Cyhoeddi Neges Heddwch yr Urdd i'w rhannu gyda'r byd
- Cyhoeddwyd
Wrth ddathlu ymgyrch Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24, mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd eleni yn pwysleisio bod angen, ganrif yn ddiweddarach, galw o'r newydd am heddwch byd-eang.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf roedd bron i 400,000 o fenywod Cymru wedi llofnodi'r deiseb heddwch, ac ar 19 Chwefror 1924 agorwyd cist dderw Deiseb Heddwch Merched Cymru o flaen 600 o fenywod yr Unol Daleithiau yng Ngwesty'r Biltmore yn Efrog Newydd.
Galwodd deiseb menywod Cymru ar bobl dros y byd i gydweithio dros heddwch.
Mae'r neges honno wedi ysbrydoli’r Urdd i drefnu bod criw o fenywod ifanc yn dod at ei gilydd i lunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da y mudiad eleni.
Dydd Gwener bydd neges ‘Gweithred yw Gobaith' yn cael ei chyhoeddi mewn 65 o ieithoedd, ac mae ffilm o'r neges hefyd wedi'i chreu gan yr animeiddwraig Efa Blosse-Mason.
Bydd yr Urdd hefyd yn cynnal digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, ble mae Deiseb Heddwch 1923-24 yn rhan o arddangosfa ‘Hawlio Heddwch’ ar hyn o bryd.
Er mwyn creu'r neges, fe gynhaliwyd gweithdy arbennig i ferched o blith staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr yr Urdd, ynghyd â merched sydd wedi symud yma a gwneud Cymru yn gartref newydd, ac yn astudio ar gwrs ESOL (dysgwyr Saesneg fel ail iaith) yng ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Roedd teulu Shatw Ali wedi ffoi o Gwrdistan, ac mae hi yn un o'r rhai wnaeth gyfrannu at y neges.
Mae hi wedi byw yng Nghymru am bron i ddwy flynedd.
"Roedd fy mam arfer dweud y stori am sut y bu rhaid iddi hi a'i theulu ddianc oherwydd bod arfau cemegol yn cael eu gollwng ar y dref lle roedden nhw'n byw," meddai.
"Roedd y stori yn un o'r rhai mwya' trasig dwi 'di glywed yn fy mywyd."
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd20 Awst 2022
Oherwydd profiad ei theulu mae Shatw yn dweud ei bod yn dal i gredu mewn heddwch ac yn obeithiol y bydd modd sicrhau heddwch byd-eang.
"Mae'r neges yn help i roi gobaith i bobl dros y byd bod heddwch yn bosib a'n bod ni yn meddwl amdanyn nhw," meddai.
"Mae Cymru wedi helpu fi i deimlo bod heddwch yn bosib ac mae cwrdd â'r menywod yma yn y gweithdy a dysgu am y ddeiseb heddwch wedi g'neud i fi deimlo yn hapus a diolchgar fy mod i'n byw yma."
Yn ystod y gweithdy bu’r merched yn sôn am eu profiadau o heddwch – a’r diffyg heddwch ynghynt ym mywydau ambell un, gan gynnwys rhai o Afghanistan, Sudan, Somalia a Bangladesh.
Dywed cyfarwyddwr creadigol y neges, Casi Wyn, fod "treulio amser yn pontio’r ddeiseb hanesyddol ysgrifennwyd yn ôl yn 1924, gyda gweledigaeth merched Cymru heddiw, yn ysbrydoledig".
Mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething wedi cefnogi'r neges eleni.
"Mae’r neges yn adlewyrchiad o uchelgeisiau pobl ifanc Cymru ac yn alwad i arweinwyr y byd i weithredu, gyda’r nod i anelu at ddyfodol gwell i bob un ohonom," meddai.
"Yn fwy nag erioed, rwy’n annog pawb i ymgysylltu â’r neges a helpu i sicrhau bod lleisiau ein pobl ifanc yn cael eu clywed ledled y byd.”