Tŷ, tractor a byrnau wedi'u difrodi wedi tân yn ardal Llangeler

Tractor a char yn wenfflam yn ystod tân difrifol yn ardal Llangeler
- Cyhoeddwyd
Bu dros 20 o aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin yn delio gyda thân difrifol ger Llangeler yn Sir Gaerfyrddin ar 18 Gorffennaf.
Dechreuodd y tân mewn tractor cyn ymledu i gerbydau eraill a thŷ.
Cafodd y gwasanaethau brys alwad yn fuan ar ôl 14:00 ac fe fu diffoddwyr yn delio gyda'r digwyddiad am dros deirawr.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân bod y tân yn y tŷ yn y gegin a'r atig ond nad oedd y fflamau wedi ymledu i weddill yr adeilad.
Mae'n debyg bod y tân wedi dechrau yn y tractor a bod y fflamau wedi cydio mewn llwyth o wair oedd ar y trelar.
Llosgi dau gar
Ymledodd y tân gan losgi dau gar cyfagos cyn i'r tŷ fynd ar dân.
Cafodd criwiau tân o Landysul, Aberteifi, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan eu hanfon i'r digwyddiad gyda chefnogaeth hefyd gan gerbyd digwyddiadau bychain Castellnewydd Emlyn ac uned gwarchod yr amgylchedd o Lanelli.
Ar ôl diffodd y fflamau, fe arhosodd diffoddwyr yn y lleoliad i wneud yn siŵr na fyddai'r tân yn ailgynnau.

Diffoddwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ceisio dod a'r tân dan reolaeth