Teth: Y ffilm cwiar Cymraeg 'sy'n llwyddo i gyffwrdd pawb'

Leo yn chwarae cymeriad Ioan yn y ffilm ac yn dilyn ei daith o gael 'triniaeth top'
- Cyhoeddwyd
Dros benwythnos 28 a 29 Mehefin fe wnaeth Leo Drayton, awdur y ffilm cwiar Cymraeg, Teth, wirioni ar yr ymateb gafodd ei ffilm yn Pride Llansteffan.
Cafodd y ffilm ei dangos yng ngŵyl Tafwyl hefyd, a bydd yn Sinemaes yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym mis Awst.
Ers mis Hydref mae Teth, a gomisiynwyd gan S4C, wedi bod mewn gwyliau ffilm cwiar rhyngwladol, gan gynnwys BFI Flare yn Llundain, gŵyl Pune yn India a gŵyl Outsouth yng Ngogledd Carolina.
Dyma'r tro cyntaf i ffilm iaith Gymraeg gael ei dangos mewn sawl un o'r gwyliau hyn.
Cymru Fyw gafodd air gyda Leo am ei siwrne yn creu ei ffilm gyntaf. Leo hefyd yw Bardd Mis Gorffennaf Radio Cymru.
Am beth mae Teth ac o le daeth y syniad?
Mae Teth yn film fer comedi Cymraeg cwiar sydd yn rhannu profiad ein prif gymeriad, Ioan, o gael top surgery a'r rhwystrau mae'n wynebu wrth ymadfer.
Mae'n ffilm hwyl sydd yn arwain ni ar daith i chasio ci cheeky ar hyd y lle gyda digonedd o bethau annisgwyl a lot o chwerthin, ond yn y bôn mae'n ffilm am y berthynas newidiol rhwng tad a mab a sut mae rhaid iddyn nhw navigatio y newid mawr yma gyda'i gilydd.
Daeth syniad y ffilm yn syth o fy mhrofiadau i. Roedd ymadfer yn anodd ond hefyd yn llawn straeon doniol does neb yn siarad amdano ddigon.
Gwelais i fod gap enfawr o ran y straeon a chymeriadau rydym yn rhannu trwy gyfrwng y Gymraeg ac oedd rhaid i fi adrodd y stori yma.

Fe gafodd y ffilm Teth ei hysgrifennu gan Leo Drayton a'i chyfarwyddo gan Peter Darney
Sut brofiad oedd ysgrifennu ffilm rwyt ti hefyd yn actio ynddi?
Nes i 'sgwennu'r ffilm heb wybod mai fi fyddai'n actio ynddi.
Does gen i ddim profiad proffesiynol o actio ac roedd y dasg yn teimlo'n amhosib, ond gyda help Peter Darney (y cyfarwyddwr) a chefnogaeth y tîm dwi'n teimlo'n falch mai fi 'nath chwarae Ioan.
Oherwydd bod y stori yn seiliedig ar fy mhrofiadau i roedd hi'n teimlo'n hawdd i ailgreu'r teimladau yna; y siom o ddim cael yr ymateb ti'n disgwyl, yr euphoria o weld dy gorff am y tro cyntaf, y panig pan mae pethau'n mynd o'i le.

Leo Drayton
Pa wyliau ffilm sydd wedi dangos Teth hyd yma?
Agorodd Teth yn Iris ym mis Hydref ac ers hynny mae wedi bod ar draws y Deyrnas Unedig gyda thaith Iris Ar Grwydr a hefyd i nifer o wyliau ffilm rhyngwladol.
'Nath y ffilm gael ei dangos yn BFI Flare, gŵyl ffilm LHDTC+ mwyaf Ewrop a'r ffilm fer iaith Gymraeg gyntaf i gael ei dangos yno, ac yng ngŵyl ffilm Frameline yn San Fransico, yr ŵyl ffilm LHDTC+ mwyaf yn y byd.
Braint yw cael dangos y ffilm yma ar draws y byd ond beth sydd yn hynod o werthfawr i fi yw pan fyddwn ni'n cael y cyfle i'w dangos hi i gynulleidfaoedd Cymraeg.
Es i i Pride Llansteffan dros y penwythnos ac roedd yr ymateb yr un mor egnïol a swnllyd â'r ymateb yn BFI gyda chynulleidfa o dros 200. Dwi mor falch bod y ffilm yma'n llwyddo i gyffwrdd pawb.

Leo yn sgwrsio am Teth yng Ngŵyl BFI Flare
Beth oedd dy weledigaeth wrth greu'r ffilm?
Fy mwriad i oedd i greu ffilm dda ac i adrodd stori dydyn ni heb ei chlywed o'r blaen am gymeriad sydd o ddiddordeb i bawb.
Roeddwn i eisiau addysgu heb bregethu, a gwahodd pawb i mewn i'r byd yma.
Wrth greu'r ffilm roeddwn i eisiau dangos y person tu ôl y profiadau.
Mae pobl traws yn gwneud lan canran mor fach o gymdeithas ond 'dan ni'n profi'r mwyaf o gasineb ar hyn o bryd gyda llwyth o ddadleuon a straeon camarweiniol amdanon ni yn y newyddion.
Ac ym mysg yr holl sŵn dwi'n credu bo' ni'n colli'r pobl tu ôl yr ystadegau a dwi'n gobeithio bod Teth yn atgoffa cynulleidfaoedd am y bobl arferol sydd jest yn trio byw eu bywydau mewn byd sy'n 'neud hwnna'n rili anodd.

Ffilmio Teth
Sut deimlad oedd creu a rhyddhau dy ffilm gyntaf?
Dwi wastad wedi caru ffilmiau ac mae wedi bod yn freuddwyd i ysgrifennu un ers o'n i'n fach ond doeddwn i byth yn meddwl byddai hynny'n bosib.
Roedd y profiad yn un bythgofiadwy a dwi'n teimlo'n hynod o lwcus fy mod i wedi cael y cyfle i greu ffilm mor bwysig.
Beth oedd wir yn sbesial am y profiad oedd pa mor gefnogol ac angerddol oedd yr holl griw tuag at y stori yma.
Roedd ganddon ni dîm arbennig yn gweithio ar y ffilm gan gynnwys chwe pherson traws. Mae'r fath yna o gynrychiolaeth ar y sgrin a tu ôl y llên mor brin a dwi'n hynod o falch ein bod wedi llwyddo i greu set mor gynhwysol.
Mae pwy sy'n gweithio ar y ffilm yr un mor bwysig â beth mae'r ffilm yn trafod.

Y cast a'r criw yn ffilmio golygfa yn y ffilm Teth
Pa mor bwysig yw creu ffilmiau cwiar yn Gymraeg?
Mae gweld dy hun ar y sgrin yn rhywbeth sydd mor mor bwysig ond ddim yn rhywbeth arferol i gymunedau lleiafrifol.
Mae'n dweud fwy na jest 'dyma stori amrwyiol'; mae'n dweud dyma pwy sydd yn ein cymuned ni, dyma ein straeon ni a maen nhw'n werthfawr.
Mae gweld cynrychiolaeth cwiar a thraws yn hanfodol mewn amser lle mae camwybodaeth a chasineb yn cael ei ledaenu mor hawdd.
Ond yn fwy pwysig yw cynrychiolaeth dda.
Dydw i ddim eisiau gweld cymeriad cwiar yn cael ei daflu i raglen er mwyn ticio bocs. Dwi moyn gweld straeon am bobl cwiar gan bobl cwiar yn enwedig yn y Gymraeg.
Am rhy hir mae'r naratif wedi dysgu bod rhaid i bobl LHDTC+ Cymraeg adael y wlad er mwyn byw eu gwirionedd ond trwy ddangos cymeriadau cwiar yn ein cyfryngau a llenyddiaeth 'dan ni'n gallu newid y naratif yna.
Mae ffordd i fod yn cwiar yn y Gymraeg a dylen ni gyd fod yn dathlu hwnna.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd8 Mehefin
- Cyhoeddwyd21 Mehefin