Trosedd casineb honedig: 'Af i byth lawr fan'na 'to'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Lanbedr Pont Steffan sy'n cael triniaeth at ganser y fron yn dweud ei bod wedi dioddef ymosodiad homoffobig yn y dref yr wythnos ddiwethaf.
Dywed Heulwen Pronath, 45, fod dau ddyn wedi ymosod arni ar lwybr troed ger Afon Teifi wrth iddi fynd â'i chi am dro brynhawn Gwener.
Mae'n honni fod y dynion wedi gwneud sylwadau homoffobig ynghylch y crys-T roedd yn ei wisgo a'i thatŵs, cyn ei gwthio i'r ddaear, ei dyrnu a'i chicio.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r achos wedi i Ms Pronath gysylltu â'r heddlu.
"Byth yn mynd mas ar ben yn hunan"
Dywedodd wrth BBC Cymru ei bod ar fin dychwelyd adref gyda'i chi ar ôl treulio amser ar hyd yr afon, pan ddaeth y dynion ati a dechrau galw enwau arni oherwydd y geiriau 'Yes, my girlfriend bought me this' ar ei chrys-T.
"Pwshon nhw fi drosto, bwron nhw fi, cicion nhw fi," meddai. "Fi newydd ca'l operation i breast cancer a wedi ca'l chemotherapy, a fi'n syffro gyda nerves, panic attracks a petha' fel'na.
"Sa'i byth yn mynd mas ar ben yn hunan - o'dd e'n one-off bo' fi yn mynd mas," ychwanegodd. "Af i ddim mas i Llanbed ar ben i hunan ddim rhagor, a especially lawr i'r caea' ble ddigwyddodd e. Af i byth lawr fan'na 'to. Byth."
Dywedodd ei bod wedi dioddef troseddau casineb yn y gorffennol "oherwydd y ffordd wi'n edrych a gwisgo" mewn llefydd fel y Ceinewydd a Chaerfyrddin, ond roedd profi digwyddiad o'r fath yn y dref ble mae'n byw yn "sioc".
"Mae'n bryd i ni sefyll lan dros ein hunan," ychwanegodd. "S'da ni ddim byd i fod yn ashamed ymbiti."
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod ym ymchwilio i drosedd casineb honedig yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Gwener, 14 Awst.
"Dywedodd menyw bod dau ddyn wedi dod ati, gan wneud sylw ynghylch ei rhywioldeb ac ymosod arni wrth iddi gerdded ar y llwybr troed ger Cae Dash tua 15.35," meddai'r llu mewn datganiad.
"Mae nifer o ymholiadau wedi eu cynnal, gan gynnwys mynd o dŷ i dŷ, ac mae swyddog cefnogaeth troseddau casineb mewn cysylltiad â'r dioddefwr.
"Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys."