'Angen ailhyfforddi diffoddwyr ar sut i daclo tanau'

Diffoddwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr adroddiad fod tactegau wedi rhoi diffoddwyr mewn perygl diangen ac wedi arwain at ddifrod i eiddo y gellid ei osgoi

  • Cyhoeddwyd

Bydd angen ailhyfforddi diffoddwyr tân yng Nghymru ar sut i daclo tanau, yn ôl adroddiad i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd y Prif Gynghorydd Tân ac Achub ac Arolygydd Cymru, Dan Stephens, y bydd yn rhaid i ddiffoddwyr "ddad-ddysgu" tactegau a phrosesau meddwl dros y degawdau diwethaf.

Dywed yr adroddiad fod tactegau a ddefnyddiwyd gan y gwasanaeth mewn "nifer sylweddol" o ddigwyddiadau wedi rhoi diffoddwyr tân mewn perygl diangen ac wedi arwain at ddifrod i eiddo yr oedd modd ei osgoi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen i'r tri awdurdod tân yng Nghymru weithredu ar y canfyddiadau.

Dywed yr adroddiad y dylai ei holl argymhellion gael eu gweithredu’n llawn erbyn Gorffennaf 2025, ar ôl dadansoddi 252 o ddigwyddiadau rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2023.

Fe’i cynhaliwyd ar gais comisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio’r gwaith o redeg y gwasanaeth.

Daeth adroddiad Mr Stephens i'r casgliad fod "tactegau a ddefnyddiwyd gan y gwasanaeth, mewn nifer sylweddol o ddigwyddiadau, wedi rhoi diffoddwyr tân mewn perygl diangen a/neu wedi arwain at ddifrod y gellir ei osgoi i eiddo".

"Mae gennym bryderon difrifol nad yw’r digwyddiadau diogelwch niweidiol a all ddeillio o hyn yn cael eu cydnabod, heb sôn am gael eu hadrodd.”

Canfu hefyd fod gweithdrefnau’r gwasanaeth ar gyfer diffodd tanau yn "ddi-drefn, yn gwrth-ddweud ei gilydd ac mewn rhai achosion yn wyddonol anghywir".

Mae'r adroddiad yn dweud fod y problemau yn debygol o fod ar waith mewn mannau ledled y DU.

'Dim beirniadaeth o ddiffoddwyr'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tai a Llywodraeth Leol Jayne Bryant: “Rwyf am ei gwneud yn glir nad oes unrhyw feirniadaeth yn yr adroddiad ar ddiffoddwyr tân rheng flaen, sy’n parhau i wneud eu gorau glas i amddiffyn bywyd ac eiddo.

"Gall y cyhoedd fod â hyder yn hynny.

"Mae'r mater yn ymwneud â sut mae diffoddwyr tân yn cael eu hyfforddi, eu cyfarparu a'r tactegau sy'n cael eu defnyddio i ymladd tanau."

Dywedodd y byddai'n siarad â llywodraethau'r DU a'r rhai datganoledig eraill i godi ymwybyddiaeth.

Mewn ymateb dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod "canfyddiadau’r adroddiad ymddangos yn bryderus" ond fod y tactegau a'r gweithdrefnau sy'n cael eu beirniadu yn rhai sy'n cael eu pennu ar lefel y DU.

Maen nhw hefyd yn pwysleisio nad oes beirniadaeth o ddiffoddwyr de Cymru, a bod y mater "yn ymwneud â hyfforddiant, offer, a thactegau ar lefel genedlaethol".