Gorddos gan gartref gofal wedi cyfrannu at farwolaeth dyn 88 oed

Clywodd y cwest fod John Collinson - yma gyda'i fab Kevin - wedi bod yn egnïol cyn y camgymeriad meddygol
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod gorddos o feddyginiaethau a gafodd ei roi i ddyn mewn cartref gofal wedi cyfrannu at ei farwolaeth ddeufis yn ddiweddarach.
Fe glywodd gwrandawiad yn Rhuthun fod cyn-berchennog siop sglodion, John Collinson, 88 o Lanfairfechan, wedi marw ym mis Awst 2022.
Roedd hyn wyth wythnos ar ôl iddo gael 10 gwaith yn fwy na'i ddos cywir o feddyginiaeth dros gyfnod o bedwar diwrnod mewn cartref ym Mae Cinmel, Sir Conwy.
Clywodd y cwest fod y tad i bump o blant wedi bod yn symud ac yn egnïol cyn y camgymeriad meddygol, ond wedi hynny fe aeth yn ansymudol ac wedi'i gyfyngu i'w wely.
Yn ei gasgliad, dywedodd crwner dwyrain a chanol gogledd Cymru, John Gittins, fod Mr Collinson, a oedd yn cael ei adnabod fel "Ricky", wedi marw o bilateral pulmonary emboli o ganlyniad i thrombosis gwythïen ddofn.
Ychwanegodd fod y camgymeriad meddygol wedi cyfrannu at ei farwolaeth.
'Dywedais fod rhywbeth o'i le'
Yn ystod y gwrandawiad yn Llys y Crwner Rhuthun, fe ddisgrifiodd mab Mr Collinson, Kevin, sut y bu ei dad yn byw yn Kimnel Lodge am bron i ddwy flynedd ar ôl datblygu dementia.
Dywedodd ei fod wedi cychwyn ar ddos isel o'r cyffur risperidone yn Ionawr 2022, er mwyn ceisio tawelu ei gyfnodau o gynnwrf.
Dywedodd Kevin Collinson fod ei dad wedi bod yn symudol yn gorfforol, hyd yn oed yn dawnsio yn ystod dathliadau Jiwbilî'r Frenhines ychydig o wythnosau cyn iddo gael ei daro'n wael.
Ychwanegodd ei fod yn gwybod fod rhywbeth o'i le gyda'i dad pan aeth i'w weld ar 1 Gorffennaf 2022, ac roedd yn amau ei fod yn rhywbeth i'w wneud gyda'i feddyginiaethau.
"Roedd yn wiped out. Dywedais [wrth aelod o staff] fod rhywbeth o'i le."

Dywedodd merch John Collinson, Rhian, fod y teulu wedi teimlo rhyddhad bod y crwner wedi gwneud y cysylltiad rhwng gorddos y cyffur a marwolaeth ei thad
Dywedodd Kevin Collinson ei fod wedi cael gwybod ar y cychwyn nad oedd unrhyw beth o'i le gyda dos ei dad.
Ddiwrnodau yn ddiweddarach, roedd rheolwr yn y cartref gofal wedi sylwi ei fod wedi cael dau ddos 2.5ml o risperidone yn hytrach na 0.25 fel yr oedd wedi ei rhagnodi ddwywaith y dydd.
Fe glywodd y cwest fod y camgymeriad wedi digwydd o ganlyniad i gamgyfrif ar ôl i feddyginiaethau Mr Collinson gael ei newid o dderbyn pilsen i gael y moddion ar ffurf hylif.
Dywedodd Samantha Leutym, rheolwr Kimnel Lodge, er "nad oedd yn esgus" ar y pryd, John Collinson oedd un o'r cyntaf i gael moddion ar ffurf hylif.
Ychwanegodd, unwaith iddyn nhw sylweddoli ar y camgymeriad, eu bod wedi cysylltu â meddyg teulu, wnaeth eu cynghori i roi'r gorau i'r moddion, ac fe gafodd y teulu wybod.
Ychwanegodd fod y mesuriadau ar y syrinj a gafodd ei roi gyda'r moddion yn "aneglur" ond roedd arferion wedi newid yn y cartref gofal ers hynny, gyda system ddigidol newydd wedi'i chyflwyno ar gyfer rheoli meddyginiaethau.
'Tair blynedd hir'
Yn ei dystiolaeth i'r cwest, dywedodd Dr Abdul Karim Tuma - seiciatrydd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - iddo ymweld â Mr Collinson ychydig wythnosau ar ôl y gorddos, mewn cartref gofal arall yr oedd wedi cael ei symud iddo.
Dywedodd ei fod yn "sâl, yn gorfforol ac yn feddyliol", yn "ddryslyd iawn", ac "nad oedd yn symud o gwbl".
Dywedodd y crwner John Gittins, yn dilyn y camgymeriadau, fod Mr Collinson wedi mynd yn "dawelach ac ansymudol, ac ni ddychwelodd i'w lefel sylfaenol o weithgarwch ar unrhyw adeg".
Dywedodd merch John Collinson, Rhian, fod y teulu wedi teimlo rhyddhad bod y crwner wedi gwneud y cysylltiad rhwng gorddos y cyffur a marwolaeth ei thad.
Ychwanegodd ei bod wedi bod yn dair blynedd hir i gyrraedd y pwynt hwn.
Dywedodd Kevin Collinson fod ei dad wedi bod yn "hapus" ac wedi mwynhau treulio amser gyda'i deulu ar deithiau cerdded ar lan y môr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2023