Arestio gyrrwr fan wedi marwolaeth beiciwr modur elusen gwaed

A478 ym Mhentregalar
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A478 ym Mhentregalar

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 56 oed wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth beiciwr modur oedd yn cario gwaed i'r gwasanaeth iechyd.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng fan wen Volkswagen a beic modur elusen Beiciau Gwaed Cymru tua 18:25 nos Fercher.

Fe ddigwyddodd ar yr A478 ym Mhentregalar yng ngogledd Sir Benfro.

Bu farw dyn yn ei 70au oedd ar y beic modur yn y fan a'r lle.

Mae dyn 56 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu luniau dash-cam, i gysylltu â'r llu.

Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen sy'n darparu gwasanaeth cludo am ddim i'r gwasanaeth iechyd, yn cario eitemau fel gwaed a phlasma ar draws y wlad.

Pynciau cysylltiedig