Gweithwyr y gwasanaeth tân wedi eu 'gadael i lawr'

Ymladdwr tân
  • Cyhoeddwyd

Mae gweithwyr y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru wedi eu "gadael i lawr" gan y rhai sy’n eu llywodraethu, yn ôl pwyllgor o Aelodau’r Senedd.

Fe lansiodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad ar ôl adroddiad damniol i ddiwylliant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a phryderon am Stuart Millington, a gafodd ei benodi’n brif swyddog tân dros dro yn dilyn yr adroddiad.

Clywodd ymchwiliad y pwyllgor nad oes gan yr awdurdodau tân y sgiliau sydd eu hangen i lywodraethu’r gwasanaethau tân, a bod hyder staff wedi’i "danseilio" gan benodiad Mr Millington.

Mae Mr Millington yn wynebu tribiwnlys cyflogaeth yn gysylltiedig â’i waith fel dirprwy brif swyddog gyda Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru.

Mae cadeirydd y pwyllgor, Jenny Rathbone, wedi annog Llywodraeth Cymru i gymryd “camau radical”, gan ychwanegu bod angen newid brys i "adfer ffydd fel bod yr holl staff yn teimlo’n ddiogel yn y gweithle".

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn "ystyried y canfyddiadau’n ofalus fel rhan o raglen ehangach o ddiwygio llywodraethu, a gwella diwylliannol yn y sector tân".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stuart Millington ei benodi gan gomisiynwyr ddechrau'r flwyddyn

Fis Ionawr, fe wnaeth adolygiad o’r diwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ganfod fod diwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod o fewn y gwasanaeth.

O ganlyniad, fe osododd Llywodraeth Cymru bedwar comisiynydd i oruchwylio Gwasanaeth De Cymru yn lle'r Awdurdod Tân.

Penododd y comisiynwyr Mr Millington yn brif swyddog tân dros dro.

Yn ddiweddarach cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad i ddiwylliant y gwasanaethau tân eraill yng Nghymru.

Pethau wedi mynd yn 'llawer gwaeth'

Fe achosodd penodiad Mr Millington bryder ymhlith rhai diffoddwyr, gydag aelodau o Undeb y Brigadau Tân yn ne Cymru yn pleidleisio o blaid cynnig o ddiffyg hyder yn y penodiad ym mis Chwefror.

Dywedodd Cerith Griffiths, cynrychiolydd Cymru ar bwyllgor gwaith yr undeb, bod pethau wedi mynd yn "llawer, llawer gwaeth" ers i Mr Millington gael ei benodi.

Mae’r pwyllgor yn argymell bod Awdurdodau Tân yn cael eu diwygio ar ôl clywed nad oedd gan aelodau’r "sgiliau gofynnol" i graffu a goruchwylio'r ffordd y mae gwasanaeth tân yn gweithredu, a’u bod yn "annhebygol" o helpu i gyflawni newid diwylliannol.

Dywedodd Jenny Rathbone: "Cawsom ein siomi o glywed faint o bobl ar frig y system lywodraethu bresennol nad oedd i’w gweld yn ymwybodol o ba mor ddifrifol yw’r broblem."

Wrth ystyried penodiad Stuart Millington yn brif swyddog tân dros dro De Cymru, fe ddaeth y pwyllgor i'r casgliad fod "diffyg eglurder a naws amddiffynnol" nifer o unigolion a ymatebodd i’r pryderon hyn yn peri gofid.

Roedd yn poeni y gallai hyn "atgyfnerthu canfyddiadau negyddol" am ymrwymiad uwch reolwyr i wella diwylliant y gwasanaeth tân.

Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Chomisiynwyr Tân i ddod ag unigolion ffres â "sgiliau a phrofiadau" o’r tu allan i’r sector yng Nghymru i’r rolau allweddol sy’n gyfrifol am newid diwylliant.

Dywedodd Sioned Williams AS, sy'n aelod o'r pwyllgor: "Mae yna nifer o syniadau a chynigion wedi bod dros y blynyddoedd sydd heb gael eu gweithredu.

"'Dw i’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru fynd nôl at rai o’r syniadau hynny.

"Rydym ni’n awgrymu cwpl o bethau yn ein hadroddiadau ynglŷn â chael gwasanaethau i gydweithio’n well, ond hefyd ffyrdd o gryfhau rheolaeth a llywodraethiant.

"Rydyn ni wedi gweld, drwy’r adroddiadau sydd wedi bod yn y wasg, yr effaith sydd wedi bod ar staff, o ran y diwylliant sydd wedi datblygu, felly mae'n rhaid i ni edrych ar sut i atal hynny."

Daeth y cyfnod lle'r oedd modd i bobl wneud cais i fod yn brif swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ben fis diwethaf.

Pynciau cysylltiedig