Llywodraeth i reoli Gwasanaeth Tân y De wedi adroddiad damniol

Ymladdwr tan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pedwar comisiynydd yn rheoli Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ar ran y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd

Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rheolaeth uniongyrchol dros Wasanaeth Tân De Cymru, wedi i adroddiad damniol sôn am ddiwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod o fewn y gwasanaeth.

Dywedodd y dirprwy weinidog partneriaeth gymdeithasol Hannah Blythyn ei bod hi'n "anodd gweld" y newidiadau gofynnol yn digwydd, heb yr ymyrraeth.

Fel arall, fe rybuddiodd bod yna risg y "gallai'r methiannau hyn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau a rhoi bywydau mewn perygl".

Mae pedwar comisiynydd a benodwyd gan y llywodraeth wedi cymryd rheolaeth dros bwerau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd Ms Blythyn y byddai ganddyn nhw bwerau i ailstrwythuro a diwygio rheolaeth y gwasanaeth a sicrhau "newid llwyr mewn prosesau, gwerthoedd a diwylliant".

Y pedwar yw:

  • Y Farwnes Wilcox, cyn-arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd;

  • Kirsty Williams, cyn-Aelod o'r Senedd dros Aberhonddu a Sir Faesyfed;

  • Vij Randeniya, cyn-Brif Swyddog Gwasanaeth Tân Gorllewin Canolbarth Lloegr;

  • Carl Foulkes, cyn-Brif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd/Getty/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar comisiynydd (gyda'r cloc o'r chwith uchaf): Carl Foulkes, Kirsty Williams, Vij Randeniya a'r Farwnes Wilcox

Fis diwethaf, daeth adroddiad Fenella Morris CB i'r casgliad bod penaethiaid Gwasanaeth Tân De Cymru wedi goddef aflonyddu rhywiol a cham-drin domestig y tu allan i'r gwaith.

Honiadau o rywiaeth ac ymddygiad ymosodol tuag at staff oedd wedi ysgogi lansio’r ymchwiliad, a ddaeth o hyd i "ddiffygion difrifol yn y gwasanaeth" ar ôl cael tystiolaeth gan dros 450 o staff.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd bod y gwasanaeth yn "goddef" diffoddwyr tân yn postio delweddau rhywiol yn eu gwisg swyddogol ar blatfform oedolion OnlyFans.

Ar ôl cyhoeddi'r canfyddiadau, ymddiheurodd y prif swyddog tân Huw Jakeway a chyhoeddi ei fod yn ymddeol.

Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Ionawr, fe gyhoeddodd prif swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway, ei fod yn ymddeol yn dilyn yr adolygiad damniol

Bydd y comisiynwyr yn dod yn lle Awdurdod Tân ac Achub De Cymru a'i 24 aelod, sy'n cynnwys cynghorwyr o 10 awdurdod lleol y rhanbarth.

Mewn datganiad beirniadol iawn i aelodau'r Senedd, dywedodd Ms Blythyn: "Nid oes gennyf hyder bod gan y gwasanaeth y gallu mewnol na'r gallu i oruchwylio ei adferiad ei hun.

"Mae rheolwyr ar bob lefel, hyd at, ac yn cynnwys yr uchaf, yn rhan o’r methiannau a nodwyd.

"Ni allant fod y broblem a'r ateb.

"Mae'n amlwg nad yw bwriad y prif swyddog tân i ymddeol yn ddigonol i ysgogi'r newid cyfanwerthol mewn prosesau, gwerthoedd a diwylliant a fydd yn angenrheidiol."

'Dim tystiolaeth' o newid

Dywedodd y gweinidog bod angen "arweinyddiaeth glir ac ymroddedig" i "yrru newid", ac nad oedd hi'n gweld "unrhyw dystiolaeth o hynny" ar hyn o bryd.

"Rwyf hefyd yn pryderu'n ddifrifol bod y methiannau hyn yn peryglu gallu'r gwasanaeth i weithredu'n ddiogel ac yn effeithiol," meddai.

"Mae hynny'n annerbyniol mewn unrhyw wasanaeth cyhoeddus, yn enwedig un sydd â’r cyfrifoldeb o amddiffyn pobl rhag niwed difrifol."

Fe wnaeth Ms Blythyn hefyd gyhuddo'r gwasanaeth o wneud "dim byd ystyrlon" i fynd i'r afael â galwadau tân ffug ers i Lywodraeth Cymru alw am weithredu ar y mater yn 2016.

"Mae nifer y galwadau ffug maent yn eu mynychu wedi codi'n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Mae'n amlwg mai hwn yw'r perfformiwr gwaethaf yng Nghymru, ac ymhlith grŵp o wasanaethau tân ac achub cyffelyb yng Nghymru a Lloegr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd hyn yn adlewyrchu'r "un ynysigrwydd rheoli a goddefgarwch o arferion gwael a nodwyd yn yr adolygiad", meddai Ms Blythyn wrth y Senedd.

"Nid yn unig y mae wedi arwain at gamymddwyn staff a gwahaniaethu rhwng pobl - mae hefyd yn effeithio ar ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau a diogelwch diffoddwyr tân, ac mae'n rhaid i ni weithredu i fynd i'r afael â hynny."

Dywedodd y gweinidog y bydd gan y comisiynwyr "bwerau llawn i ailstrwythuro a diwygio rheolaeth gwasanaethau a meithrin diwylliant positif, anwahaniaethol".

Ychwanegodd y bydden nhw'n parhau yn eu swyddi "nes bod y gwaith wedi ei orffen, a nes bod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn amlwg yn weithle cynhwysol a chroesawgar i bawb".

Nid oes amserlen wedi'i rhoi ar waith y comisiynwyr, ond yn ei hadroddiad roedd Fenella Morris yn amcangyfrif y gallai gymryd 18 mis i'w hargymhellion gael eu gweithredu.

Cam-drin 'systemig'

Mae'r canfyddiadau'n "hynod bryderus ac annerbyniol", meddai elusen Cymorth i Ferched Cymru, gan groesawu ymyrraeth yn y gwasanaeth.

Dywedodd yr elusen bod angen ymateb i'r "diwylliant systemig o gam-drin" er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn ddiogel i fenywod, gan godi pryderon penodol am "fethiannau difrifol a chamddefnydd pŵer systemig".

"Rydym yn canmol ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau atebolrwydd a diogelwch o fewn gwasanaethau cyhoeddus sy'n bodoli i amddiffyn ein cymunedau."

'Byth yn cyfaddawdu ar ddiogelwch'

Dywedodd y gwasanaeth eu bod yn "croesawu'r craffu a'r cyfeiriad a fydd yn cael ei ddarparu gan y pedwar comisiynydd".

"Rydyn ni eisiau pwysleisio i'r cyhoedd a staff na fyddan ni fyth yn cyfaddawdu ar eu diogelwch, ac fe gafodd hynny ei gefnogi yn yr adroddiad," meddai llefarydd.

"Mae'r gwasanaeth yn parhau i fwrw ymlaen â'r Cynllun Gweithredu Drafft mewn ymateb i'r argymhellion yn yr Adroddiad Adolygu Diwylliant Annibynnol a'r wythnos diwethaf cynhaliwyd pum sesiwn i ymgynghori â staff ar y cynllun, gyda thri arall wedi'u cynllunio ar gyfer yr wythnos hon.

"Mae pedwar gweithgor wedi cael eu creu i fwrw ymlaen i gyflawni'r Cynllun Gweithredu, a sefydlwyd strwythur llywodraethu, fel y manylir yn y Cynllun Gweithredu Drafft, a gyhoeddwyd ar ein gwefan ar 16 Ionawr 2024."

Pynciau cysylltiedig