'Braint' cyfarfod â bachgen o Ethiopia flynyddoedd wedi'r newyn

Tweli Griffiths yn cwrdd eto â'r plentyn a gyfarfu yn Ethiopia yn 1985
- Cyhoeddwyd
Ddeugain mlynedd ers i Michael Buerk ddarlledu ei adroddiad ysgytwol am y newyn ar gyfandir Affrica, mae newyddiadurwr o Gymru'n dweud bod y cyfnod yn parhau i fod yn fyw yn ei gof.
Daeth argyfwng Ethiopia i sylw'r byd ar ddechrau'r 1980au, wrth i filiynau o bobl gael eu heffeithio gan newyn a arweiniodd at gannoedd o filoedd o farwolaethau.
Aeth Tweli Griffiths i Ethiopia rai misoedd wedyn, ac mae'n dweud na allai "feddwl am yr un adroddiad ers hynny sydd wedi bod mor bwerus ag un Michael Buerk".
Tra'n gohebu i raglen Y Byd ar Bedwar yn nhre Korem, mae Mr Griffiths yn cofio'n arbennig cwrdd â Mohammed - bachgen newynog bump oed a oedd newydd weld ei fam yn cael ei bwyta'n fyw gan bac o hyenas.
"Nid dim ond pobl oedd yn newynu - roedd yr anifeiliaid gwyllt yn newynog hefyd ac yn aml gyda'r nos fe fydden nhw'n ymosod ar bentrefi yn chwilio am fwyd," meddai Mr Griffiths.

Tweli a Mohammed (a gafodd ei ailenwi yn Joseph) yn 1985
Yn 2005 fe ddychwelodd Mr Griffiths i Ethiopia ddwy waith - yr eildro aeth yno yn arbennig i ymweld â Mohammed ond bu'n gryn dasg i gael hyd iddo gan fod yr eglwys uniongred a'i fagodd wedi newid ei enw.
"Trwy ddyfalbarhau a lwc a bendith fe ddaethon ni o hyd iddo yn fyw ac yn iach mewn gwasg argraffu yn Awassa yn ne Ethiopia a'i enw erbyn hyn oedd Joseph - roedd y cyfan yn fraint ac yn anrhydedd.
"Roedd mynd yn ôl yn arbennig i'w gyfarfod yn werth bob munud o'r straen o geisio dod o hyd iddo," meddai.
"O'dd e ddim yn cofio fi ond yn falch o fy ngweld i - ond ddim mor falch ag o'n i o'i weld e."

Mae Tweli Griffiths yn cofio hefyd am ferch fach yn y mynyddoedd yn casglu caniau pop gwag i’w rhoi i’w mam i gario dŵr
Wrth gofio am ei ymweliad dywed Mr Griffiths fod pethau wedi gwella cryn dipyn yn Ethiopia erbyn iddo ef a'r criw gyrraedd yn 1985.
Erbyn hynny yn sgil y cyhoeddusrwydd roedd yna lawer o gymorth wedi llifo yno, a'r hyn roeddech yn ei weld, meddai, oedd rhesi diddiwedd o bobl yn disgwyl am y bwyd i'w cyrraedd.
"Peth cynta o'ch chi'n sylwi arno oedd gwallt y plant - roedd gwallt pob plentyn wedi ei dorri i siâp croes fel bod gan yr angylion rhywbeth i afael ynddo wrth fynd â nhw i'r nefoedd."

Tweli Griffiths ar fin hedfan i’r mynyddoedd yn 1985 mewn hofrennydd Llu Awyr Gwlad Pwyl
"Roedd Michael Buerk wedi disgrifio'r sefyllfa argyfyngus fel newyn Beiblaidd wrth i 100 o bobl y dydd farw - ac roedd y gwallt 'ma yn cadarnhau y ddelwedd Feiblaidd.
"Mae'n debyg bod ystafelloedd newyddion ar draws y byd wedi mynd yn hollol ddistaw wrth iddyn nhw weld adroddiad ysgytwol Michael Buerk yn dod lawr y lein."

Yng Nghymru fe gododd y gân Dwylo Dros y Môr arian at newyn Ethiopia
Un o'r rhai a welodd adroddiad Michael Buerk oedd y canwr Bob Geldof ac erbyn Nadolig 1984 roedd wedi recordio cân gyda cherddorion blaenllaw eraill, o dan yr enw Live Aid.
Llwyddodd Do They Know It's Christmas? i godi miliynau o bunnau at yr achos.
Yng Nghymru daeth nifer o gerddorion at ei gilydd i recordio'r gân Dwylo Dros y Môr.
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2020
"Erbyn heddi does dim anarferol am weld erchylltra ar y teledu - Gaza yn arbennig ac Wcráin," ychwanegodd Mr Griffiths.
"Efallai bod dod yn fwy cyfarwydd â'r adroddiadau cyson yma ar y newyddion yn ein himiwneiddio ni yn erbyn y sioc o weld cymaint o ddioddefaint yn ein byd."