Cerddwr mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro gan gar ym Môn

B4422
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4422 yn Rhostrehwfa

  • Cyhoeddwyd

Mae cerddwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Stoke wedi iddo gael ei daro gan gar ar gyrion Llangefni ar Ynys Môn yn ystod oriau mân bore Sul.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng y cerddwr - dyn lleol yn ei 40au - a char Ford Fusion glas ar y B4422 yn Rhostrehwfa am 01:13.

Dywedodd y llu fod y cerddwr wedi cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Stoke mewn ambiwlans awyr.

Ychwanegodd y llu ddydd Llun bod yr anafiadau yn rhai sydd o bosib yn perygl ei fywyd.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw, neu unrhyw ddeunydd fideo allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad.

Dywedodd y Sarjant Daniel Rees o’r Uned Troseddau Ffyrdd: "Hoffem siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd y B4422 yn Rhostrehwfa o gwmpas yr amser hwn ac a allai fod wedi gweld cerddwr neu sydd â lluniau camera cerbyd.

"Ry'n ni hefyd yn annog unrhyw drigolion lleol a allai fod â lluniau teledu cylch cyfyng i gysylltu â ni.”

Pynciau cysylltiedig