Rhybudd y gallai darparwyr gofal plant gau wrth i gostau gynyddu
- Cyhoeddwyd
Mae darparwyr gofal plant yn siroedd Casnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i rybuddio y gallai busnesau gau heb fwy o gymorth ariannol.
Maen nhw'n dweud bod eu costau nhw yn uwch na'r hyn maen nhw'n ei gael trwy gynllun y llywodraeth i roi gofal plant am ddim i rieni.
Mae rhai o'r meithrinfeydd yn dweud bod y bwlch gymaint â £30,000 y flwyddyn.
Esboniodd Ellis Jenkins, rheolwr meithrinfa Sunnybank yng Nghasnewydd, fod eu costau "wedi cynyddu 40% dros y dair neu bedair blynedd ddiwetha'".
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud nad yw'r sector yn talu trethi busnes ac y byddan nhw'n adolygu faint maen nhw'n ei gyfrannu fel rhan o'r cynnig gofal plant yn flynyddol, yn hytrach na bob tair blynedd.
Dywedodd Ellis Jenkins fod yr heriau "o achos chwyddiant yn ogystal â'r cynnydd yn yr isafswm cyflog".
"Ar hyn o bryd mae 'na fwlch o £30,000 y flwyddyn rhwng beth y'n ni'n ei dderbyn, a'n costau," meddai.
"Ni'n ddibynnol iawn ar staff, a gyda'r arian yna fe allen ni fuddsoddi fwy ynddyn nhw i'w cadw nhw a gwneud y gwaith yn fwy deniadol."
'Meithrinfeydd yn cau yn barod'
Mae costau staff meithrinfa Wibli Wobli yng Nghasnewydd wedi cynyddu £2,000 y mis ers cyllideb Llywodraeth y DU.
Tra bod perchennog y feithrinfa Natasha Baker yn cytuno gyda'r codiad cyflog, mae hi'n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod yr effaith mae hynny wedi ei gael ar y sector.
"Naill ai mae'r llywodraeth yn talu digon i ariannu lleoedd go iawn, neu maen nhw'n caniatáu i ni ofyn am y gwahaniaeth rhwng beth maen nhw'n ei roi a beth y'n ni'n talu fel costau.
"Mae ein gorfodi ni i redeg ein busnesau ar golled yn gwbl groes i'n dyletswydd ni i fod yn gyfrifol yn ariannol a bod yn hunan gynhaliol."
Tra bod darparwyr gofal plant yn falch nad ydyn nhw'n talu trethi busnes, maen nhw'n dweud fod costau wedi cynyddu gymaint nad yw hynny'n ddigon i'w helpu nhw erbyn hyn.
"Y mwya' mae costau'n codi, y mwya' anodd mae'n mynd i ni," meddai Ms Baker.
"A gyda chostau ychwanegol mae meithrinfeydd yn cau yn barod.
"Os nad yw'r llywodraeth yn helpu mwy neu'n caniatáu ni i godi mwy, fyddwn ni ddim yn gallu goroesi."
Dim ond 9% yn gwneud elw
Yn gynharach eleni fe rybuddiodd y corff sy'n cynrychioli meithrinfeydd, yr NDNA, mai 9% o feithrinfeydd fyddai'n gwneud elw eleni, gyda thros 90% dim ond yn adennill costau neu'n gwneud colled.
Mae meithrinfeydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cynnig gofal plant i £8.80 yr awr er mwyn adlewyrchu'r effaith mae costau cynyddol yn ei gael ar y sector.
"Mae'r budd economaidd yn fawr," meddai Ellis Jenkins.
"Ry'n ni'n caniatáu i rieni ddychwelyd i'r gwaith, felly mae'r economi ehangach yn elwa."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y pwysau ariannol ar ddarparwyr gofal plant ac ry'n ni wedi gweithredu er mwyn eu cefnogi nhw".
"Ry'n ni wedi cael gwared ar drethi busnes i ddarparwyr gofal yn barhaol, ac fe fyddwn ni'n adolygu'r hyn ry'n ni'n ei gyfrannu drwy'r cynnig gofal plant yn flynyddol o hyn ymlaen, yn hytrach na bob tair blynedd."
Ychwanegodd eu bod "hefyd yn buddsoddi £100m yn y sector er mwyn cynnal gofal plant a'i alluogi i dyfu".
"Ry'n ni'n trafod gyda phartneriaid yn y sector i weld pa gefnogaeth ychwanegol y gallwn ni ei gynnig."