Ai roced Elon Musk adawodd ei hôl ar awyr Cymru?

- Cyhoeddwyd
Neithiwr, gwelodd bobl ledled Cymru droellen lachar yn disgleirio yn yr awyr dywyll.
Heidiodd nifer i'r cyfryngau cymdeithasol i holi beth oedd y siâp dieithr; diwedd y byd? Ymwelwyr estron o'r gofod?
Na, dim ond roced Elon Musk...

Trodd yr awyr yn las yn Y Felinheli
Roedd cwmni'r entrepreneur, SpaceX, wedi lansio'r roced Falcon 9 o Cape Canaveral, Florida ddoe.
Yn ôl neges gan y Met Office ar blatfform X, roedd tanwydd o'r roced wedi rhewi ac yn troi'n gyflym wrth adlewyrchu golau'r haul, gan edrych fel troellen yn yr awyr.
Cafodd ei weld mor bell i ffwrdd â Slofenia a Sweden.
Parodd y siâp enfawr yn yr awyr am rai munudau cyn diflannu.

Yr olygfa ger Bontnewydd
Un o'r rhai a lwyddodd i dynnu lluniau o'r ffurf estron oedd Elen Hughes:
"Ar Lôn Eifion o'n i, jest tu allan i Bontnewydd. Welis i'r speck bach o olau o mlaen i, uwch Ynys Môn.
"I ddechrau, o'dd o mor fach, 'sa ti'm yn meddwl fawr o'r peth, ond yn raddol o'dd 'na gwmwl o olau yn ffurfio o'i gwmpas.
"O'dd o'n od, achos o'dd o bron yn edrych fel golau seren tasa 'na niwl, ond doedd 'na ddim niwl, achos o'dd pob seren arall yn glir.

Newidiodd siâp y ffurf welodd Elen yn yr awyr, wrth iddi edrych arno
"O'n i'n ei weld o'n codi'n raddol o 'mlaen i, ac o'dd y golau yn mynd yn fwy a mwy llachar. O'dd ei siâp o'n newid; aeth o o fod yn speck i fod yn siâp pili-pala anferth, wedyn i fod yn siâp troellog.
"O'dd o jyst yn dod yn gliriach wrth iddo ddod uwch fy mhen i, wedyn aeth o tuag at Moel Eilio. Yna 'nath o dimio wrth bellhau.
"O'dd o'n brofiad eitha rhyfedd ond reit cŵl."

Y droell uwch ben Castell Caernarfon
Llwyddodd y ffotograffydd, Gwynfor James i gael lluniau o'r droellen uwch ben Castell Caernarfon. Roedd wedi gorffen tynnu lluniau ac wedi cadw ei gamera pan sylwodd ar y golau rhyfedd yn yr awyr:
"O'dda ni'n clywed hofrennydd yn y cefndir, ond ar ôl checio ryw ap sy' gyno ni er mwyn ffeindio allan lle mae awyrennau, oedd yr hofrennydd ochr gorllewinol i Ynys Môn, so dim honna odd hi.
"A wedyn 'nath y golau 'ma ddiflannu ond 'nath o ailymddangos wedyn dros y castell, a dyna pam nes i frysio mewn i'r car a nôl y camera, ond dim tripod yn anffodus neu fasa'r llun gymaint gwell.
"O'dd gen i'm syniad be' odd o."

Roedd golygfa debyg i'w gweld yn Rhuthun hefyd
Nid dyma'r tro cyntaf i ffurf o'r fath gael ei weld yn yr awyr.
Ymddangosodd droellen debyg dros Norwy ym mis Rhagfyr 2009; taflegryn (missile) wedi ei lansio gan Rwsia oedd tu ôl i hwnnw. Un o rocedau SpaceX oedd tu ôl i enghraifft arall yn Alaska yn Ebrill 2023.
Felly, wrth i'r ymdrechion i ddatblygu teithio i'r gofod barhau, a welwn ni fwy o siapiau rhyfedd yn yr wybren, tybed?
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021