Hyfforddiant gwrth-hiliaeth a throseddau casineb i landlordiaid
- Cyhoeddwyd
Bydd hyfforddiant gwrth-hiliaeth a throseddau casineb yn cael ei gynnig i landlordiaid ac asiantau preswyl preifat yng Nghymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai landlordiaid wedyn yn gallu "cynnig cymorth priodol lle mae tenantiaid wedi profi hiliaeth a/neu droseddau casineb".
Ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai'r llywodraeth Lafur ganolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd yn hytrach na cheisio "arddangos rhinweddau".
Bydd Rhentu Doeth Cymru yn dechrau ar yr hyfforddiant - nad yw'n orfodol - yn ddiweddarach y mis hwn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn rhoi £25,000 i Rhentu Doeth Cymru i ddarparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth i landlordiaid fel eu bod yn gallu ymateb yn gyflym a chynnig cymorth priodol lle mae tenantiaid wedi profi hiliaeth a/neu droseddau casineb."
Bydd yr hyfforddiant yn rhad ac am ddim i landlordiaid ac asiantau.
Dywedodd y llefarydd y byddai'n "cyfrif fel tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn perthynas â gofynion hyfforddi i gael trwydded/ail-drwydded i osod a rheoli yn y sector rhentu preifat yng Nghymru."
'Siomi pobl Cymru'
Dywedodd Janet Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar dai: "Rydym yn gwybod bod Llafur yn siomi pobl Cymru drwy adeiladu hanner y cartrefi sydd eu hangen arnom.
"Gyda 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol, mae'r polisi hwn yn tynnu sylw oddi ar hynny.
"Unwaith eto, mae'r llywodraeth Lafur yn canolbwyntio ar geisio arddangos rhinweddau - a hynny mewn ffordd gostus - yn hytrach na darparu'r tai y mae dirfawr eu hangen ar Gymru."
Mae'r sector rhentu preifat yn cyfrif am 14% o stoc tai Cymru.
Mae data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021 yn dangos bod 4.9% o bobl Cymru yn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a bod y cymunedau lleiafrifoedd ethnig mwyaf yn byw yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.
Troseddau casineb
Mae ystadegau Troseddau Casineb Cenedlaethol 2020/21, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym mis Hydref 2021, yn dangos cynnydd o 15.7% yn nifer y troseddau casineb a adroddwyd yng Nghymru ers 2019/20.
Dros yr un cyfnod, cododd nifer y troseddau casineb gyda hil fel ffactor ysgogol yng Nghymru o 2,634 o achosion i 3,052 - cynnydd o 15.9%.
Eglurodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd landlordiaid ac asiantau "yn gallu dangos i ddarpar denantiaid a thenantiaid presennol eu bod wedi cwblhau'r hyfforddiant hwn i roi sicrwydd i'w tenantiaid y gallant droi atynt os ydynt yn profi unrhyw fath o hiliaeth neu drosedd casineb".
"Mantais ychwanegol yr hyfforddiant hwn yw y byddai landlordiaid ac asiantau sy'n ddioddefwyr hiliaeth neu droseddau casineb eu hunain yn gwybod ble i geisio cymorth a chefnogaeth," meddai.
'Sgiliau proffesiynol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (NRLA): "Rydym yn cefnogi, ac yn wir yn annog, unrhyw landlordiaid sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau proffesiynol trwy hyfforddiant achrededig.
"Yn bwysicaf oll, gall cael landlordiaid sydd wedi'u hyfforddi'n well helpu i ddarparu'r llety rhent preifat o ansawdd da sydd ei angen mor ddirfawr ar y wlad.
"Lle nad yw landlordiaid twyllodrus a throseddol yn cyrraedd safonau, rydym yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r pwerau gorfodi sydd ar gael iddynt i ymdrin â'r unigolion hynny yn gadarn."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, dolen allanol "tuag at greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030", a Chynllun Gweithredu LHDTC+, dolen allanol, sy'n anelu at "sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022