'Angen dangos mwy o barch at olion diwydiant llechi Gwynedd'

Graffiti ym Mhen GarretFfynhonnell y llun, Ceridwen Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae graffiti ar waliau caban ym Mhen Garret, Dinorwig, yn gorchuddio enwau chwarelwyr oedd yn arfer yn ei ddefnyddio

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw ar ymwelwyr a phobl leol i ddangos mwy o barch at rai o olion y diwydiant llechi yn sgil pryderon dros ddifrod cynyddol.

Dywedodd un ddynes o Wynedd ei bod wedi ei "thristáu" ar ôl gweld graffiti a sbwriel helaeth mewn caban a oedd unwaith yn noddfa i weithwyr Chwarel Dinorwig, gyda rhai o eitemau hefyd wedi eu cymryd oddi yno.

Yn ôl elusen sy'n gwarchod a cheisio gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri, mae angen i'r cyhoedd fod yn fwy ystyriol o hanes cyfoethog y diwydiant oedd, ar un adeg, yn gyfrifol am roi to ar y byd.

Ychwanegodd Cymdeithas Eryri fod mwy o bobl yn ymweld ag ardaloedd oedd unwaith yn ddiarffordd a bod gwefannau cymdeithasol yn denu mwy o ymwelwyr.

'Effaith anferthol'

Mae Ceridwen Owen, sy'n byw yn Rhosgadfan, yn ymwelydd cyson â llethrau hen chwareli Gwynedd.

"Mae teulu'r gŵr wedi gweithio yn [chwarel] Dinorwig erioed 'lly, ei daid o a'i hen daid, a 'da ni'n meddwl fod hi'n bwysig cofio am ein treftadaeth fel pobl leol ac fel teulu.

"Mae gan y mab hynaf ddiddordeb aruthrol yn y chwareli."

Ceridwen Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceridwen Owen yn teimlo bod dyletswydd ar bobl i barchu'r ardal ac olion y diwydiant llechi

Ond dywedodd Ceridwen ei bod wedi ei siomi o weld difrod i rai o olion y diwydiant dros y blynyddoedd, rhywbeth y mae hi'n credu sydd wedi gwaethygu ers y cyfnod clo.

"Mae'r inclines a ballu wedi eu rhoi ar dân yn y flwyddyn diwetha' yn anffodus, a difrod hefyd i rai o adeiladau'r chwarel.

"Sbwriel ymhobman, pobl yn cynnau tân mewn llefydd a gwthio cerrig i ffwrdd lawr yr ochrau i mewn i'r pyllau, mae o i gyd yn cael effaith anferthol rili."

Sbwriel mewn heb caban ger Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryder bod sbwriel hefyd yn broblem gynyddol

Dywedodd Ceridwen iddi gael sioc wrth ymweld â chaban Pen Garret, a oedd unwaith yn lloches i weithwyr Chwarel Dinorwig.

"Oedd hi'n drist, flynyddoedd yn ôl mi oedd cotiau'r chwarelwyr yna a'r esgidiau a ballu dal ar y wal ond maen nhw i gyd wedi cael eu llosgi o be dwi'n ddeall.

"Mae 'na rywun wedi rhoi rhyw makeshift stove yna, a graffiti ar hyd y waliau.

"Mi oedd 'na sgwennu bendigedig gan hogia Pen Garret, enwau'r hen hogia oedd yn arfer gweithio ar y bonc yna, sy'n fendigedig.

"Ond prin bo' chi'n gallu gweld hynny rŵan, mae o wedi mynd hefo graffiti pawb arall sydd wedi bod yna, ac mae o'n hyll ofnadwy."

Ychwanegodd fod rhywun wedi bod yno i dacluso peth o'r sbwriel ers hynny, ond fod lle i'r cyhoedd fod yn fwy ystyriol.

"Mae 'na duty arnon ni, fel pobl sy'n ymweld â llefydd, i barchu'r ardal a'r amgylchedd, parchu lle ydan ni."

Lleu o flaen rhai o adeiladau Chwarel Dinorwig
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Lleu ddiddordeb mawr yn hanes chwareli'r ardal

Mae mab hynaf Ceridwen, Lleu, yn 10 oed ac yn ymddiddori yn hanes y diwydiant llechi yng Ngwynedd.

"Fysa taid ni wedi sacrificio ei fywyd i'w deulu o ac i helpu i gael pres," meddai.

"Dwi'n hapus fod pobl yn dod a bo' pobl yn gweld sut oedd y chwareli yn gweithio.

"Ond parchu'r lle... mae'n poeni fi fod neb yn parchu."

Disgrifiad,

Cafodd ardal llechi Gwynedd ei gynnwys ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO yn 2021

Roedd toeau adeiladau'r 19eg Ganrif yn dibynnu ar lechi gogledd orllewin Cymru, gyda'r chwareli yn ymestyn o ardal Bethesda i dde Meirionnydd.

Cafodd y llechi eu ddefnyddio ar adeiladau ar draws y byd gan gynnwys Neuadd Westminster yn Llundain, Adeilad y Royal Exhibition yn Melbourne Awstralia a Neuadd y Ddinas yn Copenhagen, Denmarc.

Fe gyrhaeddodd y diwydiant ei anterth yn y 1890au, gan gyflogi tua 17,000 o bobl tra'n chynhyrchu 485,000 tunnell o lechi y flwyddyn.

Er i ddefnydd a chynhyrchiant llechi Cymreig ddirywio yn ystod yr 20fed ganrif, yn 2021 fe ddynodwyd ardal chwareli llechi Gwynedd fel safle treftadaeth byd UNESCO.

Mae gan 900 o lefydd ledled y byd yr un statws - gan gynnwys Wal Fawr China a'r Taj Mahal yn India.

Gobaith Cyngor Gwynedd, a oedd yn arwain y cais, oedd y byddai sicrhau'r statws yn arwain at adfywio'r ardal a chreu swyddi newydd.

Rory Francis yn Cwmorthin
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rory Francis mae Cymdeithas Eryri wedi gweld enghreifftiau o barcio anghyfrifol, taflu sbwriel ac eitemau yn cael eu dwyn a'u symud

Mae Cymdeithas Eryri yn elusen sy'n gwarchod a cheisio gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri.

Maen nhw'n dweud bod asiantaethau yn ceisio gwneud eu gorau i amddiffyn treftadaeth yr ardal, ond bod lle i'r cyhoedd chwarae eu rhan hefyd.

Yn ôl cyfarwyddwr y gymdeithas, maen nhw wedi gweld enghreifftiau o bobl yn parcio'n anghyfrifol, taflu sbwriel ac olion yn cael eu dwyn a'u symud.

Ond dywedodd Rory Francis fod graffiti yn "broblem arbennig", a'i fod yn "gywilyddus" i weld olion y chwarelwyr yn cael eu gorchuddio.

"I raddau, wyrach fod pethau'n mynd yn waeth oherwydd bod mwy o bobl yn mynd i ardaloedd arbennig... ardaloedd oedd unwaith yn llefydd diarffordd," meddai.

"Ond mae pobl wedi gweld nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ardal Cwmorthin, ger Blaenau Ffestiniog

"Mae'r asiantaethau yn gwneud eu gorau, ac mae Gwynedd yn arbennig wedi dangos ymrwymiad mawr drwy gael y statws Treftadaeth y Byd," meddai Mr Francis.

"Dwi'n meddwl mai ymwybyddiaeth ydi'r peth pwysig, ond nid ar yr awdurdodau yn unig (y mae'r cyfrifoldeb), mae'n job i ni gyd fel trigolion lleol i siarad hefo pobl pan rydyn ni'n cerdded yn yr ardal ac esbonio'n glir.

"Ac mae pobl hefo diddordeb, mae'n bleser rhannu'r stori hefo pobl."

'Cysylltwch â'r heddlu'

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae hen gerrig copa ar waliau wedi eu torri neu eu dymchwel, a ger Chwarel Vivian mae cerrig wedi eu taflu i byllau chwareli, mae boncyffion coed wedi eu gwthio o'u lle ac mae arwyddion ffyrdd yn ardal yr Allt-Ddu wedi eu difrodi.

Yn fwyaf diweddar, dechreuwyd tân yn fwriadol mewn tŷ weindio ar ben inclein yr A1, Chwarel Vivian.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'n bwysig cofio bod ardaloedd fel Chwarel Dinorwig yn rhan o'r dirwedd llechi sydd wedi derbyn dynodiad Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae hyn yn golygu ein bod am ddiogelu a dathlu hanes, diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu am y chwareli a'r cymunedau a ddatblygodd o gwmpas yr ardal.

"Os oes unrhyw un yn gwybod am droseddau lle mae creiriau hanesyddol wedi eu difrodi dyler cysylltu â'r heddlu."

Pynciau cysylltiedig