Cerflun heddwch yn cael ei ddadorchuddio yng Nghricieth

Cerflun yr arweinydd ysbrydol o India, Sri Chinmoy, yng Nghae Crwn, Cricieth
- Cyhoeddwyd
Mae cerflun newydd wedi cael ei ddadorchuddio yng Nghricieth er mwyn hyrwyddo'r angen am heddwch.
Mae'n gerflun o Sri Chinmoy, arweinydd ysbrydol o India a sefydlodd y Ras Heddwch - ras ryngwladol lle mae ffagl yn cael ei basio o un i'r llall.
Neilltuodd ei fywyd i ledaenu achos heddwch ledled y byd, a heddwch mewnol ac allanol ym mhob bod dynol.
Mae'r cerflun wedi'i leoli yn rhandiroedd cymunedol Cae Crwn.
Dywedodd trefnwyr y Ras Heddwch eu bod wedi penderfynu rhoi'r cerflun i Gricieth ar ôl ymweld â'r dref ac Ysgol Treferthyr ym mis Mai.
Yn ôl Cyngor Tref Cricieth, roedd y sefydliad wedi'u "rhyfeddu gan harddwch y dref a chynhesrwydd ac ysbryd y bobl leol" yn ystod eu hymweliad ac fe benderfynon nhw gynnig cerflun fel rhodd.

Ymwelodd y Ras Heddwch â Chricieth ac Ysgol Treferthyr ar 2 Mai
Dyma'r seithfed cerflun sydd wedi ei roi i Gymru gan y Ras Heddwch - mae'r lleill ym Mae Caerdydd, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gardd Fotaneg Treborth, Parc Padarn, Wrecsam, a Phortmeirion.
Cafodd y cerflun diweddaraf, ac olaf, ei ddadorchuddio fore Llun gan AS Dwyfor Meirionydd Mabon ap Gwynfor, y Cynghorydd Delyth Lloyd, cadeirydd Cyngor Tref Cricieth, a'r cerflunydd Kaivalya Torpy.
Yn ystod y seremoni cafodd y Ffagl Heddwch ei phasio o gwmpas wedi darlleniad o gerddi byrion Sri Chinmoy.
Atgof o'r angen am heddwch
Sefydlodd Sri Chinmoy (1931-2007) y Ras Heddwch yn 1987 ac mae bellach yn ras gyfnewid hiraf y byd.
Mae rhedwyr yn cario Ffagl Heddwch sy'n cael ei throsglwyddo o berson i berson, wrth deithio o genedl i genedl.
Mae'r fflam wedi bod yn nwylo llawer o bobl enwog sydd wedi hyrwyddo heddwch gan gynnwys Nelson Mandela a'r Pab Ffransis.
Bwriad y cerfluniau heddwch yw bod yn atgof ymarferol i bobl o'r angen am heddwch – mewnol ac allanol, meddai'r trefnwyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.