S4C: Manylion dyraniad ffi'r drwydded
- Cyhoeddwyd
Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi cyhoeddi manylion ynglŷn â faint o arian y bydd S4C yn ei dderbyn gan y gorfforaeth drwy ffi'r drwydded.
Dydd Llun cyhoeddodd Ymddiriedolaeth y BBC lythyr gan y cadeirydd, Yr Arglwydd Patten, at gadeirydd S4C, Huw Jones.
Mae'r llythyr yn amlinellu'r dyraniad y mae'r ymddiriedolaeth yn bwriadu ei wneud o ffi'r drwydded i S4C dros ddwy flynedd olaf setliad presennol ffi trwydded y BBC.
Dywed yr ymddiriedolaeth fod y dyraniad yn ddibynnol ar gytundeb rhwng Ymddiriedolaeth y BBC, S4C a Llywodraeth y DU ar drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd S4C yn y dyfodol.
Roedd y symiau ar gyfer 2013/14 a 2014/15 eisoes wedi cael eu gosod.
Dyw ffigurau'r ymddiriedolaeth ddim yn cynnwys 10 awr yr wythnos o raglenni y mae'r BBC yn ei ddarparu i S4C fel rhan o'r drwydded ar hyn o bryd.
Mae'r rhaglenni hynny werth tua £23 miliwn y flwyddyn, ond mae disgwyl i'r ffigwr yna ostwng i £20 miliwn erbyn 2013.
'Cyfraniad newydd a phwysig'
Dyma fanylion y dyraniad y mae'r ymddiriedolaeth yn bwriadu ei wneud o ffi'r drwydded i S4C dros y pedair blynedd nesa':
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran S4C fod Awdurdod y Sianel yn cwrdd nos Lun a'u bod yn "nodi'r telerau cyllido sy'n cael eu hargymell gan Ymddiriedolaeth y BBC".
Ychwanegon nhw fod hyn yn "gyfraniad newydd a phwysig i'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal" ac y byddan nhw'n gwneud sylw pellach ar y mater maes o law.
Cyhoeddodd Adran Ddiwylliant San Steffan newid yn nhrefn ariannu S4C 'nôl ym mis Hydref y llynedd, gan olygu fod y Sianel yn wynebu toriad o 25% yn ei chyllideb o £100 miliwn y flwyddyn.
Mae mudiadau iaith a rhai gwleidyddion yn dadlau y bydd y newidiadau yn effeithio ar annibyniaeth y Sianel.
'Angen sicrwydd'
Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Llun, fe groesawodd Plaid Cymru'r ffaith fod nifer o newidiadau diweddar i'r cynlluniau, ond bod angen sicrwydd pellach o ran cyllid er mwyn diogelu dyfodol y Sianel.
"Rydym ni hefyd angen sicrwydd na fyddai'r BBC yn dal cyllid yn ôl petai'r Ymddiriedolaeth yn anghytuno â phenderfyniadau golygyddol neu gorfforaethol S4C. Rydym ni angen gwybod beth fydd yn digwydd i gyfraniad £7 miliwn y llywodraeth yn ystod dwy flynedd olaf y setliad a beth fydd yn digwydd wedi'r siarter."
Dywedodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Trwy gydol y broses hon, rydyn ni wedi galw ar i'r gwleidyddion a'r darlledwyr i wrando ar lais bobl Cymru, ond dyw hynny heb ddigwydd. Rydyn ni wedi ennill consesiwn heddiw, ond dyw'r trafodaethau rhwng darlledwyr tu ôl i ddrysau caeedig heb fod yn ddemocrataidd. Pobl tu allan i Gymru sydd yn penderfynu ar ddyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg, dyna pam mae'n angenrheidiol bod y cyfrifoldeb dros ddarlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011