Person hynaf Cymru, Mary Keir, wedi marw yn 112 oed
- Cyhoeddwyd
Mae person hynaf Cymru wedi marw yn 112 oed.
Roedd Mary Keir yn cael ei chydnabod fel person hynaf Cymru, a hynny ar ôl iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 112 fis Mawrth.
Roedd Ms Keir yn byw yng nghartref gofal Awel Tywi yn Llandeilo, a dyna le bu ers 12 mlynedd.
Bu'n gweithio fel prif nyrs ar ward a nyrs rhanbarthol yn ystod ei gyrfa, a bu'n byw yn Llansteffan nes ychydig cyn ei phen-blwydd yn 100.
Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth, ac roedd yn medru canu'r piano.
Fe gafodd hi dipyn o ddathliad yn troi'n 112 fis Mawrth, gyda theulu a ffrindiau wedi dod ynghyd i gael cinio Sul a bwffe yn y nos.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett o Gyngor Sir Caerfyrddin ei bod wedi tristáu o glywed am farwolaeth Mary Keir, ac yn "estyn ein cydymdeimlad dwysaf â mab a merch-yng-nghyfraith Mary, ei theulu a'i ffrindiau".
"Yn 112 oed, Mary oedd person hynaf Cymru ac mae gen i atgofion melys o ymweld â hi ar sawl achlysur yng Nghartref Gofal Awel Tywi, a siarad â hi am ei bywyd rhyfeddol.
"Hoffwn i ddiolch hefyd i'r staff hyfryd yn Awel Tywi am eu gofal rhagorol dros Mary a holl breswylwyr y cartref gofal."