Arestio dyn wedi i blismyn archwilio ceir ym Mangor

Cafodd Jerry Berry ei arestio ar Stryd Fawr Bangor ar amheuaeth o fyrgleriaeth a dwyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ym Mangor wedi i nifer o blismyn fod yn y ddinas ddydd Mercher.
Cafodd Jerry Berry, 39, ei arestio ar y Stryd Fawr ar amheuaeth o fyrgleriaeth a dwyn.
Yn gynharach yn y prynhawn, dywedodd yr heddlu eu bod wedi stopio a chwilio pob cerbyd a oedd yn mynd i mewn ac yn gadael y ddinas er mwyn dod o hyd i Berry.
Meddai'r Arolygydd Ardal, Jamie Owens: "Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac amynedd wrth i ni ddelio â'r digwyddiad yma.
"Rwy'n deall y byddai presenoldeb cymaint o blismyn wedi bod yn bryderus i drigolion, ond hoffwn sicrhau'r gymuned bod hyn wedi arwain at arestio Berry, sydd bellach ar ei ffordd i'r ddalfa."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.