mawrth 2020.
'Dim teimlad negyddol'
Erbyn 23 Mawrth roedd Prydain hefyd dan gyfnod clo coronafeirws, wrth i'r achosion prin ar ddechrau'r flwyddyn droi'n bandemig llawn.
Gyda theithiau dramor wedi dod i stop, fe adawodd Andy Simonds ei swydd fel gyrrwr bysus yn ddiweddarach y flwyddyn honno ac ailhyfforddi fel peiriannydd telegyfathrebu.
Mae hefyd bellach wedi symud yn ôl i'w famwlad, i Gaerllion ger Casnewydd.
"Mae'n fywyd hollol wahanol - mae gen i'r mynyddoedd lan y ffordd, a'r môr jyst lawr y ffordd," meddai.
"Dwi'n difaru peidio symud yn gynt."
Un peth nad yw'n difaru, fodd bynnag, yw ei rôl yn un o straeon mawr cyfnod cynnar pandemig Covid.
"Roedd e'n gyfnod anodd, ond fe ddaethon ni drwyddi," meddai Andy. "A bydden i'n gwneud yr un peth eto.
"Petawn i yn y sefyllfa yna, bydden i eisiau i rywun fy nghludo i adref a gwneud yn siŵr 'mod i'n saff.
"Lle bynnag yn y byd mae'n rhaid i ni ddod â phobl adref oherwydd rhyw ddigwyddiad, mae'n rhaid i rywun wneud y gwaith yna.
"Felly does gen i ddim teimlad negyddol am sut wnes i fe, a pham wnes i fe."