'Dwi wedi dysgu be sy'n gwneud Nadolig perffaith'

  • Cyhoeddwyd

Gyda'r dathliadau yn cychwyn yn gynt ac yn tyfu bob blwyddyn, mae nifer yn teimlo pwysau cynyddol i gael y 'Nadolig perffaith'. Wrth iddi baratoi am ei Dolig cyntaf fel nain, yma mae Menai Pitts o Gaernarfon yn cofio dathlu'r ŵyl dros y degawdau, ac yn dod i'r casgliad bod un peth yn hanfodol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Menai Pitts yn mwynhau'r ŵyl gyda'r genhedlaeth nesaf, ei wyres Mabli

Ho! Ho! Ho! Mai'n Ddolig! Sut dwi'n gwybod?

Am fod Noddy Holder yn gweiddi "It's Christmas!" yn rwla bob dydd, am fod ceirw wedi eu goleuo gan fil o fylbs, Siôn Corn a lwmp o ddyn eira ugain troedfedd wedi codi yn yr ardd dros ffordd, y gorlwyth golau disglair ar draws y wlad yn achosi smart meters i fflachio 'dros gyllideb.'

Mae corachod pryfoclyd #elfontheshelf yn chwarae triciau di-ri; pyjamas 'run peth i bawb yn y tŷ a drysau pob calendr Adfent wedi eu chwalu. Ac ar-lein, mae miloedd o bobl yn postio lluniau #itsbeginningtolookalotlikechristmas #tistheseason #coedendolig #nadoligllawen #nadoligperffaithni #barodamdolig

Barod am Dolig? Dyma'r cwestiwn sy'n gwneud i fi deimlo'n fethiant, cwestiwn mae pawb yn ofyn am wythnosau.

Addurniadau papur a choeden syml

Tydi'r oes wedi newid? Coeden syml, tinsel ac un bocs o addurniadau Nadolig oedd yn tŷ ni, carolau oedd y trac sain ac addurniadau papur wedi eu gwneud yn yr Ysgol Sul yn hongian o'r to efo balŵns fysa wedi crebachu fel sach gwag Siôn Corn erbyn noson Dolig. Roedd y nenfwd yn llawn tyllau pin bawd a marciau selotep, atgofion parhaol o sawl Nadolig Llawen a fu.

Mae gennai obsesiwn efo tynnu lluniau oherwydd mai ychydig iawn o luniau plentyndod sydd gennai a dim ond un llun o Nadolig efo fy nheulu pan o'n i'n ifanc, llun gafodd ei dynnu gan Mel (fy ngŵr erbyn hyn) efo'r anrheg Nadolig cyntaf nath o brynu i fi. Mae'r llun yn codi hiraeth.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Menai Pitts (yn sefyll yn y canol) gyda'i theulu yn 1982 yn y llun sy'n codi hiraeth

Digon anodd, ar gyflogau bach, oedd i fy rhieni fwydo'r teulu a bwydo'r metr efo darnau 10c i gadw golau'r tŷ ymlaen heb sôn am oleuo mil o fylbs carw plastig. Roedd fy mrodyr a chwiorydd bach a fi yn cael modd i fyw yn pori drwy gatalog KAYS cyn sgwennu llythyr i Siôn Corn. A'r llythyrau yn cael eu taflu i'r tân, i'r neges fynd i fyny'r simdde. Ma' rhaid bod nhw'n cyrraedd Siôn Corn, gan i ni gael be' oeddan ni isio, mwy neu lai.

Gofynnais am Sindy, cefais Sandy, gofynnais am Fuzzy Felt, cefais Fusspot Felt ac roedd plant y stad i gyd isio reidio fy Spice Hopper. Chwarae teg i Mr Corn, nath o drio ei orau glas i ddallt fy llawysgrifen flêr. Roedda ni'n deffro mor gynnar yn llawn cyffro bore Dolig, a'r tŷ bach efo teulu mawr yn llawn bwrlwm a sŵn.

Erbyn y bore roedd hosan Dolig wedi ymddangos ar droed y gwely efo tanjarîn, cnau, arian siocled ac ambell i anrheg fach. Y bwriad ma' siŵr, oedd cadw ni rhag dod lawr grisiau rhy gynnar, effeithiol am funudau, wedyn lawr a ni i weld be oedd o dan y goeden. Roedd 'na wastad selection box ac ambell i syrpreis gan y teulu ehangach.

Eisiau rhoi Nadolig hudolus i'r plant

Ond y syrpreis mwyaf ges i erioed oedd Nadolig 1974, yr un cyntaf i fi dreulio efo Nain. Cawsom Nadolig tawel a digon digyffro tan ddydd Sadwrn, 28 Rhagfyr, pan ddaeth galwad ffôn i ddweud bod Mam wedi cael babi. BABI?!!! Chwaer fach?! Un arall?! Sut? Ymddengys bod pawb yn gwybod bod Mam yn feichiog ond neb wedi meddwl sôn wrtha i.

Nes i sylwi bod Mam wedi rhoi pwysa' ymlaen ond roedd pawb yn y tŷ lot tewach ers i Findus Crispy Pancakes fod ar special offer yn Kwiks. Weithiau dwi'n meddwl bod Carys yn wyrth wedi ei geni mewn stabal ar ôl i Mam gyrraedd yno ar gefn asyn, neu efallai nhw wedi ei chael hi yn sêl Woolworths. Pymtheg mis wedyn cawsom frawd bach newydd - Arwyn. Natho nhw gofio dweud wrtha i bod o ar y ffordd...

Roedd Mel yn un o bump o blant, fel fi, ac o gefndir tebyg. Pan gawson ni blant ein hunan, Iwan a Hywel, roedda ni wedi gwirioni ac yn benderfynol o wneud pob Nadolig yn brofiad hudolus.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Menai, Hywel, Mel ac Iwan

Twrci amrwd a gwallt Ken Dodd

O'n i'n gwrthod gwrando ar y smart meter yn fy mhen yn gweiddi 'dros gyllideb' pan o'n i'n gorwario, petha' peryg ydi overdraft a cardia' credyd yn de? O'n i'n hoffi bod yn hael, nid yn unig efo'r hogia ond efo pawb, yn anffodus iddyn nhw o'n i'n dewis nifer a maint dros safon ac ansawdd, fy Fortnum & Mason i oedd Billy Lal's Bargain Centre yn Llandudno.

Dwi wrth fy modd yn cael llond tŷ o bobl a chroesawu'r teulu draw am ginio Dolig. Roeddwn yn prynu'r twrci mwyaf bosib, gwneud stwffin fy hun, pwdin a chacen Dolig a mins peis cartref. Codi am bump bore Dolig i baratoi'r llysiau a stwffio'r twrci a'i roi yn y popty, fel bod arogl twrci'n rhostio yn llenwi'r tŷ erbyn i bawb arall godi.

Roedd fy amserlen berffaith yn gadael digon o le i fi gael fy hun yn barod efo colur a ffrog Nadolig glitzy cyn i'r plant ddeffro, ac wedyn cael digon o amser i agor anrhegion efo nhw, sgwennu cardiau diolch yn syth, ac wrth gwrs amser i chwarae a chael miloedd o hwyl.

Roedd y realiti yn hollol wahanol. Plant yn codi am 5.30, y tŷ a finna yn annibendod llwyr o fewn hanner awr, fi wedi rhoi'r hob ymlaen yn lle'r popty, twrci yn amrwd a moron yn llosgi tra bo' fi, dal yn fy mhyjamas a gwallt fel Ken Dodd, yn cael sherry a mins pei am naw y bore efo Taid.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Hywel ac Iwan

Roedd Huw Rich, hen daid yr hogia', yn galw heibio bob bore Dolig, roedd y ffôn yn canu drwy'r bore, Antis, Yncls, y ddwy nain a'r ddau daid isio dymuno Nadolig Llawen ac isio gwybod be' oedd yr hogia wedi gael gan Siôn Corn, er bod nhw'n dod draw am ginio mewn dwy awr.

Wrth reswm, doedd y cinio byth yn barod ar amser. O'n i'n sdresd a styfnig, yn gwrthod help ac yn hel pawb allan o'r gegin efo tin mawr o siocled i gadw nhw fynd am dair awr. Hiraeth am ddyddiau Nadolig a fu.

Un profiad Nadolig eitha' hudolus oedd gweld llyfr wnaethon ni sgwennu am y Nadolig, Carwyn y Cangarŵ Cymraeg yn cael ei gyhoeddi. Roedd Iwan a Hywel wrth eu boddau! Ac eleni 'da ni wrth ein boddau bod llyfr jôcs Iwan, 'Pam Ti'n Chwerthin?' (ar werth yn eich siopau lleol...!) a bod Hywel yn rhan o'r sengl Dolig Drygionus efo criw Cabarela.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Iwan a Hywel Pitts - y ddau bellach yn llwyddiannus yn y byd creadigol Cymraeg - gyda'r llyfr Carwyn y Cangarŵ Cymraeg

Bod yn hael efo'ch amser

A'r profiad mwyaf hudolus, ar fore Nadolig 2023, oedd derbyn y newyddion bod aelod newydd ar y ffordd i'n teulu ni. Cyrhaeddodd yr anrheg gora erioed, ein hwyres fach Mabli Lois yn yr haf.

Dwi wedi dysgu be' sy'n gwneud Nadolig perffaith a be' sy'n bwysig a hynny yw bod yn hael efo'ch amser a threulio amser efo'r bobl 'da chi yn ei garu. Hynny, a siarad a rhannu a thynnu lot o luniau i gadw ar gyfer y dyfodol.

Dwi'n gobeithio bydd nifer o'r traddodiadau yn parhau hefo Mabli a'i chenhedlaeth hi, mae hi'n barod wedi gosod angel wedi ei weu gan ei hen Nain Gloria ar y goeden.

Barod am y Dolig? Ydw wir!

Pynciau cysylltiedig