Penodi Garmon Rhys yn gyfarwyddwr dros dro BBC Cymru

Fe ddechreuodd Garmon ei yrfa gyda'r BBC yn 2000 fel newyddiadurwr
- Cyhoeddwyd
Mae Garmon Rhys wedi cael ei benodi'n gyfarwyddwr dros dro BBC Cymru.
Mae'n olynu Rhuanedd Richards, sydd wedi ei phenodi yn gyfarwyddwr dros dro'r cenhedloedd yn y BBC.
Fe ddechreuodd Garmon Rhys ei yrfa gyda'r y BBC yn 2000 fel newyddiadurwr, gan weithio mewn nifer o swyddi yn adran newyddion a materion cyfoes BBC Cymru.
Aeth yn ei flaen i arwain datblygiad strategaeth a pholisi ar gyfer BBC Cymru am dair blynedd, cyn dod yn ddirprwy bennaeth newyddion yn 2012, ac yna'n bennaeth newyddion a materion cyfoes yn 2017.
Ar hyn o bryd mae'n gyfarwyddwr busnes a gweithrediadau Cymru gyda'r gorfforaeth.
Dywed: "Rwy'n awyddus i barhau â'r gwaith gwych y mae Rhuanedd wedi'i arwain dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n frwd iawn dros gyflwyno cynnwys gwych o Gymru a darparu gwerth i'n holl gynulleidfaoedd."