Teyrnged i ddyn 'cariadus' fu farw ddiwrnod ar ôl ei ben-blwydd

Aron SinclairFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aron Sinclair mewn gwrthdrawiad ar yr A4138 diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 25 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Aron Sinclair, o Rydaman, mewn gwrthdrawiad ar yr A4138 rhwng Llanelli a'r Hendy tua 22:50 nos Fercher, 2 Ebrill.

Dywedodd ei deulu eu bod wedi'u "llorio" gan golled Aron, a oedd yn "fab, brawd, nai ac ŵyr cariadus".

"Roedd Aron newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 25 oed ddydd Mawrth, 1 Ebrill - y diwrnod cyn y gwrthdrawiad," medden nhw.

"Rydym yn torri ein calonnau ar ôl y golled sydyn o aelod mor werthfawr o'r teulu."